Cafwyd
trafodaeth ddiddorol, a gobeithio buddiol, ar Sadwrn olaf y Steddfod wrth i
Myrddin ap Daydd a minnau drafod arwyddocad yr hen gywyddau am lysoedd y
tywysogion. Yr hyn oedd dan sylw oedd sut mae’r dystiolaeth ysgrifenedig
(cywyddau) yn gallu creu darlun ac ychwanegu at ein dealltwriaeth o fywyd dydd
i ddydd yn llysoedd tywysogion Gwynedd - hyd at gyfnod gymeriadau fel Glyndŵr.
Yr Amgueddfa
Genedlaethol oedd wedi trefnu’r drafodaeth yn dilyn sgwrs ddigon anffurfiol
gafwyd gan sawl un ohonnom gyda Myrddin am yr un peth yn Llŷs Rhosyr yn
gynharach eleni. Felly y bwriad oedd rhannu’r sgwrs, ehangu’r drafodaeth ac yn
ystod ein sgwrs ar y Maes dyma grybwyll Castell Prysor ger Trawsfynydd.
Cytunwyd ein
bod yn ‘cyflwyno’ Castell Prysor i’r gynulleidfa yn hytrach nac yn ‘trafod’
Castell Prysor a’r pwynt unwaith eto yw fod gwaith i’w wneud. Mae angen mawr am
drosglwyddo’r wybodaeth am ein safleoedd hynafol a’n henebion i’r werin bobl. Y
pwynt arall pwysig yw fod angen y cyd-destyn llawn a fod angen chwalu’r ffiniau
rhwng dyweder archaeoleg a barddoniaeth. Hynny yw, dim ond drwy edrych ar y
darlun llawn o ran y dystiolaeth y gallwn greu darlun mwy cyflawn.
Synnwyr
cyffredin wrth reswm, ond braf oedd cael y cyfle i wyntyllu hyn, i gael rhannu
llwyfan hefo’r Amgueddfa Gen’ a bardd fel Myrddin. Engraifft gwych o’r chawalu
ffiniau yma yw’r arddagngosfa gyfredol yn Galeri, Caernarfon, ‘Meini
Hirion Mȏn’. Rwyf wedi sȏn am yr arddangosfa yma o’r blaen ond y cefndir yw
fod yr arlunydd Julie Williams ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi
cyd-weithio a disgyblion ysgolion Mȏn i ail edrych ar waith Harold Senogles ar
feini hirion yr Ynys.
Bu Senogles
wrthi yn cofnodi a thynnu lluniau ar ddechrau’r ugeinfed ganrif a nawr mae
Julie a phobl ifanc yr Ynys wedi bod allan yn tynnu lluniau, yn mesur a
chofnodi a wedyn yn creu lluniau gyda paent. Cefais wahoddiad i agor y sioe yng
nghwmni Roy Owen, Maer Caernarfon, a fedrwn’i ddim peidio a chanmol y prosiect
i’r cymylau am y ffaith fod hyn yn cael pobl ifanc allan i’r wlad.
Tynnais goes
ei fod yn bwysig fod pobl ifanc yn baeddu, yn cael dringo cloddiau ac yn cael
baw gwartheg drostynt. Dyna rhan o’r hwyl, fe dreuliais wyliau Hâf fy ieuenctyd
yn dringo cloddiau, yn disgyn dros waliau, yn mynd yn sownd mewn gwrychoedd – a
hyn er mwyn cael hyd i faenhir neu fryngaer. Rhan anatod o’r antur oedd y
baeddu a’r crafiadau.
Ond, yr ail
bwynt pwysig am yr arddangosfa, yw’r ffaith fod celf ac archaeoleg yn rhannu’r
un gwely. Eto, rhywbeth ddigon amlwg, ond ofnadwy o bwysig – y mwya da ni’n
gallu cael gwared a’r ffiniau – gorau ȏll o ran meithrin, creu a datblygu
diddordeb yn ein henebion.
Rhywbeth
arall am yr arddangosfa ac am y lluniau yw eu bod yn ofnadwy o ‘lliwgar’.
Soniais wrth Julie ar y nososn agoriadaol, does dim byd ‘tywyll’ yma, dim byd
trwm – mae’r holl beth yn codi’r ysbryd a gobeithio yn ysbrydoli rhywun i fynd
allan i grwydro.
Fe
ysgrifenodd Wil Ifan o Fȏn ei lyfr ‘The
Meini Hirion and Sarns of Anglesey’ ar ddechrau’r ugeinfed ganrif yn
damcanaiethu fod y meini wedi eu gosod or linellau astronomegol. Yn wîr fe
gyflwynodd y llyfr i Sir Norman Lockyer, y gŵr â awgrymodd fod Bryn Celli Ddu
yn gorwedd ar linell codiad yr Haul ar hirddydd Hâf am y tro cyntaf. Erbyn heddiw
wrthgwrs rydym yn cydnabod fod Lockyer yn iawn – roedd yn ddyn o flaen ei
amser.
Mae treigl
amser yn golygu fod pawb wedi anghofio am Wil Ifan o Fȏn, a cwestwin da faint o
sylw mae ei ddamcanaiethu yn eu haeddu bellach. Er hyn mae’n lyfr diddorol, casgliadwy
– ac un gafodd ei ail gyhoeddi yn ddiweddar.
Un arall sydd
a’i farn am y cysylltiad a’r ‘hen bobl’ yw Julian Cope, awdur ‘The Modern Antiquarian’, ond eto, nid
hawdd bob tro cyd weld a Julian chwaith. Chwyddwydr ddigon doniol sydd gan
Julian, ond er gwaethaf ei fwydro
‘Sgowsaidd’ o bryd i’w gilydd, rhaid cydnabod fod llyfr Cope wedi creu fwy o
ddiddordeb yn y meini hirion nac unrhyw lyfr ‘sych’ archaeolegol heblaw am ‘Gwynedd’ Frances Lynch efallai.
Efallai mae’r
“hen bobl” yw’r gair allweddol. Dyma ein hen hen hen gyn- deidiau, y bobl oedd yma ar y tir rydym yn ei alw bellach yn
Gymru dros 3,000 o flynyddoedd yn ȏl, ac yn agosach i 4,000 o flynyddoedd yn ȏl
o ran y meini hirion – dyma gyfnod Cȏr y Cewri.
Efallai mae
dyma’r ddadl hefo hyn ȏll, y cywyddau a’r tywysogion Cymreig, cyfuno celf a’r
meini hirion a mynd allan i grwydro. Rydym yn cael cyfarfod a chyffwrdd a’r
“hen bobl” a braint yw cael eu cyfarfod hyd yn oed os nad yn y cnawd. Y meni
yw’r cyffyrddiad agosaf sydd ar gael bellach.
Rhaid cyfaddef
fod yr Arddangosfa Meini Hirion yn ein cyfeirio ymlaen, dyma arwyddbost
chwyldroadaol. Mae celf ac archaeoleg yn gariadon hapus, yn sgwrsio yn braf, yn
cael hwyl – a mae’r lluniau mor lliwgar, hawdd dychmygu fod yr “hen bobl” yma
yn gariadon yn eu harddegau !
No comments:
Post a Comment