Rwyf yn
sefyll ger carreg goffa Llywelyn ap Gruffydd, Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog
olaf Cymru. Nid carreg fedd yw hon ond cofeb ddiweddar, synnw’n i ddim mae
cofeb gan fudiad Cofiwn yw hon ond fyddwn i ddim yn taeru. Mae oel traed a mwd
dros y garreg ac anodd yw darllen yr ysgrifen arni heb olchi chydig o’r baw i
ffwrdd hefo fy llaw, “Llywelyn ap Gruffydd Tywysog Cymru” syml ond effeithiol.
Yn ol y son, un cyfeiriad hanesyddol
sydd yna fod Llywelyn wedi ei gladdu yma ar ol iddo gael ei ladd ger Cilmeri ym
mis Rhagfyr 1282. Mae son hefyd i ben Llywelyn gael ei arddangos yn Llundain
felly hyd yn oed petae corff Llywelyn yma go iawn mae yna gwestiwn da os yw ei
gorff yn gyfan ?
Sgwni faint o bobl fydda’n gwybod
lle rwyf yn sefyll ? Rwyf mewn lle di-arffordd, mewn dyffryn cudd a rhaid
cyfaddef, corff yma neu ddim, dyma chi le braf i gael eich claddu. Dim ond swn
y Byd sydd yma, does dim swn ceir na thref, dim ond defaid, brain ac ambell
dractor (ond dydi hynny yn amharu dim ar y “tawelwch”).
Doeddwn ddim am fod yn sinigaidd,
doeddwn ddim am fynu fod archeolegwyr yn cloddio am Llywelyn fel y gwnaethant
am Rhisiart III, roeddwn yn hollol fodlon fod y gofeb yn ddigon. Pa ots lle mae
gweddillion Llywelyn mewn gwirionedd, mae’r cnawd wedi hen fynd a dim ond
esgyrn fydda ar ol cyn belled a fod y pridd ddim rhy asidig.
Be sy’n bwysig yw’r gofeb, lle i
gael cofio amdano, lle i gael meddwl am hanes cythryblus Cymru yng nghyfnod y
Tywysogion a’r hyn sydd yn digwydd wedyn. Wel, mae ganddom Edward 1af a’i
gestyll, Edward II (hoyw a dim fel ei dad) yn Dywysog Cymru sydd yn arwain yn
uniongyrchol at draddodiad doniol ac afreal Edward VIII a Siarl Windsor. Beth
bynnag yw safbwynt rhywun mae’n anodd diystyrru arwyddocad a chanlyniadau 1282
yntydi ?
Un o’r pethau sydd wedi fy niddori
erioed o ran gwleidyddiaeth y peth, yw sut mae’r Cymry (gwerinaethwyr o fri)
mor gefnogol, neu mae’n ymddangos felly, i’r Tywysogion, sef Uchelwyr, a sut
mae hi mor anodd i ddatgysylltu Cenedlaetholdeb o unrhyw ystyriaeth ac
astudiaeth o gyfraniad Llywelyn (Fawr ac Olaf) ac yn fwy felly yn achos Glyndwr
wrthgwrs. Hynny yw, mae rhain i gyd yn “arwyr cenedlaethol”, does dim dadl.
Dwi’n cofio son hefo canwr pop Cymraeg enwog am hyn rhyw dro ar ateb gefais yw
fod “yr Alban hefo Robert The Bruce a William Wallace, da ni angen arwyr
Cymreig”.
Y
joc sydd gennyf o hyd yw “beth yw’r safbwynt marcsaidd am Glyndwr” neu “beth
fyddai barn Aneurin Bevan am Glyndwr ?” Efallai fy mod yn sinigaidd, neu fy mod
yn ormod o gomiwnydd / anarchydd / rebel ond dwi wrth fy modd hefo hanes y
cymeriadau yma, rwyf wrth fy modd yn rhoi fy llaw ar gerrig sydd wedi eu codi
gan Llywelyn Fawr (ei weithly hynny yw) ond dwi ddim am un eiliad ym eu
hystyried yn “arwyr”. Rwyf wedi dat-gysylltu o hynny.
Rwyf yn ystyried ers blynyddoedd
mynychu y digwyddiad yng Nghilmeri, i weld beth sy’n digwydd, ond eto byddai
rhaid mynychu fel sylwedydd gwrthrychol, fyddwn i ddim yno fel “cenedlaetholwr”
yn sicr, a fyddw ni ddim yn rhoi fy llaw i fyny yn yr awyr. Ond mae’r
digwyddiadau yma yn ddiddorol os nad phwysig – dyma gysylltu a’n hanes – rhaid
fod hynny yn beth da onibai fod pawb yn mwydro a chreu “myth” di-sylwedd a
chamarweiniol ?
Erbyn i’r golofn yma gael ei
chyhoeddi bydd Dydd Gwyl Ddewi wedi bod a bydd “ffars” flynyddol Can i Gymry
wedi cael y prif lwyfan ar Calon y Genedl gan barhau y “myth” fod rhyw
arwyddocad a phwrpas i ennill y gystadleuaeth a throedio llwyfan pren sigledig
yr Wyl Ban-Geltaidd. Wrth ddychmygu sut i ddyfeisio cwis tafarn lle gallwn sicrhau
fod neb yn gallu ateb y cwestiwn beth am hyn “Pwy ennillodd Can i Gymru yn 2005
?”. Yr ateb wrthgwrs yw “pwy sydd hyd yn oed yn malio ?”
Yn ol y “trydarati” Cymraeg sef y
bobl sydd yn gwybod beth yw beth yn y Byd Diwylliannol Cymraeg, mi fydd y
gystadleuaeth yn “well” ac yn fwy “perthnasol” eleni ond wedyn pam cystadlu yn
y lle cyntaf ? Fedrai ddim rhag weld y dyfodol wrthreswm ond dwi’n gwybod rwan
beth fyddaf DDIM yn ei wneud ar Fawrth 1af !!!!
Ffars arall Gwyl Ddewi-aidd fydd
Noson Wobrwyo y cylchgrawn Selar, cylchgrawn rhad ac am ddim sydd yn amhosib i
gael hyd iddo – arian cyhoeddus wrth gwrs ac i ba effaith ? Ar adeg pan fod
Carwyn Jones yn son fod ei blant yn siarad Saesneg gyda’u ffrindiau ar fuarth
yr ysgol Gymraeg onid gwell fyddai i Calon y Genedl a Selar fod wedi trefnu
clomp o noson yn Nhreorci neu Shotton gyda llwythi o grwpiau Cymraeg a Chymreig
a dwy-ieithog ac ella James o’r Manics a Cerys yno hefyd a gwneud y mymryn
lleiaf o wahaniaeth yn hytrach na parhau a’r “myths” di-bwrpas ?
Rwyf yn sefyll yn Abaty Cwm Hir
wrthgwrs, rhwng Llandrindod a Llanidloes ym mherfeddion yr hen aradl “Maelienydd”
sef yr rhan yma o Powys, ac yn wir dwi ddim yn teimlo yn rhy sinigaidd, mae yna
werth i’r gofeb, mae yna werth mewn cofio am Llywelyn ond does dim pwrpas creu
“myth”.
Erthygl diddorol ac ia, Cofion oedd yn gyfrifol am osod y garreg nol yn 1977. Roedd bwriad i godi relings o gwmpas y garreg ond wedi i gyfrifoldeb am hynny gael ei roi yn nwylo Cymdeithas Abaty Cwm Hir, daeth dim o'r bwriad.
ReplyDelete