Wednesday, 30 July 2014

"Cofis Go iawn" Herald Gymraeg 30 Gorffennaf 2014



Mae’n ddiddorol meddwl am y cwestiynau na ellild eu holi, am y pethau na ddylid eu trafod ac yn y cyd-destyn Cymraeg a Chymrieg mae peidio trafod yn rhywbeth peryglus iawn. Mae’n rhaid i ni gael y drafodaeth, mae’n rhaid i ni gynnal deialog ehangach am yr Iaith a diwylliant, boed hynny yn boenus neu ddim. Felly pythefnos yn ol dyma gyhoeddi erthygl yn trafod ymateb yr artist Bedwyr Williams ynglyn a chreu yn yr Iaith Gymraeg (Herald Gymraeg 9 Gorffennaf 2104).

            Ar y diwrnod cyhoeddi edrychais ymlaen i weld ymateb pobl ar y cyfryngau cymdeithasol, ond dim byd, dim ymateb o gwbl i’r erthygl. Felly dyma gyhoeddi fy “siom” os hynny yw’r gair cywir, ella “syndod” ddyliwn i ddweud, fod dim ymateb o gwbl i’r golofn a rhoddais sylw i’r perwyl hynny i fyny ar fy nhudalen Trydar. O fewn awr i wneud hyn roedd dros 250 o hanner o bobl wedi edrych ar yr erthygl ar Blog ‘Thoughts of Chairman Mwyn’. Felly rhaid mynd a’r ceffyl at y dwr…..neu rhywbeth felly …….

            Pythefnos yn ddiweddarach mae Radio Cymru yn cysylltu gyda’r bwriad o drafod yr erthygl ar rhaglen Dylan Iorwerth. Dim band-eang gan y BBC yn amlwg, rhaid fod y golomen wedi cael ei dal ar Ynys Enlli rhwng Caernarfon a Bangor ond gwerthfawrogais eu diddordeb a chytunais i gymeryd rhan. Holl bwynt yr erthygl oedd gofyn y cwestiwn sut fath o gymdeithas Gymraeg rydym wedi ei greu lle mae pobl yn teimlo nad oes modd iddynt gyfrannu drwy gyfrwng y Gymraeg – am pa bynnag reswm.

            Nid cwestiynu cymhelliad Bedwyr Williams oedd y golofn, roedd hynny yn hollol amlwg wrth gyfeirio ato ef a Gruff Rhys fel artistiaid ddylia wneud yn union beth mae nhw isho ei wneud o ran yr elefen greadigol. Ond, fe gefais neges gan y BBC, doedd yr eitem ddim am gael ei recordio gan nad oedd Bedywr am gymeryd rhan. Beth oedd y BBC eisiau sgwn i – ffrae rhwng Bedwyr a finnau ar y radio?

            Mewn gwirionedd, dydi Bedwyr Williams ddim yn allweddol o gwbl i’r erthygl. Y cwestiwn sylfaenol yw beth yw canlyniadau’r plismona parhaol ar yr Iaith a Diwylliant Cymraeg?. Fel arfer, nid dadla yn erbyn cadw neu codi safon Iaith yr wyf, ond gofyn cwestiwn pwysig, ehangach – beth am ieuenctyd rhywle fel Casnewydd neu Fflint – beth sydd yn eu denu nhw at ddiwylliant Cymraeg heddiw yn 2014 ac yn bwysicach byth – a fydd croeso iddynt?

Ychydig yn ddiweddarach rwyf yn mynychu un o nosweithiau Gwyl Arall yng Nghaernarfon a mae rhywun yn fy holi pam nad oes mwy o bobl Caernarfon yn y gynulleidfa. Beth oedd dan sylw gan yr holwr oedd y “Cofis go iawn”, pobl Sgubor Goch, nid y mewnfudwyr diwylliedig dosbarth canol (fel fi).

Fel rhan o Gwyl Arall roeddwn yn arwain taith gerdded o amgylch Caernarfon yn edrych ar hanes Canu Pop Cymraeg yn y dre. Taith hwyliog ddigon ysgafn oedd y bwriad ond wrth orffen y daith ger safle’r clwb nos Tan y Bont (maes parcio bellach) dyma ofyn yr union gwestiwn yma. Pam fod cyn llied o’r dosbarth gweithiol yn cysylltu a’r diwylliant Cymraeg sydd mor gyfarwydd i ni gyd?

Mae hwn yn gwestiwn gall unrhywun ohonnom ofyn, boed yn grwp pop Cymraeg cyfredol (mwy na thebyg yn canu yn ddwy-ieithog) neu yn unrhyw gyfrwng boed S4C, BBC Radio Cymru neu unrhyw gylchgrawn Cymraeg. Petae unrhywun ohonnom yn bod yn onest byddai rhaid cyfaddef fod rhywbeth ar goll – does yr un ohonnom hefo’r math o gyrhaeddiad fydda rhywun wedi ei obeithio amdano. A’r eithriadau – Tony ac Aloma, C’mon Midfield, Dafydd Iwan, Bryn Fon? Efallai, oleiaf byddai rhai o drigolion Sgubor Goch yn gallu eu henwi, ond petawn i yn sefyll ar y stryd yng Nghaernarfon fory/heddiw, fydda fawr o neb yn gwybod am ein ymdrechion o 1980 tan 1994 fel y grwp Anhrefn, mae mwy o siawns o hynny yn Bratislava neu Donegal.

Nid dadlau fod yr Anhrefn yn allweddol i unrhywbeth o gwbl, ond mae lle i gredu fod ieuenctyd Casnewydd wedi cymeryd mwy o sylw o’n caneuon protest gwrth-Thatcher ar ddiwedd yr 80au na wnaeth unrhywun o ‘Sgubs’ na unrhyw stad tai arall Cymraeg. Mi oedd pobl yn troi fyny yng nglybiau nos Casnewydd fel Stow Hill Labour Club a The Legendary TJ’s. Chafwyd rioed y math yna o gefnogaeth yn y Gogledd – onibai am y dosbarth canol Cymraeg – yr un rhai ar y cyfan a fyddai yn mynychu’r Steddfod neu yn gwylio S4C.

Does dim ateb gennyf. Nid pwyntio bys. Ond, onid gwell cyfaddef a sylweddoli na smalio fod popeth yn iawn?

             

1 comment:

  1. Helo, dwi'n dod o UDA, rwyf am rannu'r dystiolaeth wych hon am sut y helpodd Dr.Agbazara i mi ddod â'm cyn-gariad yn ôl, Yn ystod fy chwilio am ateb, daeth i gysylltiad â manylion Dr.Agbazara a thrwy ei help, daeth fy nghariad yn ôl i fi o fewn 48 awr. Felly, gyda'r rhain, rydw i mor falch i roi gwybod i unrhyw un sy'n chwilio am ffordd i ddod yno gariad i gysylltu â Dr.Agbazara ar WhatsApp: { +2348104102662 } neu drwy e-bost at: { agbazara@gmail.com } Rwyf mor hapus o leiaf fy hun ac mae fy nghariad yn ôl i'w gilydd eto ac yn mynd i wario dathliad y Flwyddyn Newydd gyda'i gilydd Diolch i Dr.Agbazara unwaith eto ....

    ReplyDelete