Wednesday 26 February 2020

Dinas Emrys a'r European Regional Development Fund, Herald Gymraeg 26 Chwefror 2020


Craflwyn / Dina Emrys



Bore Sul fe ddeffrais gan wybod mai Dinas Emrys fydda fy nhaith gerdded pnawn Sul. Yn aml iawn rwyf yn gadael fy ngreddf / teimlad mewnol benderfynu lle dwi am fynd i gerdded. Does dim mapiau OS allan ar y bwrdd y noson gynt nac unrhyw baratoi manwl, dwi jest yn codi ac yn gwybod lle dwi am fynd. Lle dyliwn i fynd!

Peth rhyfedd yw hyn mewn ffordd ond y disgrifiad gorau yw fod rhywun yn ‘gwrnado’ ar ei ‘deimladau’. Os di’r teimlad yn iawn dyna ni – ffwrdd a ni. Wythnos yn ôl roeddwn yn llai sicr ond yn gwybod fod rhaid anelu am Eifionydd. Dyma yrru yn y car i gyfeiriad Llangybi a phenderfynu munud olaf y byddwn yn mynd draw at Ffynnon Gybi. Unwaith ro’ ni wrth y ffynnon dyma benderfynu fod angen mwy o awyr iach a felly dyma fras gamu fyny at fryngaer Oes yr Haearn, Garn Bentyrch.

Wythnos yn ôl roedd y gwynt yn gryf. Prin fod modd sefyll ar gopa Garn Bentyrch a’r unig loches oedd yn y ffosydd rhwng y tri clawdd sydd yn amgylchu’r gaer aml-gyfnod. Ond, roedd y golygfeydd dros Eifionydd yn gwneud yr ymdrech yn un werth chweil. Does dim gwell nagoes, na sefyll ar gopa a gallu gweld yn bell.


Castell tywysogion Gwynedd

Wrth deithio am Ddinas Emrys roedd y blodau melyn allan ar y cennin Pedr. Welais i ddim ŵyn bach ond roedd na rhyw deimlad fod y Gwanwyn ar droed. Roedd yr Haul allan yng Nghraflwyn. Y maes parcio yn weddol ddistaw. Tynnais lun o arwydd ERDF yn cofnodi fod arian Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru wedi ariannu’r arddangosfa tywysogion Gwynedd.

Rhai blynyddoedd yn ôl fe weithiais gyda staff Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Craflwyn ar gynllun Ein Treftdaeth yn dehongli Dinas Emrys. Fel archaeolegydd llawrydd fe gefais waith pellach ar gynllun Ein Treftadaeth gan Cadw a Chyngor Gwynedd. Meddyliwch cael ein talu i ddehongli Hanes Cymru. Diolch i arian Ewrop. Wel mae hunna wedi mynd rwan yndo.

Mae mor anodd peidio bod yn flin hefo’r ‘Little Englanders Brecsitaidd’. Mae nhw di cael yr hawl i basport glas. Llongyfarchiadau. Dyna’r unig beth mae nhw yn mynd i gael. Ond mae o yn gwylltio rhywun pan mae rhywun yn sylweddoli fod rhan o incwm rhywun am ddiflannu am byth.

Fel nifer o bobl llawrydd rwyf yn gwenud gwaith tywys dros yr Hâf. Rwyf wedi dilyn cwrs er mwyn derbyn Bathodyn Glas fel tywysydd Cymreig a rhaid cyfaddef fod yr incwm da ni’n ennill drwy dywys Americanwyr o amgylch cestyll Cymru dros yr Haf yn gwneud byd o wahanaieth. Siawns bydd yr Hâf yma yn OK ond beth am 2021? Beth fydd sefyllfa tollau Caergybi erbyn 2021. A fydd y llongau Cruise dal i ddod ar ôl Brexit?

Dwi’n gwybod bydd llawer yn ddrwgdybus am ‘werthfawrogi’ cestyll Edward I ond hebddynt byddai economi gogledd Cymru llawer tlotach. Chydig iawn o waith tywys sydd i’w gael gan Gymry Cymraeg, felly da ni’n ddiolchgar i’r Americanwyr a’r Almaenwyr. Dyma’r pris os am gadw busnesau Cymraeg yn fyw. Di’o ddim yn bris go iawn – dwi rioed wedi tywys neb o amgylch Caernarfon, Harlech, Conwy na Biwmares heb grybwyll Llywelyn ab Iorwerth, ap Gruffudd a Glyndŵr.

Rhaid trafod y cyd-destun ehangach os am ddealltwriaeth o’r Hanes – does dim Hanes Cymru heb ddeall Edward I. Ffaith – yn hynny o beth rwyf yn cytuno hefo Kirsty Williams – mae hanesion Cymru yn plethu i greu yr Hanes cyfan.

Gan fod y Cymry heb gael hanes Cymru yn yr ysgol – does dim cymaint o ddiddordeb nagoes. Be fyddwn wedi ei alw yn ‘self-imposed stupidity’. Ches i ddim gwersi gwylio adar na astronomeg yn yr ysgol ond dwi’n nabod y robin goch a sêr Orion. Does dim rhwystr rhag darllen, darganfod, teithio, Google hyd yn oed. Rhaid cael gwared a’r ‘victim culture’ os da ni am symud ymlaen. Pa ots be mae cyflwynwriag Sky yn ddweud am yr iaith – da ni uwchlaw hynny.

Ofnaf y bydd Brexit yn niweidiol i’r gwaith tywys – cawn weld. Heb os bydd Brexit yn niweidiol i’r maes treftadaeth ac archaeoleg. Ah wel, oleiaf mae gennyf fy sioe radio ar nos Lun – fydda’i ddim yn y wyrcws fel fydda nain yn deud. Ond Rhys bach – dyna’r targed nesa. Am ryw reswm mae’r Brexiters wedi troi ar y BBC rwan. Os bydd y wasg boblogaidd adain-dde a’r cyfryngau yn parhau a’r iaith ymosodol, y BBC fydd nesa ar ol yr UE - ar fai am bopeth, gan gynnwys siap bananas. Does dim taw ar hyn.

Tydi Brexiters ddim yn poeni am sioe Huey ar fore Sadwn ar BBC 6 Music mwy nac ydynt yn poeni am sioe Georgia ar nos Fawrth ar Radio Cymru.Yn eu hatgasedd blin di-ddiwedd maent am wared a phopeth bron. Unrhywbeth sydd yn rhoi pleser. Yn ogystal a chael gwared a gofalwyr a staff yr AIG mae Priti am rwystro cerddorion ac artistiad rhag teithio a pherfformio.

Nid jest gadael sefydliad yr Undeb Ewropeaidd yw hyn, tydi hynny ddim yn ddigon – mae nhw am rwystro ni rhag fwynhau cyngherddau rhynglwadol yn y theatr a gwrando ar gerddoriaeth amgen ar y radio. Mae nhw yn mynd yn fwy fwy blin.

Dwi’n mynd i gerdded er mwyn teimlo yn well. Dwi’n gweld arwyddion ERDF ym mhobman – o Fryn Celli Ddu i Gastell Henllys ac yn cael fy atgoffa fod Brexit yn ymosodiad ar ein ffordd o fyw ac ar ein cyfloedd i gael mwynhad.

Wednesday 12 February 2020

Parc Cybi, Diwylliant a'r M1 Herald Gymraeg 12 Chwefror 2020




Cymaint yn digwydd, cymaint i’w drafod, dwi’n credu fod well i mi drio gwasgu cymaint a phosib i mewn i’r un golofn y tro yma. Y peth pwysicaf efallai sydd angen ei hysbysebu yw arddangosfa o waith cloddio archaeolegol gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ym Mharc Cybi. Mae’r arddangosfa i’w gweld yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi hyd at y 15fed Mawrth. Bydd yr arddangosfa yn symud yn ei flaen wedyn i Oriel Môn.

Mae adroddiad o’r gwaith cloddio ym Mharc Cybi ar gael ar gwefan heneb.co.uk/parccybi felly digon hawdd yw cael gafael ar y wybodaeth diweddaraf. Os bydd gyfle i fynd draw i Ucheldre cewch weld y gwrthrychau a ganfuwyd yn osgystal a gwaith disgyblion Ysgol Cybi sydd wedi ail greu llestri pridd cyn-hanesyddol.

O ran archaeoleg, yr hyn sydd yn bwysig am y gwaith ym Mharc Cybi yw fod ardal eang iawn wedi cael ei gloddio ac o ganlyniad mwy o bethau wedi dod i’r fei. Yn amlwg y mwyaf yw’r ardal sydd yn cael ei archwilio y gora fydd ein dealltwriaeth o’r dirwedd hanesyddol. Canlyniad y gwaith yma yw gallu gweld defnydd o’r dirwedd dros filoedd o flynyddoedd.

Canfuwyd tŷ hirsgwar yn dyddio o’r cyfnod Neolithig – tua 3500 cyn Crist a’r hyn sy’n rhyfeddol am y ‘neuadd bren’ yma yw ei fod yn gorwedd ar yr un llinell a siambr gladdu Trefignath. Felly mae’n awgrymu yn gryf fod perthynas rhwng y ddau safle – ac eu bod yn weddol gyfredol. Does dim modd gor-bwysleisio pa mor bwysig yw’r darganfyddiad yma.



Cafwyd hyd hefyd i ddarn an-orffenedig o lain glo canel – carreg sydd yn debyg iawn i jet (carreg ddu o ardal Whitby). Efallai fod cael gafael ar gareg jet yn anodd i drigolion Ynys Cybi yn y Neolithig ac eu bod wedi defnyddio carreg lo canel o lan y môr er mwyn creu glain tebyg? Os felly dyma awgrym gynnar iawn o bwysigrwydd ffasiwn a dilyn y ‘trend’ diweddaraf. Peidiwch a dweud nad oedd trigolion Môn yn ‘trendi’ yn y cyfnod cyn-hanesyddol.

Bu gweithgaredd amaethyddol ym Mharc Cybi o’r 4dd Mileniwm cyn Crist drwy’r Oes Efydd, Oes Haearn, y cyfnod Rhufeinig a dros y canrifoedd hyd at y presennol. Mae’n werth mynd a’r ‘road-trip’ fyny at Ucheldre i weld yr arddangosfa a’r gwrthrychau. Mae yna gaffi yno.
Byddaf yn son yn aml yn y golofn hon am bwysigrwydd diwylliant. Dwi ddim yn gwahaniaethu rhwng yr archaeoleg a’r diwylliant. Mae i Ganu Pop ei le fel mae lle i Hanes Cymru ac archaeoleg. Fel arfer rwyf yn cael ymateb ‘oeraidd’ gan ddarllenwyr yr Herald Gymraeg pan fyddaf yn mentro i’r Byd Pop. Ond mae angen sgwennu am hyn hefyd! Does dim ymateb o gwbl gan bobl ifanc, sydd yn awgrymu nad yw’r Herald er eu radar.

Bu Catrin Finch a Cimarron yn perfformio yn Galeri, Caernarfon yn ddiweddar. Cerddorion o Columbia yw Cimarron sydd yn chwarae cerddoriaeth draddodiadol gwastatir yr Orinoco a rhythmau sy’n gysylltiedig a ffermio gwartheg a cheffylau. Rhythmau cyflym yw rhain. Cyflymach na jigs Cymreig a Gwyddelig yn sicr. Heb os mae Catrin Finch yn athrylith a dyna braf oedd cael clywed alawon Cymreig yn cael eu cyfuno a rhythmau Cimarron. ‘Ar Ben Waun Tredegar’ oedd un o fy hoff ganeuon yn ystod y cyngerdd.

Ond wrth gyfeirio yn ôl at ddiwylliant, onid peth i’w ddathlu yw fod gogledd-orllewin Cymru bellach yn gallu llwyfannu cyngherddau fel hyn. Rwyf yn cyfeirio yn amlwg at Galeri, Caernarfon a Pontio, Bangor. Canolfannau o safon. Ymhen y mis bydd Ani Glass a Twinfield yn dod a cherddoriaeth electroneg lled arbrofol, a gweddol ‘danddaearol’ yn achos Twinfield, i’r rhan yma o’r Byd (Pontio 07.03.20). Pop perffaith yw’r disgrifiad gorau o gerddoriaeth Ani Glass.

Yr wythnos hon (nos Wener) bydd MR, sef grwp Mark Cyrff, yn perfformio yn Galeri. Yn cynnwys dau gyn-aelod arall o’r grwp Catatonia, Paul ac Owen – a mae nhw yng Nghaernarfon. Dathlwch a dewch i weld. Fy nadl yma yw fod unrhywun yn ei 50au, 60au a 70au wedi tyfu fyny hefo’r Beatles a’r Stones, hefo Dylan a Heather Jones – siawns does fawr o ddim yn y ‘Byd Pop Cymraeg’ sydd mor ddiethr a hynny?

Dwi di bod yn trio mynd i gerdded mwy yn ddiweddara a dros y dyddiau dwethaf wedi cyrraedd dau fwlch. Bwlch Cwmllan a Bwlch y ddwy-elor. Y bwriad mae’n debyg yw cael llonydd i’r enaid. Ochrau Rhyd Ddu. Llwybrau T.H. Parry-Williams. Does dim angen dweud pa mor braf yw cael gwrando ar sŵn natur – i ffwrdd o sŵn y byd. Gorau ôll yw cael cerdded heb weld enaid byw.

Wrth gyrraedd yn ôl o Gwmllan ar bnawn Mercher roedd Rhyd Ddu fel y bed. Dim sŵn. Y caffi wedi cau. Atgoffir rhywun o bnawniau Sadwrn neu Sul o’r blaen. Llonyddwch. Rhywbeth prin.

Mewn sgwrs yn ddiweddar fe holodd rhywun pa brofiad dwi wedi gael tydi fy mhlant ddim yn debygol o gael? Ar ôl meddwl am y peth – fy ateb oedd traffyrdd gwag. Dyna rhywbeth sydd bellach yn amhosib ei brofi – traffyrdd sydd ddim yn orlawn o geir. Pob awr o’r dydd.
Ac i gloi ar nodyn canu pop, pan roedd yr Anhrefn yn canu yn Llundain ar y penwythnos yn ystod y 1980au yn aml byddwn yn teithio yn ôl adre am Gymru ar fore Sul roedd yn bosib gyrru ar yr M1 o Brent’s Cross hyd at gyfordd yr M6 ger Birmingham a chyfr’r ceir a basiwyd ar un llaw,