Dydd Sadwrn dwetha dyma benderfynu cerdded ychydig ar Lwybr
Clawdd Offa gan “ddechrau yn y dechrau” fel byddai Dylan Thomas wedi awgrymu.
Felly am 9 y bore rwyf yn sefyll ger y faen sydd yn nodi dechrau (neu ddiwedd y
daith) ar Draeth Ffrith, Prestatyn ac yn edrych ar yr arwydd pren sydd yn nodi
fod 182milltir neu 293kilomedr i Gas
Gwent. Dwi ddim am gerdded mor bell a hynny. A dweud y gwir y nod rwyf wedi
osod am y dydd yw i gerdded cyn belled ac y gallaf erbyn ganol pnawn a dyna hi.
Fy
mwriad yw i fwynhau y daith ac i drio nodi’r pethau diddorol sydd i’w gweld ar
hyd y ffordd. Mae gennyf sach cefn gyda bechdan a photel ddwr, mae gennyf
ddillad tywydd gwlyb rhag ofn a mae gennyf fap OS a fy nghamera digidol, popeth
dwi angen i gael diwrnod da allan yn y wlad.
Teimlad
ddigon rhyfedd yw cychwyn ar fy nhaith drwy gerdded dros y bont rheilffordd a
wedyn i fyny Stryd Fawr Prestatyn. Mae pobl ger yr orsaf yn aros am eu tren
(siopa yng Nghaer efallai) a hyd yn oed
toc wedi 9 y bore mae yna siopwyr yn crwydro Prestatyn yn chwilota am fargen ond
does neb arall hefo sgidia cerdded mwdlyd a sach ar ei gefn a map yn ei law i’w
gweld yn nunlle. Does neb yn cymeryd sylw ohonnof wrth i mi dynnu lluniau o
nodweddion y Stryd Fawr. Mae hen garreg dywodfaen wedi erydu’n ddifrifol ar wal
yr hen gapel, rwyf yn llwyddo i ddarllen ‘Rehoboth Adeiladwyd 1894’, mae’r
garreg yn denu fy sylw fel yr archaeolegydd wrth reswm.
Rhaid
dod yn ol eto os wyf am edrych o amgylch Eglwys Crist felly dyma adael y Stryd
Fawr a dechrau dringo Fforddlas ac yn raddol gadael tref Prestatyn. Wrth
gyrraedd pen uchaf Fforddlas dyma ddarganfod y gwaith celf cyhoeddus, yr Helmed
Rhufeinig anferth, sydd yn gorwedd ar ei hochr mewn rhyw ardd fach gyhoeddus ger
y ffordd. Doedd gennyf ddim syniad fod y fath waith celf yn bodoli, chlywais
neb yn son ond wir i chi dyma ddiddorol.
Wrth
drio cael llun gyda’r haul tu cefn i mi dyma sylwi fod delwedd o un o ddarnau
arian Offa i’w weld ar ochr yr helmed. Offa sydd yn cael ei gydnabod fel y
Brenin a ddatblygodd ac ail-wampiodd ddarnau ceiniog yn ystod hanner olaf yr
8fed Ganrif a hyn oedd cynsail darnau arian am ganrifoedd wedyn. Felly “gwaith
celf” yn cynnwys y Rhufeiniad ac Offa, dwi’n credu mae rhyw fath o efydd oedd y
gwaith, ac o ddarllen y bwrdd gwybodaeth roedd awgrym o fwriad celfyddydol yma
fod yr helmed yn cael ei lyncu gan natur yn union fel hanes helmedau Rhufeinig
go iawn yn cael eu claddu gan y pridd nes fod yr archaeolegwyr yn dod yno i
darfu ar eu heddwch.
Mae
cysylltiad Rhufeinig a Phrestatyn wrthgwrs ac rwyf yn gyfarwydd iawn a’r
baddondai Rhufeinig ger Ffordd Melyd, yn wir wrth i mi ddringo’r bryn allan o
Brestatyn ac edrych yn ol dros fy ysgwydd rwyf yn llwyddo i weld y baddondai
rhwng y tai cyngor, y cerrig gwynion yn disgeirio yn yr haul. Daeth gwen fawr i’m gwyneb wrth ddeall mae
“Fish Mountain” yw’r bryn yma i’r trigolion lleol, hynny oherwydd y ffosiliau o
bysgod sydd yn weddol gyffredin yn y galchfaen. Does dim syniad gennyf beth
yw’r Gymraeg am “Fish Mountain” ond rhywsut dwi ddim yn credu mae Mynydd
Pysgodyn yw’r enw ar y bryn yma.
Rwyf yn
cerdded i gyfeiriad Bryniau a Gallt Melyd ac o gopa’r bryn mae’r golygfeydd
dros Brestatyn, Rhyl ac i lawr wedyn i gyfeiriad Rhuddlan a Llanelwy yn
fendigedig. Cyfrais 24 melin wynt allan
mewn un clwstr yn y mor i’r gorllewin o Brestatyn, gallwn weld cynllun
strydoedd Prestatyn a’r cae peldroed yn glir, bron y gallwn weld y garreg lle
cychwynais ar fy nhaith rhyw awr a hanner yn ddiweddarach.
Er mor oer oedd hi roeddwn yn
gynnes ar ol dringo a dyma daro ar draws y darganfyddiad nesa, hen fwthyn Pant
y Fachwen, cartref i fwynwyr plwm wedi ei adeiladu dros 200 mlynedd yn ol. Yn
ol y son roedd y bwthyn wedi cael ei golli dan y pridd ond wrth glirio’r llwybr
ym 1999 -2000 dyma ddod ar draws muriau Pant y Fachwen a fe adferwyd y seiliau
fel rhywbeth hanesyddol i ddwyn sylw y creddwyr. Mae hi rhy oer i sefyllian,
dyma gael llun ac ymlaen a mi heibio hen chwarel galchfaen ac ymlaen i
gyfeiriad Marian Cwm.
Am awr yr neu ddwy nesa mae
bryngaer hynafol Moel Hiraddug yn gwmpeini i mi wrth i mi gerdded tuag at y
gaer, heibio’r gaer a hyd yn oed wedyn mae ei chysgod yn fy nulyn wrth i mi
ddechrau troi yn ol am Ruddlan o Rhuallt. Mae rhan o’r gaer wedi diflannu
ohwerwydd y chwarel ond mae modd gweld olion y cloddiau anferth oedd o amgylch
y gaer. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg daethpwyd o hyd i ddarn o darian La
Tene yma yn dyddio o’r ail ganrif Oed
Crist.
Tarian oedd hi ar gyfer defnydd mewn seremoniau yn
hytrach nac ar gyfer maes y gad ac wrth son am yr arddul La Tene, dyma rydym yn
ei adnabod fel celf Geltaidd sydd yn gyfarwydd i ni gyd. Cefais fy mrechdan yng
nghysgod y gaer hynod yma gan eistedd ar gamfa a mwynhau’r golygfeydd cyn
dechrau oeri a phenderfynu i ddal i gerdded.
Yr eironi mawr oedd er i mi
dreulio rhai oriau ar Lwybr Clawdd Offa a gweld cymaint o bethau diddorol, yr
un peth oedd ddim i’w weld hyd yma oedd Clawdd Offa ei hyn !
No comments:
Post a Comment