Dyma’r ail dro i mi ymweld a Chanolfan Capel Curig, yn yr
hen ysgol, a mae’n rhaid canmol y ganolfan glud a thaclus yma. Ar y wal tu
allan mae cofeb llechan i Evan Roberts (Ifan Gelli) 1906-1991,chwarelwr a
naturiaethwr a anrhydeddwyd gan Brifysgol Cymru Bangor.
Chwarelwr oedd Evan Roberts
y Gelli am 40 mlynedd o’i fywyd ond dyma engraifft gwych, rhywbeth sydd ddigon
cyffredin efallai, ymhlith y dosbarth gweithiol Cymreig a’r chwarealwyr yn sicr
yn ystod ddiwedd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a dechrau’r Ugeinfed Ganrif, o
bwysigrwydd addysg. Yn achos Ifan Gelli, hunnan addysg oedd y rhan fwyaf o’i addysg,
wrth iddo grwydro llethrau Eryri a datblygu i fod yn arbenigwr ar fotaneg yr
ardal.
Am hyn yr urddwyd Ifan a
gradd anrhydeddus BSc gan Brifysgol Bangor ym 1956, yn yr un flwyddyn ac
urddwyd y pensaer Americanaidd, Frank Lloyd Wright. Anrhydedd o fath arall a
dderbyniodd Ifan Gelli oedd cael ei bortreadu gan yr artist Kyffin Williams.
Gwahoddiad gefais gan Bill
Jones, Cymdeithas Hanes Dolwyddelan i ddod draw i’r Ganolfan i gyfarfod grwp
Hen Dai Cymreig ac i wrando ar y darlithydd Nia Powell yn trafod sut roedd rhai
o ffermwyr ucheldiroedd Cymru wedi
llwyddo i wneud bywoliaeth gymharol dda, ac yn wir i greu dipyn o gyfoeth yn ol
y dystiolaeth o hen ewyllysiau – a hyn drwy werthu gwartheg.
Edrychwyd yn fanwl ar
ffermydd Dyffryn Colwyn rhwng Rhyd Ddu a Beddgelert gan gyfeirio at ffermydd
fel Hafod Ruffydd, Drws y Coed ayyb a syndod i mi ac erall mae’n siwr oedd fod
y ffermydd yma wedi llwyddo i greu y fath gyfoeth ar dir oedd yn ymylu ar
ucheldir mynyddig. Nid gorddweud oedd fod darlith Nia nid yn unig yn hynod
ddiddorol ond yn wirioneddol gorfodi pawb yn yr ystafell i ail feddwl am sut bu
i’r Cymry gael eu portreadau gan deithwyr, ysgrifennwyr a’r Wasg yn hanesyddol.
Nid “peasant” oedd pob Cymro felly !
Efallai beth oedd gan Powell
hefyd oedd fod y portreadau hanesyddol bob amser wedi ei ysgrifennu gan
ymwelwyr, y teithwyr, efallai fod angen i ni ail-feddianu mwy ar ein hanes, fod
angen dehongliadau mwy Cymreig, eto pwyntiau diddorol sydd yn ein gorfodi i
symud ymlaen o’r hanes gwasaidd traddodiadol.
Maes parcio bach iawn sydd
ger y ganolfan. Cofiais fod yma y llynedd i roi darlith i gymdeithas Cymry’r
Ucheldir ar Archaeoleg Ddyffryn Conwy a
finnau wedi cyrraedd o flaen pawb a llwyddo i gael y car i mewn yn daclus cyn i
neb arall gyrraedd. Y tro yma penderfynais gael cinio sydun yn Caffi Moel
Siabod a cherdded draw i’r Ganolfan.
Ar ochr y ffordd dyma sylwi
ar un o gerrig filltir Thomas Telford, rhyfedd ynde faint mwy mae rhwyun yn ei
weld drwy gerdded yn hytrach na gwybio mewn car ar hyd yr A5. Mae ffurf cyson i
holl gerrig milltir Telford, sef y garreg lwyd, y plat du a’r ysgrifen wen. Yma
cawn weld fod 40 milltir hyd at ddiwedd y daith yng Nghaergybi a fod 5 milltir
i fynd hyd at Cernioge i’r De. Yn fuan wedyn rwyf yn cerdded heibio gwesty
Cobdens, gwesty sydd yn enwog am fod yn gartref i ystlumod prin, y “Pips” sef y
Pipistrelles sydd yn byw yn nenfwd y gwesty.
Rwyf yn siwr bydd fy
nghyd-golofnydd Bethan Wyn Jones yn gallu ymhaelaethu llawer gwell na fi am hyn
i gyd ond diddorol iawn oedd deall fod pobl sydd yn ymddiddori mewn ystlumod yn
dod yma yn flynyddol ers 1995 i gadw cyfrif o faint o ystlumod sydd yma a fod y
nifer wedi amrywio rhwng 900 a 1500 o ystlumod.
Enw gymharol Seisnig sydd i
Cobdens wrthgwrs, allan o gymeriad mewn un ystyr a Chymreictod yr ardal hon ac
eto o ystyried pwysigrwydd y gwestai ar hyd yr A5 a datblygiad Betws y Coed fel
canolfan ymwelwyr o’r 1850au ymlaen dim syndod chwaith. Tan y Bwlch oedd yr enw
gwreiddiool ar y gwesty ond mae hanes fod y di-Gymraeg wedi cam ddeall hyn fel
Tan y Belch gan feddwl fod hyn yn gyfystyr a thori gwynt a fod hyn mewn rhyw
ffordd yn adlewyrchu’n wael ar y bwyd oedd ar gael yn y gwesty
Ydi hon yn stori wir medd a
chi ta di rhywun yn rwdlan yn llwyr ? Bydd angen i bobl Capel Curig ein helpu
yma dwi’n credu. Ond dyna chi stori dda un ffordd neu’r llall. Fe ail fedyddwyd
y gwesty yn Cobdens felly, ar ol y perchennog Frank Cobden, dyn oedd yn
gricedwr o fri a mae son iddo guro tim Prifysgol Rhydychen ym 1870 drwy fowlio
tri batiwr allan.
Dwi’n cofio sgwrsio hefo
ymweldydd dros yr Haf, a mynd a fo a’i deulu am dro i Gastell Dolbadarn fel
rhan o weithgareddau’r Amgueddfa Lechi a’r gwr yn dweud “we have nothing like
this in Middlesborough” a finnau yn ei ateb drwy ddweud mae rhywbeth diddorol
ym mhob man ond i ni ago rein llygaid. Cwta filltir oedd rhwng Caffi Moel
Siabod a’r Ganolfan ond cymaint o bethau diddorol i’w gweld.
No comments:
Post a Comment