Wednesday 10 February 2021

Bryngaer Pen y Gaer, Llanbedrycennin. (Cam i'r Gorffennol, 2014)

 


Pen y Gaer, Llanbedrycennin

Bryngaer, cyfnod cyn-hanesyddol hwyr / y mileniwm 1af cyn Crist.

Daw'r ethygl yma o'r gyfrol Cam i'r Gorffennol  (2014, Carreg Gwalch)

Saif Pen y Gaer rhyw 1,225 troedfedd uwch lefel y môr, ger pentref Llanbedrycennin, Dyffryn Conwy. Mae’n fryn amlwg sydd i’w weld o bell i deithwyr ar hyd yr A470 o Gyffordd Llandudno tuag at Lanrwst. Fel y mae sawl un wedi dweud dros y blynyddoedd, mae’n safle amlwg i adeiladu bryngaer, gyda golygfeydd da ac elltydd serth ar sawl ochr.       Mewn erthygl yn 1867 disgrifiodd yr archaeolegydd J. T. Blight Pen y Gaer fel safle ‘which has certainly not received the attention it deserves’− hawdd cytuno ag ef yn hynny o beth. Dyma un o drysorau archaeolegol Gogledd Cymru heb os.

O’i chymharu â Thre’r Ceiri (Pennod 6) mae hon yn fryngaer dipyn llai, ond fel yn Nhre’r Ceiri mae’r gaer wedi ei hamgylchynu gan fur o gerrig sychion. Yma ym Mhen y Gaer gwelwn hyd at dri chlawdd ar gyfer amddiffyn y gaer ar yr ochrau deheuol a gorllewinol, sef y llethrau llai serth, ond dim ond y clawdd mewnol sydd yn gyfan gwbl o gerrig, a darnau o’r clawdd canol ar yr ochr orllwewinol.

            Un peth mae’n rhaid ei ystyried felly yw ei bod yn berffaith bosib fod y cloddiau wedi eu datblygu a’u hychwanegu dros o amser os bu defnydd o’r gaer dros gyfnod hir. Dyma’r patrwm mewn safleoedd fel Castell Odo a Meillionydd lle mae sawl cyfnod o amgylchynu bryn hefo amddiffynfeydd – yn y dechrau, yn yr achosion yma, roedd cyfnod lle roedd yno dai crynion heb eu hamddiffyn o gwbl.

Does dim modd cadarnhau hyn ym Mhen y Gaer heb i archaeolegwyr archwilio’r cloddiau, ond mae’n bosibilrwydd y mae’n rhaid i ni oleiaf ei ystyried. Yn wahanol i Dre’r Ceiri, mae’n debyg mai cytiau crynion wedi eu hadeiladu o bren oedd yma, hyd at ddwsin ohonnynt. Eto, mae’n amhosib cadarnhau faint o’r rhain sydd o union yr un cyfnod heb waith cloddio. Yma, dim ond y sylfaen crwn wedi ei lefelu ar ochr y bryn sydd yn weddill fel awgrym fod yma unwaith dai.

            Yr hyn a ddarganfuwyd yng Nghastell Odo a Meillionydd yw fod y safloedd wedi cael eu sefydlu yn yr Oes Efydd Hwyr (900-800 cyn Crist) ac yn parhau mewn defnydd hyd at Oes yr Haearn (tua 200 cyn Crist). Mae Tre’r Ceiri yn debygol o fod yn hwyrach wedyn ac yn cael eu defnyddio’n ystod y cyfnod Rhufeinig; ond er bod gwaith cloddio wedi bod yma ym Mhen y Gaer ar ddechrau’r 20fed ganrif, ni ddarganfuwyd fawr ddim a oedd yn ein galluogi i roi dyddiad i’r cytiau neu’r adeiladwaith.



           

Dyma’r unig safle yng Ngogledd Cymru gyda chevaux de frise, sef, yn wreiddiol, mur i atal ceffylau (gweler yr eglurhad llawn isod) − neu, yn hytrach, o bosib, yr unig un sydd wedi goroesi. Mae ystyried hyn yn gwneud Pen y Gaer, sy’n fryngaer drawiadol beth bynnag, yn safle pwysicach byth. Cofiaf fynychu penwythnosau archaeoleg ym Mhlas Tan y Bwlch yn ystod fy nyddiau ysgol ddiwedd y saith degau, a gwrando ar yr archaeolegydd Peter Crew yn sôn am y chevaux de frise a chael fy ysbrydoli i ymweld â’r safle yma pan gawn y cyfle. Ar y pryd roeddwn yn byw yn Sir Drefaldwyn,yn bell iawn o Ben y Gaer a Dyffryn Conwy, felly bu cyfnod o rai blynyddoedd rhwng darlithoedd Crew a f’ymweliad cyntaf â’r safle.




Un o’r erthyglau cyntaf i’w chyhoeddi am Ben y Gaer oedd adroddiad J. T. Blight yn Archaeologica Cambrensis yn 1867, a’r hyn sy’n ddiddorol am yr erthygl honno yw ei bod yn cyfeirio at Ben y Gaer fel ‘Pen Caer Helen’ gan nodi nad yw’r enw mewn defnydd mor aml â hynny. Mae Blight yn awgrymu cysylltiad rhwng yr enw â Sarn Helen, y ffordd Rufeinig sydd i’w gweld ger Bwlch y Ddeufaen (SH 716718) rhyw filltir i’r gogledd-orllewin o Ben y Gaer.

            Mewn gwirionedd, go brin bod unrhyw gysylltiad rhwng bryngaer Pen y Gaer ac unrhyw wraig o’r enw Helen, Rhufeinig neu beidio, ac fel y noda Babington (1881) mae defnydd o enwau chwedlonol yn dystiolaeth o cyn lleied yr oedd y rhai a fedyddiodd y llefydd yma yn ei wybod am eu gwir hanes. I ddyfynu Babington: ‘This in itself a proof that those who bestowed present names upon them were unacquainted with their origin.’Ar y llaw arall, o safbwynt traddodiad a hanes Cymru mae’r enwau yma’n hynod ddidorol. Nes i mi ddechrau pori yn ôl-rifynnau Archaeologica Cambrensis roedd yr enw Pen Caer Helen yn ddiethr i mi.

            Does neb yn cyfeirio at y safle fel Pen Caer Helen erbyn heddiw, a rhaid cyfaddef fod rhywbeth diddorol iawn ynglŷn â darganfod yr hen enwau a ddefnyddid ar un adeg ar safloeodd fel hwn. O ran y cyd-destyn ehangach, mae’r enwau hefyd yn rhan o’r darlun llawn – yn rhan o’r stori.




 

Chevaux de vrise

Ystyr chevaux de frise yw rhywbeth i atal ceffylau rhag ymosod ar safle arbennig, a’r hyn sydd i’w weld ym Mhen y Gaer yw cannoedd o gerrig neu feini oddeutu 0.5 medr o uchder wedi eu gosod o amgylch y bryn tu allan i amddiffynfeydd y gaer (sef y muriau cerrig arferol).

            Y syniad, mae’n debyg, yw bod y cerrig yma i fod i rwystro ceffylau (a dynion yn rhedeg) rhag ymosod ar y gaer. Gellir awgrymu hefyd bod yr holl beth yn ddatganiad o statws y safle ac felly’r llwyth neu’r bobl oedd yn byw yno. Mewn un ystyr does dim ond angen amddiffynfeydd os oes bygythiad o ymosodiad, ond mae mwy o drafod yn ddiweddar ynglŷn â phwrpas y bryngaerau yn gyffredinol a’r syniad bod rhywbeth arall yn bwysig i’r trigolion heblaw’r elfen o amddiffyn yn unig – bod yr holl broses o adeiladu cofadail, gan gynnwys ybensaernïaeth, yn bwysig ynddi ei hun fel datganiad o statws neu o gydweithrediad y gymuned oedd yn byw yno.

            Efallai fod y chevaux de fries hefyd yn dynodi rhyw fath o ffin o amgylch y gaer – yn sicr, byddai’r cerrig yma’n hollol amlwg, os nad yn hynod drawiadol, wrth i rywun agosáu at y gaer. Byddai hyn fel rhybydd mewn ffordd: dyma le pwysig, cadwch draw os ydych yn elynion!

            Byddai tir y trigolion yn sicr wedi ymestyn o gwmpas yr ardal. Byddai eu tir amaethyddol efallai yn ymestyn i gyfeiriad Pant y Griafolen i’r gorllewin, ac mae olion cytiau crynion hefyd i’w gweld yma (SH 708667).

            Mae Branwell (1883) yn dyfynu Thomas Pennant wrth iddo ddisgrifio’r chevaux de vrise fel:

 

 ... two considerable spaces of ground thickly set with sharp pointed stones set up-right in the earth, as if they had been meant to serve the use of chevaux du fries [sic] to impede the approach of an enemy ...

 

Mae’n debygol felly fod Pennant wedi ymweld â’r gaer dros ganrif ynghynt.

            Yn cyd-fynd ag erthygl Branwell mae llun inc sydd, yn ôl Branwell, yn gopi o lun ffotograffig gan Mr Worthington Smith o’r chevaux de fries, ac er bod maint y cerrig yn fwy yn y llun  nag y maent go iawn, yr awgrym gan Branwell yw eu bod yn y lle iawn, felly, o bosib, dyma gofnod cywir o safle’r meini yn y 19fed ganrif.

            Awgrym arall a geir gan Blight yn 1867 yw fod y chevaux de frise yn awgrym o lwyth mewnfudol yn hytrach na brodorion, gan fod amddiffynfeydd o’r fath mor anghyffredin yn Nghymru. Damcaniaeth Blight yw fod hwn yn draddodiad wedi ei drawsblannu o orllewin Iwerddon neu Arran yn yr Alban, ac efallai fod mewnfudwyr o’r ardaloedd rheini wedi dod â’r traddodiad hefo nhw. Does dim sail pellach nac unrhyw dystiolaeth archaeolegol fod hyn yn gywir.

            Yn adroddiad blynyddol y Cambrians yn 1881, mae C. C. Babington yn cyfeirio at engraifft arall o chevaux de vrise yn Dun Angus, Ynysoedd Aran, yn yr Iwerddon (Dun Aonghasayn yr Wyddeleg). Mae hefyd yn awgrymu fod rhywbeth tebyg i’w weld o amgylch Caer Drewyn ger Corwen (SJ 088444) ond does fawr o sôn am hyn erbyn heddiw, felly pwy a ŵyr ar ba sail y gwnaeth Babington awgrym o’r fath.

Yn ystod ymweliad gan Griffiths a Hogg â Chaer Lleion (Caer Seion) ar Fynydd Conwy (SH 760778) yn 1956 gwelwyd dwy garreg yn sefyll i fyny ger y fynedfa a rhagdybiwyd fod rhain, efallai, yn weddillion o chevaux de vrise; ond disodlwyd y cerrig gan y ddau ymwelwydd, felly go brin mai dyma oedd pwrpas y meini rheini. Er mwyn bod yn sicr cynigiodd Dr Willoughby Gardner y byddai’n werth cloddio’r ardal, ond ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw olion pellach.

Awgrymwyd gan Gardner ei bod yn bosib fod chevaux de vrise yn un o ffosydd Moel y Gaer, Llanbedr Dyffryn Clwyd − ond eto does dim tystiolaeth bellach o hyn, felly parhau mae statws Pen y Gaer fel yr unig chevaux de vrise yng Nghymru.

            Nodir gan Blight fod meini y chevaux de frise yma yn llai o ran uchder na’r rhai ar Arran, ond yr hyn sy’n amlwg wrth ymweld â Phen y Gaer yw fod y cerrig yma, ar yr ochr orllewinol a’r ochr ddeheuol, yn ychwanegu at amddiffyn y ddwy fynedfa, a bod hyn ar yr ochrau sy’n amlwg yn llai serth o amgylch Pen y Gaer.

            Wrth ymweld â’r gaer yn 1867 mae Blight yn nodi fod olion cytiau crynion i’w gweld tu mewn i’r gaer. Cafwyd llythyr yn Archaeologica Cambrensis 1874 yn disgrifio ymweliad â’r safle gan ŵr a elwid yn‘R. W. B.’ sydd mwyn neu lai yn ategu disgrifiadau Blight.

            Bu gwaith cloddio archaeolegol ar y safle dechrau’r 20fed ganrif, ac mewn adroddiad byr yn Archaeologica Cambrensis1906 mae Gardner, a gloddiodd ar y cŷd â gŵr o’r enw Harold Hughes ar ran y Nant Conwy Antiquarian Society, yn sôn am roi ffos drwy ran o’r chevaux de vrise a thrwy darnau o’r ffosydd a’r mur. Yr hyn sy’n ofnadwy o ddiddorol yw iddynt weld fod y cerrig chevaux de frise wedi eu gosod ar bridd clai, lliw coch (sef y pridd naturiol) ond bod haenen o fawn wedyn yn gorchuddio darnau o’r cerrig.

            Awgrym Gardener oedd bod y cerrig yn agosach at ei gilydd ac yn gerrig mwy ar waelod y bryn, a bod y cerrig yn lleihau o ran maint ac yn gorwedd yn bellach oddi wrth ei gilydd wrth agosáu at y gaer. Rhaid cofio, gydag unrhyw ddamcanaieth o’r fath, fod yna gwestiwn ynglyn â faint o gerrig sydd wedi cael eu symud oddi yno dros y canrifoedd. Petai rhywun yn cloddio yno heddiw byddai modd gweld olion tyllau ar gyfer unrhyw gerrig coll, ac o ganlyniad byddai’n bosib cael argraff o wir batrwm a natur y chevaux de fries.

Ceir awgrym hefyd (os yn gywir) fod elfen neu ddarn arall o chevaux de frise yn y ffos fewnol gan iddynt gloddio dwy garreg oedd yn dal i sefyll i fyny, a llawer mwy o gerrig pigog oedd wedi disgyn. Dyma awgrym Gardner ynglŷn â Moel y Gaer (uchod) hefyd, wrth gwrs.

Ydi hi’n bosib felly fod y cerrig miniog yma yn y ffos yn ychwanegu eto fyth at amddiffynfeydd y gaer? Yn sicr byddai croesi’r ffos wedi bod yn dipyn o her i unrhyw ymosodwyr.Yn wir, wrth gloi ei adroddiad mae Gardner yn rhoi sylw i faint o amddiffynfeydd y byddai unrhyw ymosodwr yn gorfod eu croesi – roedd y gaer yma wedi ei hamddiffyn o ddifri. Unwaith eto, rhaid nodi nad oes neb arall yn y cyfamser wedi profi bodolaeth chevaux de fries oddi mewn i unrhyw ffos − yma ym Mhen y Gaer nag ym Moel y Gaer.

Rhywbeth arall a grybwyllir gan Gardner, a rhywbeth sy’n berthnasol i gymaint o’n henebion yng Nghymru, yw’r tebygolrwydd fod rhan helaeth o’r muriau cerrig sychion wedi eu cludo ymaith dros y canrifoedd ar gyfer adeiladu waliau sychion caeau yn y cyffiniau.

Yn ôl Gardner, mewn adroddiad diweddarach yn 1926, mae’n bosib fod ffrwd fechan i’r gogledd-orllewin yn darparu cyflenwad o ddŵr ar gyfer y trigolion yma ym Mhen y Gaer. Dyma chi gwestiwn sydd yn codi yn aml: lle oedd pobl yn cael eu dŵr? Fel arfer, yr ateb yw ‘yn gyfagos’.

Pwynt arall diddorol sy’n codi o drafodaeth Gardner (1926) am y ffosydd yw ei ddisgrifiad o’r ochrau fel ‘slatey scree’. Mae’n debyg iawn fod ffosydd bryngaerau yn cael eu glanhau o bryd i’w gilydd. Byddai glaw ac erydiad naturiol yn golygu fod sbwriel neu bridd yn cael ei olchi i mewn i’r ffosydd, a byddai’r ochrau yn tueddu i fynd yn llai serth. Felly byddai ail dyllu a chlirio yn cadw’r ffosydd yn serth ac o ganlyniad yn anodd i’w croesi. Dychmygwch drio dringo allan o ffȏs gyda ochrau serth iddi − yn enwedig un gyda ochrau llithrig o ‘slatey scree’!