Newydd ei
gyhoeddi mae’r llyfr hyfryd ‘Stained
Glass from Welsh Churches’ gan yr awdur Martin Crampin drwy wasg y Lolfa.
Dyma’r ‘Beibl’ i unrhywun sydd a diddordeb mewn ffenestri lliw yn Eglwysi
Cymru. Mae’n lyfr swmpus, yn gorlifo o wybodaeth ac yn frith o lyniau lliw. Fe
fydda rhaid i’r lluniau fod yn lliw os am wneud unrhyw synnwyr o’r deleweddau
wrthgwrs, ond dyma chi lyfr wirioneddol hanfodol i’r ymwelydd a’n heglwysi
Cymreig.
Ychydig yn ȏl roedd gennyf awr i’w
“wastraffu” yng Nghaergybi a dyma fynd yn unswydd i Eglwys Sant Cybi i weld
ffenestr William Morris (y Goeden Fywyd), uwchben cofeb W.O Stanley. Ond dyma’r
peth, bu i mi eistedd yno am dros hanner awr yn edrych ar yr un ffenestr yma.
Heb os, dyma ddarn o gelf, heb os dyma rhywbeth all roi pleser tu hwnt i’r
bwriad gwreiddiol o fod yn ffenestr goffa. Mae gwyrddi’r Goeden Fywyd yn
hudolys – mae treulio amser gyda’r ffenestr yma llond cystal ac ymweliad ac
oriel gelf.
Ond ffenestr ryfeddol arall sydd dan
sylw yr wythnos hon. Ffenestr na wyddwn amdani yn Eglwys Santes Fair, Trefriw.
Gan fod Eglwys Santes Fair yn un o byrth prosiect ‘Ein Treftadaeth’ Cadw /
Cyngor Conwy mae’r eglwys ar agor. Rwyf yn gyfarwydd a’r eglwys hon achos yn y
fynwent mae carreg fedd Ieuan Glan Geirionydd, ewythr i Gwilym Cowlyd wrthgwrs.
Rwyf yn galw heibio bedd Ieuan Glan
Geirionydd wrth reswm, ond am y tro cyntaf, i mewn a fi i’r eglwys. Mae cofeb
arall i Ieuan Glan Geirionydd ar y wal orllewinnol, ond y ffenestr ar ochr
ogleddol i gorff yr eglwys sydd o ddiddordeb i mi y tro hwn. Dyma chi ffenestr
gymharol anarferol, sef fod cymeriadau hanesyddol Cymreig yn cael eu portreadu.
Ffenestr wedi ei gwneud gan A.R.
Mowbray & Co ac yn dyddio o 1933 yw hon. Ffenestr goffa i’r rheithor Gomer
Price a fu’n gofalu am Eglwys Trefriw a Llanrhychwyn rhwng 1920 a 1932 yw hi
ond yr hyn sydd yn anarferol yw mae Llywelyn ab Iorwerth a’i wraig Siwan sydd
yn cael eu portreadu.
Ar yr agraff gyntaf dyma chi
ffenestr ofnadwy o liwgar. Saif Llywelyn gyda’i gleddyf allan a’i darian gyda’r
ddraig goch arni, ar ei ochr chwith, mewn gwisg borffor a choron aur. Uwch ei
ben mae tarian arall, sef ei arfbais. Wrth ei ymyl ond yn ffenestr arwahan mae
Siwan, (merch y Brenin John). Eto mae Siwan yn hynod lliwgar, mewn gwisg oren a
choch, er mae wyneb y ddau ohonynt yn ddi-liw bron – dim ond ychydig o baent i
amlygu llygaid a cheg.
Fel gyda’r Goeden Fywyd (William
Morris & Co) dyma chi ffenestr sydd yn gweithio fel darn o gelf. Unwaith
eto eisteddais am dros ugain munud, yn syllu, yn astudio, yn rhyfeddu, yn
cyffroi – dim ond un gair – hyfryd. Ond rwan at y cwestiwn mawr. Pam felly fod
hon yn ffenestr mor ddiethr i mi, a felly mi dybiwn yn ddiethr i gymaint arall?
Sut fod ffenestr lliw o un o arwyr
hanesyddol Cymru, Llywelyn Fawr, wedi bod cystal cyfrinach? Pwy a wyr, ond
rhaid argymell eich bod yn mynd draw i Drefriw i weld y ffenestr hyfryd hon.
Dywedwch wrth ffrindiau a pherthnasau, gallwch gael panad yn y Felin Wlan (yr
hen bandŷ gwlan) ond chewch chi ddim bwyd poeth yno, dim ond cacan a panad.
Llywelyn
Fawr a Ieuan Glan Geirionydd mewn un lle – ddim yn ddrwg nacdi – ac os cewch
gyfle ewch i’r siop Gymraeg leol ac archebwch gopi o lyfr Martin Crampin, fe
gewch ddefnydd a phleser rwy’n sicr !
http://www.ylolfa.com/uploads/ais_saesneg_haf_2014.pdf
Diolch am dynnu sylw at fy llyfr! Ffenestri diddorol.
ReplyDelete