Dyma chi gwestiwn da, ydw’i am fentro i ffae’r llewod neu
ddim yn sgil sylwadau Geraint Jones, Trefor ynglyn a CADW yn cymeryd
cyfrifoldeb am gartef Kate Roberts, Cae’r Gors ? Yr ateb yw, nacdw, ddim yr
wythnos hon achos os wyf am fentro trafod hyn mae angen dipyn mwy o waith
ymchwil i’r cefndir cyn sgwennu’r golofn. Wythnos efallai ? Cawn weld …….. ond
mae angen gwneud mae hynny yn sicr.
Mae’n
rhaid bod yna gyfrifoldeb arnom fel colofnwyr i drafod a mynegi barn ond roedd
fy sylwadau am Can i Gymru a Noson Wobrwyo Y Selar yn ddiweddar hefyd yn profi
fod hyn yn beth ddigon anodd i’w wneud yng Nghymru. Fel soniais ar trydar,
gallaf fod yn ffrindia hefo y rhai sydd yn anghytuno a mi ond does fawr o
Gymraeg rhyngddof a’r rheini sydd am wrthod yr hawl i mi (neu unrhywun arall)
fynegi barn.
Heb
dreulio gormod o amser yn ail-bori’r gwelltfeydd mwdlyd, roedd profiad trafod
hyn oll a’r Taro’r Post yn ddigon i roi y felan i mi am ddyddiau wedyn, nid oherwydd
fod pobl yn anghytuno ond am y modd roedd pobl yn anghytuno, yr atgasedd
di-wynebog ar trydar a’r ffaith fod y “Maoistiaid” fel dwi’n eu galw yn
ymwrthod ac unrhyw wahanaiaeth barn. “Nhw” bia’r Byd Pop Cymraeg bellach a
rhaid cyfaddef i mi ddileu y “nhw” i gyd o fy nghyfrif trydar.
Canlyniad hyn oll oedd teimlo fod
unrhywbeth rwyf am gyfrannu eto i’r Byd Pop Cymraeg yn y dyfodol (a mae ‘os’
mawr am hynny) yn mynd i orfod bod yn hollol hollol annibynnol o’r Maoistiaid.
Cofiwch ymateb y rhan fwyaf o bobl i “ffarsgate” fel roeddwn yn ei alw a’r
Taro’r Post, oedd “Pam – be di’r Selar ?” Ond teimlais na fyddwn yn dymuno
rhannu’r un gofod a “nhw” byth eto – oes dwi isho byw yn Gymraeg fel mae’r
Gymdeithas yn ei ddweud on nid ar eu telerau “nhw”.
Petae’r Selar yn agored i
drafodaeth fe fyddan wedi gwahodd trafodaeth am werth gwybrwyo fel cysyniad yn
eu cylchgrawn – mae hyn yn wahanol iawn i werth y noson fel gig a digwyddiad ! Yn rhyfedd iawn, yn yr un wythnos a fy
sylwadau i roedd Primal Scream yn y Guardian a Damon Albarn a Noel Gallagher
oll wedi bod wrthi yn lambastio Gwobrau’r Brits. Rhyfedd – da ni gyd ru’n oed
hefyd sydd yn dweud rhywbeth am ein hagwedd a’n cefndir diwylliannol efallai ?
Yng
nghanol y felan meddyliais am y profiadau gwaethaf dwi di gael dros y
blynyddoedd wrth geisio cyfrannu i’r ‘Byd Cymraeg’ ac yn sicr o fewn y Byd Pop
Cymraeg ac yn sicrach byth ym maes ymgyrchu dros yr iath – mae’n wir i dddweud
fod y bobl mwyaf annymunol i mi rioed ddod ar eu traws a dadlau a nhw wedi bod
yn y Byd Cymraeg – nid Tory’s rhonc fel bydda rhywun wedi ei ddisgwyl ond y
“Tory’s Cymraeg” fel dwi’n eu galw oherwydd eu ceidwadaeth a’u culni ! Felly
dwi ddim am roi fy enw lawr i fyw yn y Dref Gymraeg mae Adam Price am ei chodi
ar lannau’r Fenai. Dwi ddigon hapus yng Nghaernarfon diolch hefo “pobl go
iawn”.
A dyna
chi golofn arall, ydi Price oddifri ? Doeddwn ddim yn y gynhadledd yma, un o’r
cynhadleddau wythnosol bellach sydd i ‘Achub yr Iaith’, rhaid chwerthin achos
mae rhywun yn teimlo fod yr holl drafodaethau yma drwy wahoddiad yn unig – rhag
ofn i rhywun gyflwyno gwrth-safbwynt, rhag ofn i rhywun feiddio anghydffurfio
a’r weledigaeth. Mae chwerthin yn well na chrio, ond ………..
Felly
digonedd o ddeunydd am golofnau am wythnosau i ddod, ond ydi’r bobl yma o
ddifri ? Y gwir amdani, fel colofnydd,
mae angen mynd yn ol a gwneud dipyn o waith ymchwil, deall y cyd-destyn a
sicrhau fod y dyfyniadau yn Golwg360 ddim allan o gyd-destun. Ond mae hyn yn
peri pryder mawr i rhywun, lle yn union da ni’n mynd hefo hyn oll ?
Beth
bynnag oedd egwyddorion a syniadaeth Adfer yn y dyddiau cynnar am fynd yn ol
i’r Gorllewin, erbyn i mi gyrraedd y Brifysgol (1980-83) roedd myfyrwyr (lleiafrif
wrthgwrs) neuadd breswyl JMJ ym Mangor wedi meddiannu Adfer ac i bob pwrpas
rhain oedd y “stormtroopers” yr “S.S” eithafwyr oedd bellach yn casau eu
cyd-Gymry am fyw yn y rhan anghywir o Gymru, nid dyna’r syniadaeth wreiddiol
siwr Dduw. Cefais gyfarwyddyd unwaith yn Y Globe ym Mangor i “F*** Off yn ol i
Gaerdydd”. Doedd daearyddiaeth ddim yn brif bwnc yn amlwg iddynt, a finnau o
Faldwyn !
Dwi’n chwerthin achos y
darlun yn fy meddwl yn barhaol bellach yw rhaglen deledu y “Young Ones” – wyddo’chi
pan mae’r cymeriad Rick yn galw unrhywun
sydd ddim yn cytuno yn “ffasgydd”, yn wir hon oedd ein joc rheolaidd ni yn y
fan wrth deithio Ewrop hefo’r Anhrefn flynyddoedd yn ol, gormod o oriau ar
draffyrdd yn yr Almaen, felly roedd jocs plentyniadd i weld yn gweithio yn well
rhywsut – pawb yn “ffasgydd”.
Dyma
engraifft gwych o hiwmor hollol hollol blentynaidd Rick, “No, no, no, no, no, not "Bank Manager," it's far too crawly
bum-lick. Tell it like it is, put "Fascist
Bullyboy!" meddai Rick wrth
geisio llunio llythyr i’w rheolwr banc lleol. Iawn, mae hyn yn rhoi gwen ar
wyneb rhywun efallai, ond i fod o ddifri, mae rhywun yn teimlo fod angen i ni
fod llawer mwy trieddgar bellach wrth drafod a sylwebu ar syniadaeth,
damcaniaethau a datganiadau sydd allan yna yn y Byd Cymraeg.
“Ffrae
burath ysgol” yw’r drafodaeth ar Taro’r Post yn amlach na pheidio, nid yr
aeddfedrwydd angenrheidiol. Dwi’n nol eto at yr hen bregeth, yn galw am Jeremy
Vine yn Gymraeg ac am golofnwyr sydd yn cael herio cystal a Julie Burchill. Heb
yr anghytuno a’r gwahaniaeth barn rydym yn llithro i sefyllfa o drwmgwsg
diwylliannol sydd yn llai na derbyniol.
Da iawn eto - llygaid y lle, oes modd gwrando nol i Taro Post?
ReplyDeleteGedru