Does dim o’i le a ’chydig o ail-adrodd felly dyma’r
datganiad yma (isod) unwaith eto, hwn ymddangosodd ar glawr y CD o gasgliad o
ganeuon Maffia Mr Huws, a rwyf wedi ei ddefnyddio yn y golofn o’r blaen; yr
awdur oedd Rhys Mwyn.
“Nid gor-ddweud yw y byddai’r Sin Roc Gymraeg fel da
ni yn ei adnabod heddiw wedi diflannu erbyn canol yr 80au heblaw am Maffia Mr
Huws”.
Gan wisgo fy het “hanesydd” rwyf am ddadlau
unwaith eto fod Maffia Mr Huws yn un o’r grwpiau pop Cymraeg sydd heb gael eu
teilwng barch gan y Cyfryngau a’r Haneswyr Pop. Cwestiwn arall yw pwy yn union
yw’r Haneswyr Pop ? Yn sicr o ran yr “Hanes”,
mae’n ymddangos weithiau fod y grwp wedi llwyr ddiflannu – rhywbryd a rhywle rhwng penodau Edward H a’r
Super Furry Animals. Mae yna dwll du,
tudalennau gwag, neb yn son ond rhaid fod rhywun yn cofio – ar gyfer y cyfnod
hwnnw 1980-83. Maffia oedd yn llenwi’r
bwlch, yn perfformio dros 100 gig y flwyddyn ac yn gwneud y peth yn llawn amser.
Rhwng diflaniad y “deinosoriaid denim” (fel dywedodd Gruff Rhys) a’r Sin
Danddaearol, Maffia oedd y gair, y gan, y band.
Gyda gymaint o
drafodaeth wedi bod yn ddiweddar am y ddiffyg gwerthiant a chefnogaeth i
gynnyrch Cymraeg a’r drafodaeth barhaol ynglyn a gormod o hunan gofianau dyma groesawu
hunangofaint Neil Maffia “O’r Ochr Arall”. O leiaf drwy gyheoddi’r llyfr yma
bydd stori Maffia drwy lygaid Neil Maffia ar gael, wedi ei gofnodi - yna i ni a
myfyrwyr y dyfodol i’w astudio hyd yn oed !
Os mae’r nod yw, neu am anelu am gael, “Popeth
yn Gymraeg” mae’n rhaid derbyn wedyn fod y ddadl fod yna ormod o hunangofianau
yn ddadl gymharol hurt, onibai bod dim gwerthiant o gwbl neu dim diddordeb o
gwbl – sut yn y Byd gallwn gael “gormod o lyfrau Cymraeg” ??????
Yn nhafarn y Llangollen ym Methesda trefnwyd
Noson Lansio i lyfr Neil Maffia a gyda addewid fod Neil am berfformio rhai
caneuon yn acwstig dyma fentro draw ar Nos Fercher rhewllyd ac oer. Yn ogystal
a pherfformio caneuon acwstig roedd Neil hefyd yn darllen tameidiau o’r llyfr.
Wyddochi beth, doeddwn rioed di sylwi fod Neil yn gallu bod mor ddoniol. Roedd
yn ddigrifwr ac yn adroddwr gwych, pawb yn chwerthin ac yn mwhnhau gwrando, heb
os mae Neil yn feistar ar ddal sylw’r gynulleidfa.
Rhywbeth arall oedd yn aros yn y cof am y
noson oedd fod fersiwn Neil o’r gan “Ffrindia”, un o glasuron Maffia, yn swnio
mor dda. Fel byddaf yn ei ddweud bob tro, can dda ydi can dda, felly fe
ddylia’r gan weithio ar gitar acwstig neu gyda’r piano yn ogystal a gyda band
llawn. Ar ol clywed Neil yn canu’r gan yma soniais wrtho y byddai noson o
ganeuon Maffia yn acwstig yn rhywbeth fydda’n apelio i nifer o bobl.
Cysur arall oedd cael mynychu noson heb
“deimlo’n hen” ac allan ohonni, ond roedd hon yn noson hefo hygrydedd hefyd,
nid rhyw noson ganol y ffordd i bobl sydd wedi hen beidio ymddiddori mewn
cerddoriaeth. Ie, peth braf iawn oedd cael noson yng nghwmni cyfoedion er fod
croeso i bawb a roedd ystad eang o oedrannau yno, ond roedd hon yn teimlo fel
noson lle roedd croeso, lle roeddwn hefp pobl oedd wedi bod yn rhan o’r un peth
flynyddoedd maith yn ol.
Wrth i Neil lofnodi fy ngopi o’r llyfr dyma
fo’n sgwennu “i un sydd yn cofio”. Ddwedais i ddim ond dyna chi lyfr gwerthfawr
iawn i’r casgliad. Roeddwn yn cofio trefnu gigs cynnar iddynt yn Neuadd
Llanerfyl ac roeddwn yn cofio yn iawn y noson pan ddreifiodd un o Maffia dros
droed Sion Maffia wrth yrru’r fan yn ol at ddrws y neuadd. Fe chwaraeodd Sion y
gig yn eistedd lawr cyn dechrau poeni am fynd i’r Ysbyty. Dyna chi be di
ymroddiad, dyna chi be di grwp go iawn – dyna chi Wariars Pesda ynde !
Yn ei cholofn yn
yr Observer mae’r colofnydd Miranda Sawyer wedi gofyn cwestiwn diddorol yn
ddiweddar, sef i ble mae’r dilynwyr pop canol-oed i fod i droi ? Cyfeirio oedd
Sawyer at ymdriniaeth BBC Radio 4 o’r cyfrwng pop ond wedyn mae modd dadlau fod
6Music gyda troellwyr fel Mark Radcliffe, Mark Riley, Steve Lamacq a Cerys
Matthews wrthgwrs, yn diwallu anghenion y gynulleidfa yma.
Mor falch oeddwn o
ddarllen Sawyer yn son am bobl fel fi, canol-oed ond sydd yn dal i fwynhau eu cerddoriaeth.
Oes mae ambell gig i ni fynychu ond yn rhyfedd iawn yn y Byd Cymraeg, dau
ddewis sydd yna go iawn. Un, y Byd Ifanc, trendi, Huw Stephens, C2, Maes B. Dau
y Byd Canol y Ffordd, Noson Lawen, Dafydd Iwan, Geraint Lovgreen, Steve Eaves a
Bryn Fon. Ond mi dyfais fyny hefo’r Cyrff a
Jarman a hyd yn oed ychydig bach o Ffa Coffi Pawb a Crumblowers.
I lle da ni fod i
droi ? Mae’r Cyfryngau wedi meddianu dau begwn. Yn achlysurol iawn cawn
raglenni gwych fel un Gruff Pritchard am y Cyrff ar C2 / BBC Radio Cymru neu
hyd yn oed ail-ddarllediad o Jarman yn Amsterdam ar S4C ond ar y cyfan, mae’n
cenhedlaeth ni wedi eu anghofio – sydd yn eironig o ystyried mae ein
cenhedlaeth ni wnaeth feirniadu cymaint ar yr “hen stejars” yn ystod yr 80au.
Dyma ni felly “hen
stejars” sydd isho gwarndo ar gerddoriaeth sydd ddim yn ganol y ffordd na chwaith yn grwpiau ifanc dwy-ieithog-un-llygaid-ar-Lloegr.
Fe ddaeth Neil Maffia o rhywle, ac am eilaid bach yn gwrando ar fersiwn acwstig
o “Ffrindia” dyma deimlo yn perthyn i
rhywbeth. Dyma lle mae Cleif Harpwood hefyd, yn dal i gredu, dal hefo’r angerdd
a heb golli’r rhesymau dros greu – mae’n bryd i ni ddechrau bywiogi’r Sin Roc
Cymraeg Canol Oed !
No comments:
Post a Comment