Braf iawn yw
derbyn ymateb i’r hyn mae rhywun yn sgwennu (neu ei ddweud). Yn ddiweddar bu
i’r cylchgrawn Golwg ail godi’r drafodaeth am adeiladwaith Sir Basil Spence yn
Atomfa Trawsfynydd ond fel esboniodd Magnox, bu i Cadw benderfynu peidio
rhestru’r adeiladwaith yn ȏl yn 2010 er fod y gerddi a gynlluniwyd gan Sylvia
Crowe wedi eu rhestr.
Er i Golwg yn
amlwg ofyn am ymateb gan Magnox, unwaith eto cafwyd yr ateb tila nad oes modd
derbyn pob cais i ymweld a’r safle “am resymau diogelwch”. Yr oll ofynais
amdano oedd cael ymweliad er mwyn sgwennu erthygl am bensaerniaeth Spence. Fel
y dywedais yn flaenorol ar y mater hyn – rwyf yn hynod siomedig gyda agwedd
Magnox.
Does fawr o
bwrpas trafod ymhellach, gwrthodwyd unrhyw gais i gadw pensaerniaeth Spence yn
ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn 2008-2009 felly mater o amser yw hi nawr
cyn bydd y safle yn cael ei dirweddu a choncrit Spence yn diflannu i bob pwrpas.
Cafwyd ymateb
llawer mwy positif i fy erthygl am Blas Gwynfryn, Llanystumdwy gan i mi dderbyn
galwad ffȏn gan Sian Davies, fferm Gwynfryn, yn rhoi gwahoddiad draw i mi gael
golwg agosach ar y plasdy, y gerddi a’r adeiladau cysylltiedig ar y fferm.
Fel yn achos
Atomfa Trawsfynydd, nid y fi yw’r cyntaf i leisio pryderon am adeilad
hanesyddol sydd mewn peryg neu sydd yn dirywio yn gyflym. Bu ychydig o drafod
2010 / 2011 ynglyn a chyflwr Plas Gwynfryn. Yn ȏl y son does dim wedi digwydd
ers hynny, a gan fod y tȏ wedi diflanu, mae synnwyr cyffredin yn dweud fod yn
rhaid fod yr adeilad wedi dioddef oherwydd glaw / dŵr hyd yn oed yn y ddwy neu
dair mlynedd dwetha.
Y pryderon
yma a fynegwyd gan rai mewn gohebiaeth gyda Chyngor Gwynedd sydd wedi arwain at
ambell un yn gyrru ebyst atof yn gofyn i mi oleiaf drio dod ac achos Plas Gwynfryn
i sylw ehangach. Y broblem fawr os wyf yn dallt yn iawn gyda Plas Gwynfryn yw
fod y buddsoddwyr o’r 1980au mwy neu lai wedi gadael i’r plasdy ddirywio ers
hynny. Wrth siarad hefo pobl leol, yr argraff yw nad oes neb yn siwr pwy sydd
yn gyfrifol am y plas bellach.
Yr hyn sydd
yn sicr, ac yn hollol amlwg, yw nad oes unrhyw un, neu gorff na sefydliad i
weld yn cymeryd cyfrifoldeb. Canlyniad colli tȏ yw bydd dwr glaw yn treiddio
drwy’r waliau. Rhowch 10-20-30 mlynedd arall iddi (neu lai) a bydd rhai o’r tyrrau
yna ar Blas Gwynfryn yn debygol o fod yn sigledig os nad yn dymchwel. Does ond
rhaid cymharu dirywiad Plas Pren, Hiraethog – yn fy oes i, mae Plas Pren wedi
bron llwyr ddiflannu – dim ond gaelodion y llawr cyntaf sydd bellach yn sefyll.
Y cwestiwn felly,
yw beth, os unrhywbeth, ddylid ei wneud nesa? Pam mor bwysig yw’r hen adeiladau
yma i ni fel Cymry? Beth bynnag yw’r ateb, cefais bnawn hyfryd yng nghwmni
Sian, Gwynfryn, yn cael esboniad o’r gwahanol adeiladau ar y fferm. Syndod er
engraifft oedd cael deall fod un adeilad ar un adeg wedi bod yn safle cynhyrchu
nwy ar gyfer y plasdy.
Pleser or
eithaf oedd cael crwydro’r hen erddi caeedig gyda Sian, gan gael cipolwg ar yr
hen daigwydr, a’r adeilad brics coch gyda tȏ sinc lle bydda’r garddwr wedi cadw
ei bethau dybiwn i. Wrth wneud ychydig mwy o ymchwil deuthum o hyd i safle we
welshruins.co.uk lle mae nifer o sylwadau gan rai sydd yn cofio’r plas pan
roedd yn westŷ dan ofal rhyw Mr Cotterrill, yn ȏl y son hyrwyddwr bocsio (a
chyfaill i’r Krays yn ȏl stori arall).
No comments:
Post a Comment