.
Felly yn achlysurol, a dim ond yn achlysurol cofiwch, mae
yna rhyw fath o ddealltwriaeth y byddaf yn cyfrannu colofn yn trafod
“diwylliant poblogaidd Cymraeg” a mawr obeithiaf bydd y darllenwyr sydd “ddim
yn dallt y petha pop ’ma” yn dychwelyd i ddarllen yr wythnos nesa pan fydd fy
holl sylw yn cael ei roi i Hanes Cymru a’i safleoedd hynod. Pawb yn hapus felly
……..
Mae
“diwylliant pop” wrthgwrs yn hollol wahanol beth i “ganu pop”, mae’r “diwylliant”
yn cynnwys ffasiwn, celf, cylchgronau, cyfryngau, ffilm, technoleg, cynllunio
ac argraffu,gwleidyddiaeth a chyd-destun cymdeithasol yn ogystal a’r elfen
gerddorol. “Diwylliant Pop” yw’r hyn sydd dan sylw yr wythnos hon.
Cwestiwn
diddorol o ran hanes diwylliant Cymraeg yw pryd yn union dechreuwyd gyfeirio at
“ganu poblogaidd Cymraeg” fel “canu pop Cymraeg” ? Tybiaf mae cenhedlaeth y
60au,Dafydd Iwan, Huw Jones a Meic Stevens oedd y cyntaf oedd yn wirioneddol
“Pop”, poblogaidd yn amlwg, ond yn wahanol i artistiaid fel Hogia Llandegai a’r
Wyddfa, oedd efallai o ran diffiniad, yn perthyn i rhywbeth cyn Pop yn yr ystyr
Beatles, Rolling Stones a Bob Dylan dyweder.
I’r Blew
a’u record ‘Maes B’ mae’r diolch am roi genedigaeth i “Roc Cymraeg”, doedd yna
ddim artistiaid roc arall felly doedd y Blew ddim yn rhan o’r “Byd Roc
Cymraeg”, nhw oedd y Byd Roc Cymraeg
! Cyn y Blew doedd dim ond acwstig, fawr o ddryms ac yn sicr ddim twrw. I
Edward H mae’r diolch am wneud canu roc Cymraeg yn boblogaidd ar raddfa torfol,
yn sicr ymhlith y Cymry Cymraeg ac efallai o gyfnod Edward H ymlaen (70au hwyr)
ac yn sicr yn ddiweddarach gyda chylchgronau fel Sgrech (ddechrau’r 80au) roedd
pobl yn cyfeirio at hyn fel rhan o’r “Byd Pop Cymraeg”. Sgwni pwy ddefnyddiodd
y term yma gyntaf ?
I
genhedlaeth yr 80au cynnar, grwpiau fel Y Cyrff, Datblygu, Tynal Tywyll, Y
Sefydliad ayyb mae’r diolch am fathu’r gair “sin”, neu i fod yn fanwl gywir am
greu’r term “Sin Danddaearol”. Am y tro cyntaf (ers y Blew) roedd artistiaid
Cymraeg yn datgan eu arwahanrwydd o weddill y Byd Pop Cymraeg, o weddill “y
sin” mewn ffordd drwy greu sin oedd drwy ddiffiniad yn danddaearol i weddill y
Byd Pop Cymraeg. Heddiw mae “sin” yn ymddangos fel bathiad gwael Seisnig yntydi
?
Rwyf yn
eitha sicr mae Gorwel Roberts (aelod o’r grwp Bob Delyn) ac un o olygyddion y
cylchgrawn ‘Sothach’ (90au cynnar) oedd yn gyfrifol am fathu’r term “Sin Roc
Gymraeg” a Gorwel heb os a ddechreuodd alw hyn yn “SRG” bron yn gellweirus. Dwi
ddim mor siwr faint sydd yn defnyddio’r term “SRG” bellach, ond byddaf yn clywed
rhai o olygyddion Y Selar er engraifft yn cyfeirio at “y Sin” wrth drafod canu
pop Cymraeg cyfoes.
A dyma
lle mae’r diffiniadau bellach yn llai amlwg. Mae unrhywun sydd yn cofio cyfnod
llythyrau “Dear Nic” a’r Gymdeithas yn meddiannu’r Swyddfa Gymreig yn wythnosol
yn cofio newyddiadurwyr, (ddylia fod wedi gwybod yn well), yn cyfeirio at y
Swyddfa Gymreig fel y “Swyddfa Gymraeg” fel petae adeilad yn siarad yr Iaith. Yn
ddiweddarach cafwyd dryswch llwyr rhwng grwpiau Cymreig (90au hwyr) fel y Manics
a’r Stereophonics ac i raddau helaeth Catatonia a Super Furry’s gan alw’r Manics
yn llawer rhy aml yn “grwp Cymraeg”.Mae’r dryswch yn waeth gyda’r Super
Furry’s, grwp o siarawdyr Cymraeg, sydd wedi recordio albym Cymraeg ‘Mwng’ a
sydd yn gyn aelodau o grwpiau Cymraeg fel Ffa Coffi Pawb a U Thant.
Cwestiwn
diddorol felly yw pa ganran o repertoire artist sydd angen bod yn yr Iaith
Gymraeg i’r grwp fod yn grwp Cymraeg yn hytrach na grwp Cymreig. Wrth reswm mae
pob grwp o Gymru yn grwp Cymreig. Efallai bod angen diffiniad newydd – sef
“grwpiau Cymraeg dwy-ieithog” ar gyfer rheini sydd yn canu “ambell gan yn
English chware teg” – atgoffa rhywun o gan Dafydd Iwan yntydi – hynny yw y
neges nid dwy-ieithrwydd.(rwyf yn gorfod bod yn fwy gofalus dyddiau yma, mae
sgwennu 1,2,3 yn golygu cael eich cyhuddo o ddweud 4,5,6 yn y “Byd Cymraeg”)
Fe
ysgrifennais erthygl ar gyfer Blog link2wales yn ddiweddar yn Saesneg (er mwyn
cyrraedd y “sin di-Gymraeg” ???) yn trio rhoi rhyw fraslun o hanes canu pop yn
yr Iaith Gymraeg gan ddechrau yn amlwg gyda’r Blew a gan drio trafod yn
wrthrychol (anodd os nad amhosib) y sefyllfa braidd yn od sydd yn codi heddiw
lle mae trefnwyr nosweithiau fel ‘Noson 4 a 6’ yng Nghaernarfon yn trefnu
nosweithiau Cymraeg ac artistiaid Cymraeg wedyn yn canu caneuon yn y Saesneg i gynulleidfa sydd bron
yn 100% Gymry Cymraeg.
Hyd yn
oed fwy chwerthinllyd / od / trist / dweud rhywbeth am wleidyddiaeth y peth,
oedd y ffaith fod Cymdeithas yr Iaith yn gorfod gofyn i artistiaid Cymraeg
arwyddo cytundeb i beidio canu yn y Saesneg mewn nosweithiau Cymraeg. Dwi ddim
yn siwr os yw hyn dal yn digwydd – dwi’n siwr bydd rhywun yn fy rhoi yn fy lle
!
Fe
gafwyd ymateb da iawn i’r Blog ar link2wales gyda dros 500 bellach wedi ei
ddarllen. Neb yn gwylltio (rhyfedd) ond wedyn neb yn dweud rhyw lawer chwaith
…… Y peth mwyaf doniol am fod yn golofnydd y dyddiau yma yw fod yr hen yn
cytuno a’r ifanc yn cael eu gwylltio – dyna chi newid o gyfrannu colofnau i’r
Faner yn yr 80au. I raddau rydym mewn oes llai “gwleidyddol” a chydig iawn sydd yn gyfarwydd bellach a’r
dylanwadu fel petae, colofnwyr fel Parsons, Burchill, Morley a Savage.
Mae’r math o wleidyddiaeth
dyfais fyny yn ei blith, gwrth-hiliaeth, hawliau anifeiliaid, hawliau i bobl
hoyw,yn ymddangos ar adegau yn anacronistaidd wrth i bobl droi i’r dde, wrth i
UKip ennill tir, wrth i bawb ofni fod holl boblogaeth Bwlgaria ar eu ffordd
yma. Yn nyddiau’r Faner byddwn wedi gofyn “Lle mae’r Billy Bragg Cymraeg
(heblaw Steve Eaves) ?”
Rwyf wedi son sawl gwaith yn y golofn
hon fod Hanes Canu Pop Cymraeg, y daith o’r Blew hyd at Y Candelas (fy hoff gan
ar y funud yw Symud Ymlaen) yn haeddu
sylw mwy difrifol,yn sicr yn y maes Addysg Uwch. Dyma Ddiwylliant Pop unigryw
sydd bob amser ar yr ymlon a weithiau yn cael llwyfan neu “token Welsh band”
chware teg ond rhywsut byth ar y prif
lwyfan.
Ac i
orffen ar nodyn positif, dyma roi croeso i ‘Pethe’ yn ol ar sgrin S4C, rhaglen
sydd yn profi nad oes dim o’i le a sylwedd a fod modd trafod diwylliant gyda
aeddfedrwydd a fod Lisa Gwilym yn cymeryd ei lle yn hollol haeddianol fel y
gyflwynwraig mwyaf “hip” sydd ganddom yng Nghymru er gwaetha cwtogi ei horiau
ar Radio Cymru. Oes yna air Cymraeg am “hip” ?
No comments:
Post a Comment