Chwith i dde: David Dawson, Sian James, Rhys Mwyn.
Golygydd
Economeg y BBC yw Robert Peston, a digwydd ei glywed wnes i yn ddiweddar yn
sgwrsio ar y radio am ei elusen ‘Speakers For Schools’. Rhan o’r syniad yw fod
cyn-ddisgyblion yn dychwelyd i roi sgwrs yn eu hen ysgol gyda’r bwriad o
ysbrydoli’r genhedlaeth nesa i wneud yn dda neu i fynd amdani – i lwyddo mewn
rhyw ffordd. Ond mae rhestr faith ganddo hefyd o siaradwyr sydd wedi ymrwymo i
gefnogi’r elusen, yn eu plith engreifftiau fel
Danny Alexander, Paul Boateng, Sayeeda Warsi ac Ed Balls o’r byd
gwleidyddol.
Yng Nghymru
mae cynllun sydd yn cael ei gefnogi gan Llywodraeth Cymru o’r enw ‘Dynamo’ sydd
yn canolbwyntio ar ysbrydoli pobl ifanc i fentro yn y byd busnes gan gynnal
gweithdai mewn ysgolion a cholegau gan ‘fodelau rol’ o’r byd busnes Cymreig.
Ond fe waneth
syniad Peston ddod i’m meddwl bythefnos yn ȏl wrth i mi fod yn rhan o noson yn
Institiwt Llanfair Caereinion i godi arian tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol
ym Meifod. Roeddwn yno i gynnal sgwrs hefo’r arlunydd David Dawson, yn bennaf
am ei gyfnod yn gweithio gyda’r arlunydd enwog Lucian Freud. Felly rhwy noson “yng
nghwmni” David Dawson oedd hon, fi fel holwr a dros gant o bobl wedi troi allan
i gefnogi ac i wrando.
Yr hyn oedd
yn ofnadwy o ddiddorol am y noson (orlawn) oedd fod modd rhannu’r gynulleidfa
yn syth i’r Cymry Cymraeg (reoddwn yn eu hadnabod) a’r di-Gymraeg, nifer yn
fewnfudwyr (rioed di gweld nhw o’r blaen). Peth da yw hyn, neuadd bentref yn
orlawn yn enw’r Eisteddfod a chelf yn pontio rhwng y ddau ddiwylliant.
Peth da hefyd
yw gweld y di-Gymraeg yn mentro, neu yn agosau, tuag at y Byd Cymraeg
(Eisteddfod) er mewn gwirionedd tybiaf mae’r drafodaeth am Lucian Freud oedd
wedi eu denu. Ond dyna fo, dyma ddangos iddynt fod yna groeso, nad yw’r ‘pethe’
Cymraeg yn hollol styffi ac elitaidd. Croesawf hefyd y ffaith fod Lucian Freud
yn cael ei drafod yn y Gymraeg – mae’n gweithio ddwy ffordd. Mae’r Byd Cymraeg
ddigon agored (aeddfed) i gynnal sgwrs ddwy-ieithog am Lucain Freud i godi
arian i’r Steddfod.
Bron a bod
bydda rhywun yn awgrymu fod y trefnwyr wedi bod yn radical iawn yma, ond ar y
llaw arall dyma lwyddo hefyd yn y nod o godi arain tuag at Eisteddfod Meifod.
Pawb yn hapus. Da o beth.
Dawson yw un
o ffotograffwyr y llyfr hyfryd ‘Freud at Work’ ar y cyd a Bruce Bernard,
gyda Dawson yn gyfrifol am hanner y lluniau. Detholiad o’r lluniau yn y llyfr
yma oedd yn cael eu dangos yn y sgwrs yn Llanfair Caereinion. Cychwynais drwy
holi David sut y bu iddo gyfarfod a Lucian i ddechrau a dros yr awr nesa dyma
fynd am dro drwy bortffolio David o luniau o Freud wrth ei waith. Cafwyd
ychydig o hwyl wrth drafod llun Lucan Freud o’r Frenhines a David yn ddiplomat
rhagorol er fy nhuedd i dynnu coes.
Diwddglo’r
drafodaeth oedd dros ddwsin o gwestiynau neu sylwadau gan y gynulleidfa. Rydym
yn son yn aml fod nifer y cwestiynau yn aml yn adlewyrchiad teg o sut fath o
hwyl gafodd y gynulleidfa ar y noson. Dim cwestiwn o gwbl yn gyfystyr a diflas
– adre a ni, ond anarferol iawn yw cael gymaint o gwestiynau neu sylwadau ac y gafwyd
y noson hon yn Llanfair Caereinion.
Llywydd y
noson oedd Myfanwy Alexander, ac yn ystod y toriad hanner amser, fe ‘m
hatgoffwyd i wneud sylw o’r ffaith fod y tro ohonnom ar y llwyfan yn gyn
ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Caereinion. Yn sicr roedd yn braf gallu dweud hyn,
fod y tri ohonnom yn gyfoedion yn Ysgol Uwchradd Caereinion. Wrth edrych allan
ar y gynulleidfa doedd dim modd osgoi presenoldeb y gantores werin Sian James.
Fy nisgrifiad i o Sian bob amser yw cantores (telynores) gyda mwy o dalent yn ei
bys bach na’r rhan fwyaf o grwpiau gyda pedwar aelod.
Ac wrth
feddwl yn ȏl am fy nyddiau ysgol, cofiaf yn iawn wrnado ar Linda Gittins (Linda
Plethyn) yn canu mewn gwasanaeth neu steddfod ysgol, ei llais mor glir ac er
cyn llied roeddwn yn ddeall am gerddoriaeth cyn dyfodiad Punk Rock ym 1977
roedd yn amlwg fod Linda yn un arall hefo mwy o dalent yn ei bys bach na’r Sex
Pistols a’r Clash gyda’u gilydd.
Soniodd
rhywun ar y noson fod y ddarlledwraig Bethan Elfyn yn gyn-ddisgybl. Cofiwch mae
Bethan llawer fengach na ni felly fyddwn i ddim callach os bu hi yn yr ysgol
ond yr hyn sydd yn amlwg yw fod cymaint o dalent wedi dod o’r ardal, wedi mynd
drwy’r ysgol. Cofiwch ar y noson pwysleisias nad oeddwn yn ystyried fy hyn un
un o’r criw disglair yma. Doedd y di-Gymraeg ddim yn chwerthin ar fy jocs sal
a’r Cymry Cymraeg ddigon parod i fynegi barn am safon y jocs ar ddiwedd y
noson. Dwi ddigon ‘tyff’, mae angen trio codi gwen yndoes !
Deffrais y
bore wedyn yn fy ngwelu yn ȏl yn Sir Gaernarfon gyda’r teimlad hapus yna oedd
mor gyfarwydd ar ȏl cyngherddau da gyda’r Anhrefn. Y wefr a’r balchder fod hi
wedi bod yn noson dda, fod y gynulleidfa wedi mwynhau – a dyna’r peth pwysica.
Gyrrais neges destyn i David Dawson i ddweud fod hon wedi bod yn noson arbenig.
Fe gafwyd croeso cynnes gan bobl Maldwyn i’r cyn ddisgyblion ac rydym yn
ddiolchgar iawn iddynt am hynny !
No comments:
Post a Comment