Yn ei
ragymadrodd i’r llyfr hynod a hanfodol, ‘100
o Olygfeydd Hynod Cymru’ mae’r awdur, Dyfed Elis-Gruffydd yn dweud hyn: “…
fy mod i’n mawr obeithio y daw darllenwyr y llyfr, heb sȏn am gynhyrchwyr
rhaglenni S4C, yn llawer mwy ymwybodol o bwysigrwydd y prosesau daearegol sydd
wedi rhoi bod i bryd a gwedd y Gymru sydd ohoni”.
Dyma chi ddyn
ar genhadaeth, i addysgu’r genedl am bwysigrwydd y prosesau daeaegol a phwy all
anghytuno. Cefais sgwrs gyda Dyfed yn ddiweddar, a gan wisgo fy het archaeoleg,
pwysleisiais nad oes cystadleuaeth rhwng y gwahanol astudiaethau – rhaid i ni
weld y darlun llawn, y cyd-destyn ehangach, y dirwedd yn ei gyfanrwydd. Mewn
ffordd rydym angen cofio mae mewn undeb mae nerth.
Ond rhaid
oedd ei holi am ei sylwadau ynglyn ac S4C. Fel un a dreuliodd rhan helaeth o’r
1980au ar 1990au yn feirnaidol iawn o ddiffygion S4C o ran adlewyrchu a
dadansoddi’r Byd Pop Cymraeg mae
rhywfaint o gydymdeimlad gennyf tuag at yr hyn roedd Dyfed yn ei fynegi. A
wedyn wrthgwrs fel un sydd wedi bod yn cenhadu dros Archaeoleg yn ystod y
blynyddoedd diweddar, dim ond rwan, rydym yn gweld cyfres fel ‘Olion Palu am
Hanes’ ar y sgrin fach yn ymdrin ac archaeoleg yn y Gymraeg.
Er tegwch i S4C
rhaid cydnabod fod y rhaglen ‘Darn Bach o Hanes’ a rhaglenni Fion Hague yn rhai
rhagorol ac yn rhai sydd yn gwneud cyfiawnder ag agweddau o Hanes Cymru ond yn
amlwg dydi hyn ddim yn ateb cwyn Dyfed. Efallai mae comisiynwyr S4C mae Dyfed
yn ei olygu yn hytrach na’r cynhyrchwyr. Y comisiynwyr sydd yn penderfynu beth
rydym ni y werin bobl yn ei weld.
Sawl gwaith
dros y blynyddoedd mae gwahanol gynhyrchwyr wedi dod atof gyda syniadau am
raglenni ar archaeoleg, rhai radio yn ogystal, ond y comisiynwyr – o fewn BBC
Radio Cymru ac yn y blaen sydd ar gair olaf. Does gennyf ddim ateb, ond
atgofion o’r union frwydr yma yn yr 1980au yn trio dwyn persawd ar ymchwilwyr a
chynhyrchwyr fod grwpiau fel Datblygu (ffefrynnau John Peel) a’r Cyrff (dau
aelod o Catatonia) yn rhai o safon.
Y tro dwetha
i mi sgwrsio hefo Huw Jones, Cadeirydd S4C, roeddem yn cymeryd rhan mewn
rhaglen o’r enw ‘Hawl i Holi’ gyda Dewi Llwyd ar gyfer BBC Radio Cymru yng
Ngregynog a gofynais i Huw pam na fydda S4C yn comisiynu mwy o gynnwys Cymraeg
ar gyfer y we yn hytrach na chanolbwytio eu holl egni ar y “sianel”, yr unig
sianel deledu Cymraeg.
Yma dwi’n
credu fod dadl ddilys.Y nȏd heddiw ddylia creu cynnwys Cymraeg aml-lwyfan yn
hytrach na “rhaglenni teledu”, Wedyn oes yw’r byd daearegol gyda apel
leiafrifol (does bosib) oleiaf gall Dyfed gael ei gyfres ei hyn ar safle we S4C
os ddim ar y brif sianel. Dwi ddim yn dallt pam fod hyn ddim yn digwydd ?
Ond cofiwch
dwi ddim chwaith yn deall sut mae’n bosib cael rhywbeth mor ddichwaeth ac
aflafar a Tomo ar y radio. Yn hyn o beth rwyf yn cael fy hyn yn cytuno a Gwilym
Owen ar adegau. Roedd yr holl ymgyrchu yn ystod yr 1980au ymlaen i godi safon
diwylliant Cymraeg i fod i gael gwared a phethau fel hyn unwaith ac am byth.
Os bu i
ymgyrchu’r 80au a 90au arwain yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol at lwyddiant
grwpiau pop fel Catatonia – lle aeth pethau o’i le?
No comments:
Post a Comment