Un o’r pleserau mawr yn ystod fy ieuenctyd oedd cael mynd
ar wyliau, ac yn wir cael trefnu’r ymweliadau dyddiol i wahanol gestyll,
cromlechi ac amgueddfeydd. Hyd yn oed fel hogyn Ysgol Gynradd roedd diddordeb
mawr gennyf mewn hanes, roeddwn wrth fy modd mewn amgueddfeydd mawr a bach a
hyd yn oed pryd hynny roeddwn yn ddipyn o gasglwr, rhaid oedd cael y llyfr tywys
ym mhob safle .A diolch byth am y tuedd yna i fod yn gasglwr achos mae’r holl
lyfrau tywys dal gennyf hyd heddiw.
Yn ddiweddar rwyf wedi bod
yn gwneud dipyn o waith tywys ac arwain ymweliadau i safleoedd felly rwyf wedi cael rheswm da iawn i bori
drwy’r holl hen lyfrau tywys oedd gennyf ers y 70au. Mae’r rhan fwyaf ohonnynt
o Gymru ac felly yn hollol berthnasol i’r gwaith heddiw ond cyn son am rai o’r
llyfrynnau Cymreig mae’n werth crybwyll fy ymweliadau a Cor y Cewri ac Avebury
yn ol yn y 70au.
Ar fy ymweliad cyntaf a Chor
y Cewri, prynais gopi o ‘What is
Stonehenge ? a guide for young people” , ail-argraffiad 1968 yw hwn ac ar
dudalen 14 mae trafodaeth diddorol am sut cludwyd y meini gleision o’r Preseli
draw i Gor y Cewri, pellter o 140 milltir. Mae’r ddadl yn parhau hyd heddiw, eu
cludo ar gwch ar hyd Afon Hafren neu a oedd y cerrig wedi eu dosbarthu cyn
hynny gan rhewlifiant ? Mae hyd yn oed damcaniaeth diweddar, Pearson (2012)
iddynt gael eu cludo dros y tir a hynny yn fwriadol a fod rhai o’r gerrig glas
yn dod o ardal Nanhyfer sydd i’r Gogledd o’r Preseli a felly yn bellach o’r mor
ac ardal Aberdaugelddau. Mae hon yn ddadl fydd yn parhau.
Mae sawl diagram a map yn
ceisio esbonio sut creuwyd ac adeiladwyd Cor Y Cewri a gan fod y llyfryn ar gyfer
pobl ifanc, mae’n ddefnyddiol gan fod y syniadau a’r damcaniaethau yn gymharol
ddealladwy.
Er mae cof plentyn sydd
gennyf o’r ymweliad, roedd yn bosib cerdded ymhlith y cerrig pryd hynny; mae
hyn dal yn bosib ym mhentref Avebury ac un o’r llyfrau glas “Department of Environment” sydd gennyf a
fy llofnod a’r dyddiad arno, Haf 1979. Pris 50ceiniog. Fel gyda Cor y Cewri mae
yma dirwedd o gofadeiladau sydd yn cynnwys y cylch cerrig, beddrod Neolithig
West Kennet, y rhodfa o gerrig ac wrthgwrs Tomen Silbury. Yng nghefn y llyfryn
mae map o henebion yr ardal.
Gan ddychwelyd i Gymru,
mae’n rhaid mae un o’r safleoedd mwyaf trawiadol i ni ymweld oedd Gadeirlan Ty
Ddewi.Llyfryn arall cyfarwydd sydd gennyf o ran ei ffurff, sef y llyfrau
Pitkin, mae hwn gan H Marriott a fe gyhoeddwyd y llyfryn ym 1970. Ychydig bach
yn or-gymhleth efallai yw cyflwyniad Marriott, yr hyn rydym yn ei alw yn y
busnes tywys yn “ormod o fanylder”, oes mae angen y gwybodaeth cefndir weithiau
ond y gamp yw cyflwyno’r hanes a chyd-destyn mewn iaith ddealladwy a diddorol
ar gyfer ymwelwyr.
Yn ol Marriott, Ty Ddewi
yw’r Eglwys Gadeiriol sydd a hanes parhaol hiraf yng Nghymru o ran safle ond
mae son tebyg am y gadeirlan ym Mangor hefyd. Mae’r llyfr Pitkin yn frith o
luniau gwych du a gwyn o wahanol nodweddion o Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi ac yn
werth ei gael.
Mae neuadd Erddig ger
Wrecsam dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, felly cyhoeddiad yr
Ymddiriedolaeth yw’r llyfr tywys, mae fy nghopi
i yn dyddio o 1977 ac un o’r nodweddion mwyaf diddorol am Erddig yw’r
casgliad hyfryd o brotreadau o’r staff sydd i’w gweld yn ystafelloedd y
gweithwyr. Ar dudlaen 12 o’r lllyfr tywys er engraifft cawn weld copiau du a
gwyn o bortread Edward Barnes 1830, ef oedd yn torri coed ar y stad a mae llun
hefyd o’r forwyn Jane Ebbwell a hithau yn 87 oed ym 1793.
Mae’n werth ymweld ac Erddig
am swl rheswm wrthgwrs ond rhaid cyfaddef fod y portreadau o’r “werin bob”
yma yn parhau i fod yn un o’r
uchafbwyntau i mi hyd heddiw..
Drwy ymweld a’r holl gestyll
mae gennyf gasgliad eang iawn o’r llyfrynnau glas ‘Ministry of Public Building and Works OFFICIAL GUIDEBOOK’. Yn eu plith mae llyfryn Castell Cydweli (1952 arg,1970) y castell a sefydlwyd
ar lan Gwendraeth Fach gan y Normaniaid,
yn ol yr hanes gan Roger, Esgob
Salisbury a gafodd dir yma gan Harry 1af.
Mae son wedyn am Arglwydd
Rhys yn adeiladu castell yma ym 1190 a’r tebygrwydd yw fod y Cymro wedi ail
ddefnyddio’r safle Normanaidd. Rhaid fod hyn yn rhywbeth fyddai wedi rhoi pluen
yng nghap y Cymry, yn sicr o ran yr ochr wleidyddol. O ystyried fod Gruffydd ap Cynan yn meddianu
castell Mwnt a Beili Robert o Rhuddlan yng Nghaernarfon ddiwedd yr Unfed Ganrif
ar Ddeg ac efallai wir fod adeiladau Llys Llywelyn Fawr yn Abergwyngregyn hefyd
ar hen safle Mwnt a Beili o eiddo Robert,
mae’n rhaid i ni ystyried fod ail ddefnydd o safleoedd Normanaidd gan y Cymry
yn fodd o ddangos eu bod wedi ail sefydlu eu rheolaeth a grym yn yr ardal.
Ymhlith y llyfrynnau Ministry of Public Building and Works mae
gennyf un ar Gastell “Criccieth ( sydd yn atgoffa rhywun o gan y Dyniadon ‘Pawl
C sydd yng Nghricieth ?’ a mae hwnnw gennyf ar record feinyl 7” Sain 23, mae’r
cangymeriad yn fwriadol gyda llaw ar y clawr), Castell Carreg Cennen, , Castell
Coch, Segontium a nifer mwy – pob un yn
cael defnydd rheolaidd gennyf.
Mae llyfrynnau arall ar gael
hefyd ar gyfer y cestyll gyda llun mewn inc o’r cestyll ar flaen y clawr, rhai
wedi eu cyhoeddi gan Adran yr Amgylchedd fel DOE Official Giuidebook.
Heb os un o’r twyslyfrau
mwyaf diddorol yw un Sain Ffagan (1970) wedi ei sgwennu gan y Curadur Iorwerth
C Peate. Wrth ddarllen y llyfryn cawn weld sut oedd San Ffagan yn ol yn y 70au
ac wrthgwrs mae rhywun felly yn gweld cymaint mae’r amgueddfa wedi datblygu
dros y blynyddoedd diweddar ac wrthgwrs mae Sain Ffagan ar fin datblygu
ymhellach yn y blynyddoedd nesa i ddod.
Ymhlith yr adeiladau
cyntaf i’w hail-gyfodi roedd Abernodwydd
ym 1955, adeilad a chysylltiad agos i mi achos roedd hogia teulu Abernodwydd,
Llangadfan yn yr ysgol a mi. Wrth i Peate drafod Abernodwydd mae’n nodi fod y
ty wedi ei ail-gyfodi gan Gyngor Sir Drefaldwyn, Sir a lyncwyd i grombil
anferth Powys ac anodd dychmygu unrhyw un o’r Cynghorau Sir hefo’r fath arian
sbar yn yr hinsawdd economaidd sydd ohonni heddiw. Dyn a gweledigaeth anhygoel
oedd Iorwerth C Peate ond dyn hefyd fydda ddim wedi caniatau i Sain Ffagan
ymestyn i gynnwys adeiladau “Diwydiannol” fel Neuadd Oakdale ac yn sicr os bydd
hen dafarn y Vulcan o Gaerdydd yn cael ei ail-godi bydd Peate yn troi yn ei
fedd.
Cyfeirias yn gynharach at
Nanhyfer yng nghyd destun Cor y Cewri ond llyfryn tywys arall rwyf yn ei
drysori yw hwnnw ar gyfer Eglwys Sant Brynach. Nodwedd amlycaf y fynwent yw’r
Groes Geltaidd, yn codi 13 troedfedd i’r awyr ac ymhlith y mwyaf “perffaith yng
Nghymru” yn ol y llyfryn ac yn gyfartal o ran harddwch a chroes Carew a chroes
Maen Achwyfan. Mae’r llyfryn sydd yn dyddio o 1976 hefyd yn cyfeirio at nifer o
gerrig bedd Cristniogol cynnar sydd i’w gweld o amgylch y safle, rhai gyda’r
geiriau Hic Iacit, sef “yma gorweddai” a hefyd rhai eraill yn cynnwys ysgrifen
Ogham fel y garreg er cof am Maglocunus.
Efallai mae priodol fyddai
gorffen ein taith ym Machynlleth gyda’r llyfryn ‘History of Owain Glyndwr and his associations with Machynlleth’. Wrth
gyfeirio at Glyndwr fel “rebel and sedicious seducer” rhaid cyfaddef fod hyn yn
ddisgrifiad y byddwn ddigon balch i gael ar fy ngharreg fedd fy hyn. Cyfeirio
at y Senedd dy a’r Institiwt ym Machynlleth mae’r llyfryn yma.
Mae gan bawb eu rhesymau
dros gasglu hen lyfrau, rwyf er engraifft yn ymddiddori yn hanes Gwilym Cowlyd
ac Arwest Glan Geirionnydd a felly wedi casglu unrhyw lyfr a chysylltiad a
Chowlyd dros y blynyddoedd. Mae nifer o rhain yn brin, yn fregus ac yn
werthfawr ac yn aros yn saff ar y silff ond yn achos yr hen lyfrau tywys mae’n
rhaid cyfaddef eu bod yn cael defnydd llawn a rheolaidd gennyf fel rhan o fy
ngwaith dydd i ddydd – mae yna o hyd rhyw damaid o wybodaeth neu stori fydd yn
ddefnyddiol !
No comments:
Post a Comment