Does ’na ddim byd fel yr Iaith Gymraeg i ysgogi
trafodaeth ac yn sicr dyna oedd fy mhrofiad pnawn Sadwrn dwetha wrth eistedd yn
ystafell gyfarfod Amgueddfa Wresam. Cyfarfod Cyngor Archaeoleg Brydeinig Cymru
oedd wedi dod a llond llaw o bobl at eu gilydd, efallai fod y tywydd rhy braf i
bobl ddod i gyfarfod dan do, efallai fod rhai wedi mynd i weld Wrecsam yn
chwarae peldroed ar y Cae Ras, beth bynnag oedd y rheswm, nifer fach ohonnom
oedd yno ond argaian dan fe gafwyd pnawn o drafod.
Trefn y
prynhawn oedd fod nifer o bobl ifanc yn adrodd eu profiadau o dreulio blwyddyn
mewn cynllun hyffordi o fewn y gweithle drwy gynllun y CBA, sef y cynllun
Archaeoleg yn y Gymuned. Un o’r papurau mwyaf diddorol ac yn sicr yr un
ysgogodd y drafodaeth oedd papur Tegid Williams ar y berthynas rhwng yr Iaith
Gymraeg a’r Byd Archaeolegol Cymreig.
Nid peth
hawdd yw siarad yn gyhoeddus o flaen cynulleidfa o “arbenigwyr” ac
“archaeolegwyr proffesiynol” ond fe siaradodd Tegid yn glir a gyda chryn awdurdod
gan amlinellu i bob pwrpas y diffygion sylweddol sydd yn bodoli o ran yr Iaith
Gymraeg o fewn y maes. Yr hyn oedd yn ddiddorol oedd fod yr ystafell mor
gefnogol i’r hyn roedd Tegid yn ei fynegi. Wedyn fe aeth yn drafodaeth agored
…………….
Chefais
i ddim yr awgrym lleiaf o unrhyw agwedd
gwrth-Gymraeg, roedd pawb yn ystyried sylwadau Tegid yn ofalus, yn wir y
drafodaeth oedd sut mae modd symud pethau ymlaen a buan iawn daeth yr amser i
ddod ar cyfarfod i ben, roedd angen cloi yr Amgueddfa er mwyn i’r staff gael
mynd adre (chware teg iddynt) ond yn sicr byddai’r drafodaeth wedi gallu parhau
am awr neu ddwy arall yn hawdd.
Un peth
a godwyd, a roedd hyn yn ofnadwy o ddiddorol, oedd y cynnig fod “Hanes Cymru” yn
“draddodiadol” neu yn “hanesyddol” (rwyf yn troedio yn ofalus yn fan hyn) wedi
rhoi gormod o bwyslais ar bobl a diwylliant yn hytrach nac ar y traddodiad ar
diwylliant materol a gwrthrychol. Hynny yw fod beirdd a chantorion rhywsut yn
fwy Cymreig ac yn fwy perthnasol na adeiladau neu gwrthrychau cyn-hanesyddol ?
Felly dydi’r Cymry Cymraeg ddim yn uniaethu mor hawdd ac archaeoleg – mae well
ganddynt Waldo !
Wrthgwrs
dydi pethau ddim mor syml a hynny. Ond rhaid gofyn cwestiwn amlwg, er
engraifft, pam fod cyn llied o Gymry Cymraeg i weld yn cymeryd rhan mewn
gweithgareddau dyweder gan gyrff fel CADW neu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ?
Ydi’r Cymry Cymraeg yn cysylltu’r cyrff yma ac adeiladau Sesisnig, adeiladau’r
gormeswyr, boed hynny yn Gastell Caernarfon neu Gastell Penrhyn ?
Codwyd y cwestiwn os oedd cymdeithasau fel
Grwp Talwrn ar Ynys Mon, cymdeithas archaeolegol, yn rhai lle roedd y Gymraeg
yn flaenllaw neu ddim, a phwysleisiaf, nid mewn unrhyw ffordd feirniadol. Ydi’r
Cymry Cymraeg rhywsut “ofn” ymuno yn y Byd Mawr ac yn cadw at y Gymdeithas Capel
neu’r Gymdeithas Hanes Lleol, yn saff felly yn y Byd Bach Cymraeg ?
Unwaith
eto, doedd yna neb yn beirniadu’r Gymdeithas Capel na’r Gymdeithas Hanes Lleol, yn wir mae yna gyfraniad pwysig ac allweddol
yn cael ei wneud gan yr holl gymdeithasau Cymraeg sydd yn cyfarfod yn rheolaidd
hyd a lled y wlad. Y cwestiwn mewn ffordd yw sut mae “Cymreigio” y cymdeithasau
a’r sefydliadau eraill ac yn wir yr
Ymddiriedolaethau Archaeolegol yng Nghymru ?
Yr hyn
yr oeddwn yn ei weld yn y cyfarfod oedd fod angen i’r Gymraeg ymestyn allan i’r
llefydd llai Cymraeg, i unrhyw dwll a chornel sydd yn cael ei dywyllu gan y
Saesneg yn unig neu yn cael ei dywyllu gan ddiffyg Cymraeg neu ddim digon o
Gymraeg. Dydi hynny ddim ar draul yr hyn sydd yn bodoli yn y Byd Cymraeg, a hynny
yn bodoli yn gadarn iawn, ond mae hyn yn awgrymu mae’r gwaith yn y dyfodol yw
sicrhau nad oes ynysoedd Seisnig yn gallu bodoli yng Nghymru.
Wrth son
am (ac os am herio a newid) yr ynysoedd Seisnig, neu cymunedau o fewn cymunedau
lle mae is-gymuned Seisnig felly yn ffurfio ac yn bodoli o fewn y Gymru
Cymraeg, o fewn ffiniau Cymru neu o fewn sefydliadau Cymreig mae’n rhaid i ni
felly fel Cymry Cymraeg sicrhau fod hyn ddim yn digwydd.
Rhaid
rhywstro’r ynysoedd Seisnig rhag bodoli, nid drwy orfodaeth, nid drwy gasineb
gwrth-Seisnig ond drwy genhadu gwerth yr Iaith Gymraeg, drwy ddarbwyllo ac yn
amlwg drwy goroesawu. Mae’r awydd yna, mae’r ymwybyddiaeth o werth y Gymraeg yn
cynyddu. Sut fedrw’chi werthfawrogi Hanes ac Archaeoleg Cymru heb werthfawrogi’r
Iaith Gymraeg ? Amlwg. Credaf fod pobl yn barod i groesi’r bont.
Does dim
angen myfyrwyr yn eistedd ar y bont bellach, mae angen i ni Gymry Cymraeg
arwain y ffordd dros y bont. Mae’r oes yn newid er gwaetha’r argyfwng a
greuwydd ymhlith y tryderati Cymraeg yn dilyn canlyniadau’r Cyfrifiad. Rhaid i
ni newid agwedd, nid “gwarchae” yw hi bellach, i ddefnyddio cymhariaeth
hanesyddol, ond yn hytrach mae angen meddwl mwy fel Howell Harris a Daniel
Rowlands os mynwch, llai o Glyndwr a Llywelyn a’r gwarchae di-ddiwedd a mwy o
genhadu a hyder.
Does dim
byd gwell na thrafodaeth am yr Iaith Gymraeg ond pwy fydda wedi meddwl fod
Archaeoleg a Hanes Cymru yn gallu bod mor wleidyddol. Gwych ac i’r gad newydd a
ni. Beth bynnag gyflawnwyd drwy’r hen ddulliau (di-drais) credaf fod cyfle mawr
yn y blynyddoedd sydd i ddod i ymestyn dylanwad y Gymraeg drwy weithredu yn
genhadol, mae yn awydd a chefnogaeth allan yna ymhlith y Saeson mwyaf rhonc ac annisgwyl
(digon o rheini yn y maes archaeoleg).
Y
pregeth felly yw llai o Glyndwr a mwy o Howell Harris. Llai o son am warchae a
mwy o genhadu.
No comments:
Post a Comment