A finnau
bellach yn llwyr allan o’r Byd Pop Cymraeg, efallai maddeuwch i mi am golofn yn
rhoi fy sylwadau ar gyflwr diwylliant poblogaidd Cymraeg (ac ambell beth
Cymreig). O’r tu allan felly, yn wrthrychol, dyma deimlo fod aeddfedrwydd wedi disgleirio
fel haul ysblennydd dros y Byd diwylliant poblogaidd Cymraeg a Chymreig yn
ddiweddar.
Dros y
flwyddyn neu ddwy ddwethaf mae sawl cân wedi creu argraff fawr arnaf. Meddyliaf
er engraifft am y gân ‘Dere Mewn’ gan y grwp Colorama, cân bop ysgafn, ond
anodd ei churo o ran pa mor afaelgar yw’r alaw. Clywais hi yn cael ei
pherfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli a chefais i ddim fy siomi
gan berfformaid byw Carwyn Ellis.
Cân arall
amlwg sydd heb ei hail (Saesneg y tro yma) yw ‘Week of Pines’ gan Georgia Ruth.
Dyma chi gân o’r radd uchaf, heb os mae’r gân yma yn ddarn o gelf, yn bop
perffaith a petae Georgia Ruth yn ymddeol fory a byth yn cyfansoddi eto byddai
ei chymwynas a diwylliant Cymreig yn un enfawr.
Ac yn
ddiweddarach eleni dyma ‘Chwyldro’ gan Gwenno. Electronica yn Gymraeg, popeth
yn Gymraeg, mae unrhyw beth yn bosib bellach. O’r curiad cyntaf mae’r gan yn
hudo rhywun. Fel basydd (mewn bywyd arall) mae rhyddm y bass yn sefyll allan,
yn gyrru’r cerbyd, yn hypnotaidd a fe lwyddodd Gwenno i ddenu Pat Datblygu
allan o’i hymddeoliad i berfformio ar sesiwn ar gyfer C2 yn ddiweddar.
Ac i gloi y
ganmoliaeth, dyma chi ‘Torri’n Rhydd’ oddi ar CD newydd Elin Fflur. Er mor
dalentog yw, ac a fu Elin erioed, mae’r gân yma gyda bît Motown yn dangos Elin
ar ei gorau eto. Anodd credu fod llais Elin yn gallu aeddfedu, fod modd i Elin
ragori ymhellch, ond gyda’r gân yma byddwn yn awgrymu fod Elin wedi cymeryd cam
arall ymlaen. Dyma chi gantores neu leisydd sydd bellach yn gallu dal ei thir
gyda unrhywun un arall o Gymru (dwi’n awgrymu cystal a Shirley a Mary felly).
Ddylia rhywun
ddim dweud wrth artist beth i’w wneud, ond os caf fod mor hu ac awgrymu, albym
o ganeuon mewn arddull Motown gan Elin Fflur …….
Felly fel
mae’r safon yn rhagori, (ddim am y tro cyntaf wrth reswm os cofiwn am Jarman,
Stevens, Heather, Big Leaves, Plethyn, Sian James a llawer llawer mwy)
Yn ddiweddar
bu i mi gyflwyno cyfres o sgyrsiau i fyfyrwyr ysgol am sut mae agweddau tuag at
y Gymraeg wedi newid dros y blynyddoedd. Er mwyn cadw rhyw fath o ffocws ar fy
sgwrs dyma ganolbwyntio ar y Byd Pop Cymraeg gan ddechrau ym 1967 gyda’r Blew –
sef y tro cyntaf i’r Gymraeg fod yn “cŵl”. (Ond beth am Bob Roberts Tai’r Felin
?)
Wedyn dyma
neidio i 1977 a’r Trwynau Coch, ffefrynnau’r diweddar John Peel – eto y Gymraeg
mor “cŵl” a chyffrous. A fel petae hyn yn batrwn fesul degawd, dyma grybwyll
1987 a’r Cyrff, y grwp o Lanrwst, o bosib y grwp gyda’r steil gwallt a’r steil
dillad gorau welodd Cymru erioed. Erbyn 1997 roedd ganddom “girlbands” Cymraeg
a dyma ddangos lluniau o TNT ar glawr blaen y cylchgrawn ‘Redhanded’ – y genod
yn “noeth” yn y gwely - dyma “rhyw” yn y Gymraeg.
No comments:
Post a Comment