Petae rhwyun am ddechrau tarfod orielau celf yng Ngogledd
Cymru go brin bydda rhywun yn meddwl am long ger Mostyn, Sir Fflint ond mae’n
rhaid i mi ddweud mae dyma’r gwaith celf mwyaf trawiadol a doniol i mi weld ers
amser maith. Ar y llaw arall petae rhywun yn gofyn am yr oriel gelf orau i mi
ymweld a hi yn ddiweddar byddai rhaid croesi “Clawdd Offa” cyn belled a Port
Sunlight, ac ie y Lady Lever fyddai honno.
Rhywbeth
rwyf yn ddweud yn aml yw nad oes o riedrwydd gwell neu gwaeth yn yr achosion
yma, mae’r llefydd yma mor wahannol, does dim pwrpas nac yn wir angen cymharu.
Byddaf yn dweud hyn er engraifft am gestyll Conwy a Dolwyddelan. Mae’r ddau
gastell yn hollol wahanol, yn amlwg un Seisnig ac un Cymreig, un anferth a’r llall
yn llai ond di’o ddim yn fater o well neu waeth, o fwy neu llai pwysig – mae’r
ddau gastell yr un mor ddiddorol, ond yn sicr yn wahannol. Gallaf dywys pobl i
unrhwun o’r ddau gastell a sicrhau awr a hanner dddifir iawn yno.
Wrth
reswm pererindod i weld ‘Salem’ gan Sidney Curnow Vosper yw’r Lady Lever i’r rhan fwyaf o Gymry, a dim o’i
le yn hynny, achos mae’n lun werth i’w
weld a’i astudio, ond wyddoch chi beth, llun o’r enw ‘Spring (Apple Blossoms)’
1859 gan John Everett Millais oedd y dynfa i mi y tro yma. Peidiwch a gofyn pam
ond rwyf wedi cael rhyw fath o droedigaeth hefo’r Cyn-Raffaeliaid, rwyf wedi
gwirioni gyda wynebau portreadau Rossetti ond rwyf wedi mwy na gwirioni gyda Spring,
Apple Blossoms, Millais.
Peth
braf yw cael sefyll mewn oriel gymharol wag a thawel a chael amser, ie AMSER, i
sefyll a syllu, i gamu yn ol, i ail-edrych. Peth braf yw cael gwefr, y teimlad
yna o deimlo yn fyw a wedi cyffroi. Rwan dwi ddim am fynd i drafodaeth hir a
manwl am lun Millais yma achos mae gennyf gwch ym Mostyn i’w thrafod ond cyn
symud yn ol dros Glawdd Offa rwyf am esbonio pam na chyfeiriaf at Millais fel
Sir John Everett Millais.
Ni chyfeiriaf at Tom Jones, Paul
McCartney na Mick Jagger fel “Sir” chwaith, Tom, Paul a Mick ydynt i mi, nid fy
mod yn eu gweld am sgwrs mor aml a hynny cofiwch, ond petae Tom a finnau yn gyfeillion pennaf,
neu yn adnabod ein gilydd hyd braich, dwi ddim yn credu byddwn yn gallu ei alw
yn “Sir” na neb arall chwaith. Wrth feddwl am hyn i gyd teimlais fel rhyw gymerriad
mewn can gan Datblygu “Y Comiwynydd Olaf yn Ewrop” neu rhywbeth felly, y
Comiwnydd olaf yng Nghymru. Dwi ddim yn un am gydnabod urddau o’r fath, fel
clywais rhywun yn son yn ddiweddar ar stryd Caernarfon – “peidiwch edrych i
fyny a peidiwch edrych i lawr ar bobl” - dyna gyngor da.
Rwan,
dwi ddim yn credu bod modd cael pegwn arall mor bell ar y sbectrwm
gelfyddydol na sydd rhwng Millais a’r
celf-stryd / graffiti ar ochr llong y Duke of Lancaster. Hon yw’r llong fawr
wen honno sydd i’w gweld o’r rheilffordd ar hyd afordir Gogledd Cymru, sef yr
un llong sydd tu cefn i faes parcio Abakhan y gwerthwyr defnydd yn Llannerch-y-Mor ger Mostyn.
Rhwng
1952-79 roedd y Duke of Lancaster yn cludo pobl ar ran Rheilffordd Prydeinig,
un o’r llongau-stem olaf oedd yn cludo pobl ar droed yn unig, a gyda dyfodiad y
cychod oedd yn cludo ceir dyma ddiwedd ar oes y math yma o long a dyma ddiweddu
ei hoes yma mewn doc parhaol. Am gyfnod y bwriad oedd i ddefnyddio’r llong fel
rhyw fath o ganolfan hamdden, “The Fun Ship” a fel marchnad ond oherwydd fod y
bont rheilffordd (sydd yn croesi’r
ffordd mynediad at y llong) mor isel does dim modd cael ambiwlans ac yn y blaen
at y gwch felly nath hynny ddim para yn Oes Iechyd a Diogelwch. Doedd fawr o
lwyddiant i’r syniad o droi y llong yn westy chwaith a heddiw mae golwg digon
digalon ar y llong – heblaw am y gwaith celf bendigedig.
Mae’r
gwaith celf ar ochr y gwch yn perthyn i artist-graffiti o’r enw Kiwie o Latfia, ac yn ol beth rwyf yn
gallu weld ar y we, mae’r gwaith yma yn rhyw fath o gomisiwn, felly nid sleifio
yno yng nghanol nos nath Kiwie. O ran arddull mae ei waith yn atgoffa rhwyun o
waith Banksy er efallai yn llai gwleidyddol
ei naws.
Wrth
gerded ar hyd Llwybr yr Afordir, ochr arall i ffens weiran bigog i’r llong
gallwn weld delweddau o dri mwnci, dyn mewn siwt tanfor, dyn mewn siwt hefo
balaclafa a rhywbeth arall oedd yn edrych i mi fel cyfuniad o arth a siarc ond
peidiwch da chi a chymeryd fy ngair i am hyn. A dweud y gwir roeddwn wedi
treulio y prynhawn yn astudio Abaty Dinas Basing, ym Maes Glas ger Treffynnon a
dim ond wedi cyrraedd y llong fel yr oedd yr haul ym machlyd felly roedd yr
holl brofiad yn gyfuniad o swrealaeth ac effaith y machlud yn taflu goleuni
oren ar ochr y llong fel rhyw sioe oleadau roc a rol ar y gwaith celf.
Bu
cyfle i weld tu mewn y gwch ar y rhaglen “Coast” yn ddiweddar a diddorol iawn
oedd gweld lluniau ar y We gan grwp o’r enw 28 Days Later, grwp sydd yn galw ei hunnain yn
“Fforwyr-Dinesig”, sef pobl sydd yn torri mewn i lefydd a thynnu lluniau yn
anghyfreithlon (felly yn amlwg nid wyf yn awgrymu / argymell / cymeradwyo hyn)
ond mae’r lluniau werth eu gweld ar eu safle we.
Rwyf
wedi trafod graffiti y F.W.A sawl gwaith yn ddiweddar fel rhywbeth sydd angen
ei gadw a’i gofnodi a dyma engraifft arall o waith celf (gwahannol) sydd yn dod
a chydig o liw i ran o Sir y Fflint. Rhywbeth dinesig yng nghefn gwald bron er
mae’r aradl yma yn sicr yn un sydd ar y ffin rhwng y diwydiannol ar
ol-ddiwydiannol yntydi ?
Felly oriel gelf awyr agored,
llwybr afordir a caffi yn Abakhan – beth well ar bnawn Sul os am fynd am dro yn
ardal Mostyn !
No comments:
Post a Comment