Yng Ngŵyl
Latitude yn ddiweddar ymunodd y cynllunydd ffasiwn, Vivienne Westwood gyda’r
ymgyrchydd Greenpeace Frank Heweston, (un o rheini a garcharwyd yn Rwsia) i
drafod neu yn wîr i awgrymu 10 ffordd o wneud y Byd yn well lle. Rwan, yn
amlwg, roedd hyn yn rhan o ‘adloniant’ yr ŵyl ond fel awgrymwyd yn y cylchgrawn
i-D fe heriwyd ac addysgwyd y gynulleidfa hefyd – yn ogystal a’u diddanu.
Un pwynt diddorol iawn a gynnigwyd
oedd “Ewch i Orielau Celf, mae hyn yn rhad ac am ddim ac yn fodd i chi gysylltu
a’r byd”. Efallai byddai rhywun yn disgwyl datganiad ‘celfyddydol’ gan Vivienne Westwood ond y mwya
mae rhywun yn meddwl am beth mae hi yn awgrymu, y mwya mae rhywun yn gweld y synnwyr
yn y datganiad yma.
Yn ddiweddar bu’m ddigon ffodus i
glywed Trevor Fishlock yn rhoi sgwrs am ei lyfr diweddara “A Gift of Sunlight,
The fortune and quest of the Davies sisters of Llandinam”. Flynyddoedd maith yn
ȏl, bu i mi ffilmio eitem am Gwilym Cowlyd ac Arwest Glan Geirionydd ger Llyn
Geirionydd ar gyfer ei raglen deledu. Doedd o ddim yn fy nghofio!
Fe ddechreuodd ei sgwrs drwy drafod
y llun ‘La Parisienne’ 1874 gan Pierre-Auguste Renoir. Dyma un o’r lluniau o
gasgliad Gwendoline Davies a roddwyd i’r Amgeuddfa Genedlaethol ym 1951. Be
wnaeth Fishlock wrth ddangos y llun oedd dechrau dadansoddi ac egluro
nodweddion penodol o fewn y llun. Daeth y llun y fyw - yn fwy byw – nid ar yr olwg gyntaf mae
gwerthfawrogi llun o’r fath yn ei lawn ogoniant. Wrthgwrs mae’r ferch yn y wisg
glas yn drawiadol a mae rhywun yn ymwybodol mae Renoir yw’r arlunydd, ond drwy
ddeall y peth yn well mae rhywun yn llwyddo i gael mwy o bleser – dyna’r pwynt
yma, rhaid wrth addysg, rhaid edrych yn ddyfnach, rhaid ein bod gyda’r awydd i
ddeall yn well.
Llun arall a ddangoswyd gan Fishlock
yn ystod ei sgwrs oedd llun o David Davies, Llandinam gan Ford Madox Brown, eto
o’r un flwyddyn, 1874. Roedd Madox Brown yn un o gyfoedion ac un o gyfeillion
Holman Hunt, Millais a Rossetti – y Cyn-Raffaeliaid. Diddorol iawn oedd gwylio
rhaglen portread Hywel Teifi Edwards ychydig ddydiau yn ȏl ar S4C, rhaglen
rhagorol gyda llaw, ac yn ystod y rhaglen, dyma Hywel Teifi yn crybwyll
agweddau digon amheus David Davies tuag at yr Iaith Gymraeg. Beth feddyliwn
felly am David Davies Llandinam? – mae’n debyg fod rhaid ystyried hyn yng
nghyd-destyn yr oes roedd o yn byw ynddi, fel sydd yn rhaid mor aml wrth drin a
thrafod Lloyd George.
Yr wythnos hon agorwyd arddangosfa
newydd ‘Mildred E. Eldridge’ yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor. Hi, fel
da ni’n dweud bob tro oedd “Mrs R.S Thomas”, ond dyma chi her a osodwyd ar y
noson agoriadol gan yr Amgueddfa – onid yw hi bellach yn amser i bobl ddechrau
darganfod am R.S drwy gelf Elsi yn hytrach na chlywed am Elsi ar ȏl darllen
barddoniaeth R.S?
Fel gyda ‘La Parisienne’, y mwyaf
mae rhywun yn astudio o waith Elsi, y mwya mae rhywun yn dod i werthfawrogi’r
lluniau. Eto, does dim dwy waith fod Oriel Plas Glyn-y-Weddw wedi bod yn brysur
yn codi’r ymwybyddiaeth o waith Elsi dros y blynyddoedd diweddar. Ac eto, dyma
ofyn yr un cwestiwn, pam ein bod ni fel Cymry Cymraeg rhywsut mor ddiethr i’r
Byd yma – fy nadl i bob amser yw ei bod yn hen bryd i ni berchgoni (a
gwerthfawrogi) artistiaid Cymreig fel Elsi.
Nid fod angen Vivienne Westwood i’n hargymell
i fynd draw i weld arddangosfa Elsi, ond mae’n werth mynd. Mae 56 llun yn yr
arddangosfa. Mae un llun o 1945 o R.S yn cysgu sydd yn dangos R.S mewn golau
addfwyn, yn dangos y cariad rhyngddynt – dyma chi lun anarferol o’r cymeriad
anodd, gwyllt, rhagfarnllyd rydym yn ei adnabod mor dda.
Mewn sgwrs arall yn ddiweddar,
gyda’r cyn-archdderwydd Dr Robyn Lewis bu’m yn trafod sut y bu i R.S
“ddarbwyllo” yr Ashmolean yn Rhydychen i ddychwelyd Meini Pemprys i Lŷn (eto
Oriel Plas Glyn-y-Weddw). Eto, cwestiwn – faint ohonnom sydd yn sylwi ar /
gwerthfawrogi y meini ger y drws i’r Plas? Mae hyn yn bwysig – dyma engraifft
prin iawn o wrthrychau archaeolegol sydd wedi “dod adre” – mae hyn yn
eithriadol – a mae hyn yn ddadl arall wrthgwrs!
Heb os, mae lluniau Elsi o adar a phlanhigion
yr un mor ysbrydoledig a rhai Tunnicliffe a’r chwiroydd Massey yn Oriel Ynys
Mȏn. Felly os yw R.S ddim at eich dant mae’r lluniau Byd Natur yr un mor
gyffrous. Diddorol hefyd yw’r hunnan
bortreadau, eto trawiadol, emosiynol, a mae lliwiau Elsi yn rhywbeth
nodweddiadol – does dim byd cryf a thywyll yma – popeth yn ysgafn – yn fwy
Laura Ashley na Vivienne Westwood os maddeuwch i mi am y gymhariaeth.
A’r cwestiwn yma o ‘Newid y Byd’ ?
Wel o ran gweithredu yn uniongyrchol, neu oleiaf gorymdeithio, ac os nad un o’r
ddau yma – oleiaf lleisio barn am y lladd erchyll yn Gazza ar y cyfryngau
cymdeithasol, mae mynychu oriel gelf yn swnio yn weddol ddibwys yntydi. Ond
efallai wir mewn cyd-destyn ehangach fod gwerthfawrogi celf yn rhywbeth ddylid
ei argymell, fel parchu’r amgylchedd a pharchu ieithoedd lleiafrifol a pheidio
taflu sbwriel – proses yw’r holl beth o greu dinasyddion – ac yn y diwedd, y
gobaith yw fod dyn yn ddigon call i beidio tanio taflegrau at ysbytai.
Dyna’r peth anodd ar y funud, trio
cyfianwhau sgwennu erthyglau fel hyn, neu mwynhau lluniau Elsi Eldridge neu
mynychu darlith gan Trevor Fishlock tra mae plant bach Gazza yn colli eu bywyd,
eu cartrefi, eu rhieni, eu brodydd a chwiorydd. Rhywsut, rwy’n amau pan bydd
pobl yn astudio’r hanes diweddar yma bydd yn anoddach i gyfiawnhau hyn oll yng
nghyd-destyn yr oes.
Tybiaf bydd di-faterwch a methiant
llwyr gwleiddyddion y Byd heddiw yn rhywbeth arall fydd yn ‘methu’r prawf’ – fe
gannodd Huw Jones yndo am y math yma o beth, ‘Sut ferwch chi anghofio?” ond
wrth arall-eirio Huw Jones yn 2014, y cwestiwn amlwg yw sut gallwch gyfiawnhau
hyn? Doeddwn rioed yn meddwl byddai
rhaid i fy mhlant weld hyn ar y newyddion. Ac heb am eiliad drio gwenud yn fach
o hyn ȏll, mae cân arall yn dod i’m
meddwl yma, ac er fod hon am gariad yn wreiddiol, dyma chi osodiad perthnasol i
wleidyddion y Byd “You’ve got a lot to answer for” – y gân gan Catatonia
wrthgwrs!
No comments:
Post a Comment