Friday, 8 August 2014

Merched Dan 15 Trwynau Coch @ CLORIAU @ Eisteddfod

 
 

‘Merched Dan 15’ Trwynau Coch  (7" vinyl)

A glimpse of stocking is something shocking” meddai Cole Porter yn y gân ‘Anything Goes’ a heddiw, yn oes porn ar y we a rhyw ym mhob man, mae’n anodd cofio / dychmygu beth oedd naifrywdd y cyfnod yna ddiwedd y 70au. Doedd delwddau fel hyn ddim yn gyffredin tu allan i St Trinian’s ac yn sicr ddim yn gyffredin yn y Gymraeg.

Roedd hon yn ferch Gymraeg yn dangos ei choseau. Roedd hon yn record Gymraeg yn gwthio ffiniau, ychydig bach yn ‘Punk Rock’, ychydig mwy yn ‘Don Newydd’ neu hyd yn oed ‘Rocecer’ fel bathwyd eu cerddoriaeth gan y newyddiadurwr Hefin Wyn, oedd oleiaf yn ddisgrifiad fwy Cymreig na Punk Rock……

Nid eu record gorau, ond hwn oedd y datganiad cyntaf, y Trwynau yn chwythu. Mae ‘Angela’ yn un arall, yn troi hogia ifanc ymlaen yn meddwl am y MILF’s. ‘Mynd i’r Capel Mewn Levis’ oedd y Trwynau ar eu mwyaf anarchaidd, ‘Pepsi Cola’ ar eu mwyaf pop, doedd y record yma ddim yn newid bywyd rhywn fel gwnaeth ‘Never Mind The Bollocks’ ond roedd yn agor y drws i rywbeth newydd a pherthnasol yn y Gymraeg.

Heddiw, dyma ni yn oes Rolf Harris a Jimmy Saville a dydi’r neges ddim mor ddeniadol, ddim mor hawdd i’w werthfawrogi / glodfori / drafod hyn yn oed, mae’r oes wedi newid …..



 
 

Diolch i Rhys Aneurin am y gwahoddiad ac am guradu'r arddangosfa bwysig hon !

No comments:

Post a Comment