Bydd unrhywun
sydd yn gyfarwydd a theithio ar hŷd yr A470 yn gyfarwydd â cherflun David
Davies yn Llandinam ond faint ohonnom sydd wedi dod allan o’r car i gael gowlg
gwell? Wyddo’chi beth, dyna chi rhywbeth i mi ei wneud am y tro cyntaf yn
ddiweddar, ac wrth sefyll wrth droed David Davies mae rhywun yn cael cyfle i
werthafawrogi’r cerflun yn ei lawn ogoniant.
Ger llaw
mae’r bont haearn dros Afon Hafren, campwaith adeiladol cyntaf David Davies a
dyma werthfawrogi’r safle, a’r lleolioad, a’r dirwedd, am y tro cyntaf yn iawn.
Gwybio heibio mae rhywun yn y car – ar frys – ar y ffordd i Gaerdydd neu ar y
ffordd adre – byth amser. Roedd yr haul allan a chefais luniau da o’r bont.
Yr ail safle
i mi ymweld a hi oedd y fynwent ac Eglwys Sant Llonio, mae’r eglwys yn hynod am
y ffaith fod dwy bedyddfaen yno. Ond gwir bwrpas fy ymweliad y tro hwn oedd i
weld cerrig bedd David Davies, Edward ei fab a’r chwiorydd Gwendoline a
Margaret. Yn annisgwyl braidd mae bedd y chwiorydd ym mhen pella’r fynwent ac
yn llawer mwy di-nod na cholofn eu taid.
Eisteddais
yno am sbelan, a meddwl am faint o ddyled sydd ganddom fel Cenedl am eu
casgliad o gelf a roddwyd yn eu tro i’r Amgueddfa Genedlaethol. Dyma ni felly
yn Llandinam, ar droed ac yn cael cyfle i werthfawrogi y lle yn iawn, mae’n
hyfryd yma er gwaethaf yr A470 a’r ceir yn rhuthro ac yn rhuo.
Ar ȏl talu
teyrnged i’r ddwy chwaer mentrais i fyny am Broneirion, y tŷ a adeiladwyd gan
David Davies a dyma sylwi ar arwydd fod croeso i ymwelwyr a fod modd archebu
panad. Bendigedig, felly dyma archebu pot o de ac ymlacio yn un o’r cadeiriau
esmwyth yn edrych dros dirogaeth David Davies.
Rhaid fod
rheolwyr y ganolfan ‘Geids Cymru’ wedi amau fod gennyf ddiddordeb mawr yn y tŷ
achos daeth gwraig ataf a gofyn os byddwn yn hoffi petae rhywun yn fy nhywys o
amgylch y tŷ. Doedd ond un ateb i hynny, “byddwn wrth fy modd” a dyma chi
wledd.
Cefais weld y
meinciau a byrddau ‘Mouseman’, gyda’r llygod bach wedi eu cerflunio ar y
coesau. Nid o gyfnod David Davies oedd y rhain ond rhywbeth roedd y Geids wedi
brynu yn ddiweddarach. Cefais olwg ar y lloftydd - fo a hi, David a Margaret (roedd
Margaret ei wraig o Lanfair Caereinion yn wreiddiol). Mae’r holl lofftydd
bellach dan ofal yr 13 Sir felly mae pob ystafell ac arddull a lliw gwahanol.
Gwenais wrth weld enw ar lofft cangen Meirionnydd o’r Geids – ‘Cader Idris’.
Rhaid fod lofftydd David a Margaret wedi bod yn
rhai ysblenydd yn eu dydd. Ond efallai mae’r uchafbwynt oedd cael gweld tŷ bach
David Davies, son am foethus ac yn ȏl fy nhywysydd – roedd y sedd bren yn
wreiddiol – dyma chi dŷ bach crand os welais i un erioed.
Ac yn olaf
cefais weld y capel preifat yn y selar. Roedd rhain yn “credu go iawn” , yn
llwyr ymwrthodwyr a byth yn gweithio ar y Sul.
No comments:
Post a Comment