Wednesday 27 March 2013

'Femina Cymru' Herald Gymraeg 27 Mawrth 2013




Yn ystod fy ieuenctyd gwrthryfelgar syrthias mewn cariad gyda “rhamant” Wal Berlin a’r diwylliant yna a ysbrydolodd David Bowie, Iggy Pop a Brian Eno i gyfansoddi a recordio yn y ddinas honno, cefais fy ysbrydoli gan ddigwyddiadau’r Situationist Internationale ym Mharis yn ystod Mai 1968 a fel pawb arall yn y Byd Pop / Creadigol cefais fy hudoli gan y Factory, Warhol a’r Velvet Underground ac yn fwy felly gan fod John Cale, Cymro Cymraeg o’r Garnant, yn aelod o’r band.

            Ond yn raddol, wrth i mi heneiddio, trodd fy sylw at Gymru, ar ol y gwrthryfela dyma gyfnod o ail ystyried gwerthoedd a bellach y ddadl byddaf yn cyflwyno mor aml a phosib yw fod ganddom sefydliadau yma yng Ngogledd Cymru sydd cystal ac unrhyw oriel ym Manhattan neu Lundain. Byddaf yn eu rhestru wrth reswm, Oriel Ynys Mon, Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Oriel Mostyn (a llawer mwy)  a’r oriel benodol sydd o dan sylw yr wythnos hon, Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog.

            Pythefnos yn ol mynychais agoriad arddangosfa ‘Femina Cymru’, ac ymhlith y da a’r drwg yn y gynulleidfa roedd fy nghyd-golofnydd Angharad Tomos. Am eiliad dyma deimlo ein bod wedi colli cyfle aruthrol na fydda’r ddwy Bethan yma hefyd i ni gael ail greu arbrawf Dinas Emrys a fod y pedwar ohonnom unwaith eto yn cyd drafod  yr un peth yn ein colofnau. Wrth ymlwybro o sgwrs i sgwrs o amgylch yr oriel cefais fy atgoffa pam mor fyw ac iach yw’r Byd Celf yng Nghymru o ran creadigrwydd, yr hyn sydd ar goll yw dim digon o bobl yn gweiddi am y peth, i ddefnyddio bathiad Seisnig, ddim digon o “heip”.

            Bob tro rwyf yn trafod unrhyw agwedd o ddiwylliant cyfoes Cymraeg a Chymreig rwyf bron yn ddi-eithriad yn awgrymu fod angen mwy o sylw, mwy o drafod, mwy o gynnwrf. Mae rheini sydd yn fodlon yn eu Byd Bach Saff yn gofyn pam ? Mae yna restr o bwyntiau, ond petae ni ond yn dadlau am werth economaidd yr holl beth …….

            Mae hon yn arddangosfa wahanol gan fod 5 artist yn rhan o’r peth, pedair yn dal i greu ac un bellach yn ei bedd. Diddorol yw trafod sut mae Elsi wedi cael ei dehongli a’i thrin gan y Byd Celf Cymreig a hithau yng nghsgod R.S, y bardd a’r rheithor a’i gwr. Mildred Elsi Eldridge felly yw “Mrs R S Thomas”, efallai, ond mae hi hefyd yn artist, neu efallai mae R.S oedd gwr yr artist Elsie Eldridge yn hytrach na hi yn wriag iddo fo ?

Y llun o fasged dal cimwch ar lan y mor oedd yn tynnu fy sylw, llun o’r enw  Children and Lobster Pots’ – yn edrych fel rhyw olygfa o bennod Dr Who, arall fydol a’r lliwiau mor ysgafn, pastelaidd. Doeddwn ddim mor gyfarwydd a’i lluniau o gymeriadau ar gyfer llyfrau plant, rhyw Guto Gwningen Beatrix Potter-aidd, ond roeddwn wrth fy modd a’r lluniau anifeiliad wedyn mor fyw a rhai Tunnicliffe.

Ailwerthuso porslen Nantgarw drwy archwilio creadigol yw bwriad Lowri Davies a mae hi wedi creu llestri tseina. Dyna chi wahanol, mae’r tseina sydd “wedi’u nodweddu gan ymoleuedd, arwynebau lliw a darlunio bywiog” yn cynnig rhywbeth hollol wahanol i ni ymwelwyr celf ac eto atgoffir rhywun gan froliant Plas Glyn y y Weddw mae yma mae’r casgliad gorau o borslen Nantgarw tu allan i Gaerdydd ac Abertawe – felly addas a phriodol arddangos yma yng Nglyn y Weddw !

Rwyf yn gyfarwydd iawn a gwaith Luned Rhys Parri, y portreadau rhyfedd o fywyd a chymeriadau allan o bapur a deunydd cymysg. Mae’r “neiniau” yn haeddu bod mewn cartwn ar S4C ddywedwn i, dwi’n siwr bod modd animeiddio’r grwagedd yn y gwynt ar Faes Caernarfon a chreu dialog hynod ddifir ?

Artist arall rwy’n gyfarwydd iawn a’i gwaith yw Ann Catrin Evans. Mae unrhywun sydd yn mynychu Canolfan y Mileniwm yn cyffwrdd ei gwaith wrth iddynt agor y drysau ym Mae Caerdydd ond gwaith llawer llai a llawer mwy breygus sydd yma, wedi eu fframio, darnau bach o fetal, yn creu siapiau. Du a gwyn, mewn ystafell arwahan, mae yna naws bendant, y math o gelf fydda’n gweddu mewn ty cwpl hoyw neu rhyw B&B boutique. Hyfryd.

Enw newydd i mi oedd Niki Pilkington, gyda eu lluniau (inc neu bensil ?) o ferched, bron fel darluniau o gylchgroanau ffasiwn y 60au, y merched fel modelau, eiconau y stryd fawr, bron yn Mary Quant neu Twiggy, yn sicr ddim yn Kate Moss. Ond y tro yn y gynffon yw’r darnau o ysgrifen, y dywediadau a’r dyfyniadau o hwyangerddi,. Eto yn ol y broliant mae Niki “yn archwylio ei hetifeddiaeth a’i phlentyndod”.

Heb os mae yma bump artist hollol wahanol, ac eto pam lai ?, fel arddangosfa a fel profiad mae’r peth yn gweithio i mi. Diolch mawr i’r curadur am gynnwys Elsi, dyna chi artist sydd angen bod yma a hithau wrthgwrs a’r cysylltiad yna a Phen Llyn. Braf yw cael dysgu a gweld gwaith newydd a braf yw cael y cyfarwydd gan Luned ac Ann Catrin – cyfarwydd mewn ffordd dda, fel cysur fod rhai pethau yn dal yma, fod y broses yn parhau, fod yna ddilyniant a chysondeb.

Erbyn hyn mae’r amffitheatr newydd wedi ei chwblhau, mae yna lwybrau trwy’r coed a mae yma gaffi rhagorol. Anodd curo Plas Glyn y Weddw fel lleoliad pnawn Sul. Ond efallai yr hyn sydd yn bwysicach byth am Glyn y Weddw yw fod yma leoliad sydd yn cynnig profiad hollol Gymreig. Mae hyn mor wahanol a fedrith rhywle fod i’r Tate Modern neu’r White Cube  a dyna chi gryfder y lle, does dim osgoi ein bod mewn hen blasdy ar benrhyn Llyn.

 

                                                                                                                               

No comments:

Post a Comment