Yn ol ym mis
Rhagfyr 2011, cyhoeddais erthygl am y Domen Sgidia ar Fwlch y Gorddinan (Herald
Gymraeg 14.12.11). Rwyf am ymaelaethu ychydig am olion archaeolegol y cyfnod
yma, sef olion milwrol sydd yn perthyn
i’r Ugeinfed Ganrif. Y ddadl gennyf yw fod rhain yn gymaint “archaeoleg” ac ydi,
dyweder, Tre’r Ceiri neu Bryn Cader Faner. Yr ail ran o’r ddadl efallai yw
diffinio beth yn union yw archaeoleg ?
A’r drydedd rhan yw fod rhain yn safleoedd mor ddiddorol !
Felly, sut yn union mae diffinio
archaeoleg ? Beth am “astudiaeth o hanes dyn drwy gloddio safleoedd ac astudio
gwrthrychau”, neu “astudiaeth o hanes a diwylliant dyn drwy astudio olion
materol dyn”. Wrth edrych ar y safle we addysgol about.com rhaid oedd chwerthin wrth ddarllen
disgrifiad Kent V. Flannery ym 1982 o erthygl ‘The Golden Marshalltown, American Anthropologist 1984, tt 265-278 lle mae o yn disgrifio
archaeoleg fel “the most fun you can have with your pants on”. Rwan dyna
ddisgrifiad newydd i mi.
Ond os am dderbyn mae archaeoleg yw
astudiaeth o olion materol dyn, sef yr hyn mae dyn wedi ei adael ar ei ol,
mae’n deg felly cynnwys olion dyn o’r Ugeinfed Ganrif. Y cwestiwn wedyn wrth
gwrs yw pryd yn union mae Archaeoleg a Hanes yn cychwyn ? Mae Hanes yn dechrau
ddoe os nad awr yn ol yntydi ? Ond nid y fi yw’r unig un sydd yn dadlau’r
achos, mae CADW yn eu cyhoeddiad ‘Safleodd
Milwrol yr Ugeinfed Ganrif’, 2009 yn nodi “mae amddiffyn yn thema sydd yn
codi dro ar ol tro yn archaeoleg Cymru” ac yn rhoi sylw i’r maes hynod
ddiddorol yma gan gynnwys safleodd o’r Rhyfel Mawr, yr Ail Ryfel Byd a’r Rhyfel Oer.
Un o’r pethau diddorol am gyhoeddiad
CADW yw fod pennod ar feirdd rhyfel ganddynt sydd yn rhoi sylw i feirdd amlwg
fel Syr Albert Evans-Jones, Cynan fel yr adwaenid a hefyd Ellis Humphrey Evans,
yr enwog Hedd Wyn. Y pwynt yma yw fod dealltwriaeth fod angen edrych ar y
darlun ehangach, fod mwy i’r hanes na’r archaeoleg pur a dyma ni felly mae Hedd
Wyn yn dod mewn i’r maes. Does dim modd trafod hanes y Rhyfel Byd 1af mewn
cyd-destyn Cymreig heb gyfeirio at Hedd Wyn.
Rhyw bythefnos yn ol, a hynny yn
foreuol, roeddwn yn ffilmio eitem ar gyfer y rhaglen ‘Heno’ yng nghromlech Cefn
Isaf, Rhoslan yng nghwmni Gerallt Pennant a dyma grybwyll fy mod yn bwriadau
mynd i weld blwch-amddiffyn (pillbox) Borth y Gest yn ystod y prynhawn. Fel un
o’r ardal roedd Gerallt yn gyfarwydd a’r safle a chefais gyfarwyddiadau sut i
ddod o hyd i’r blwch-amddiffyn gyferbyn ac Eglwyas Sant Cyngar. A dweud y gwir
doedd hwn ddim yn safle anodd i’w ganfod yn gorwedd ar ben Carreg Llam
(SH565374), craig sy’n edrych allan dros Afonydd Glaslyn a Dwyryd.
Blwch i amddiffyn rhag ymosodiad o
gyfeiriad Bae Tremadog yw hwn, a fel y rhan fwyaf o flychau amddiffyn
arfordirol mae’n dyddio o’r cyfnod 1940-41 pan roedd ofn mawr y byddai’r Almaen
yn ymosod ar Ynysoedd Prydain efallai o gyfeiriad Iwerddon. Hefyd, yn drist
mewn ffordd, fel gormod o’r blychau-amddiffyn, mae’r blwch yma yn gaeedig. Mae
modd gweld dros y blociau sydd yn rhwystro mynediad a mae modd tynnu llun gwael
felly dros y blociau ond byddai rhaid bod yn dena ar y naw i allu gwthio i
mewn. Does dim gobaith i mi bellach.
Yr arferiad oedd defnyddio cerrig
lleol i adeiladu’r blychau gan ychwanegu concrit i gryfhau y to.Blociau ddigon
amrwd sydd wedi eu defnyddio yma, nifer yn sticio allan, fel rhyw bwdin Dolig Leggo
ar ben y graig. Rhyfeddais at unigrywedd y blwch, a rhyfeddais fwy fyth ar yr
olygfa fendigedig, y llanw i mewn, Traeth Bach yn y pellter a’r ddwy afon yn
cyfarfod yma cyn sleifio allan yn ddistaw i’r mor ym Mae Tremadog. Y prynhawn
yma mae’r Rhinogydd yn wyn dan flanced o eira ond mae’r haul yn braf ym Mhorth
y Gest. Roedd Gerallt wedi son wrthyf am flwch-amddiffyn arall ar Draeth Graig
Ddu felly dyma benderfynu dilyn Llwybr Arfordir Cymru heibio Morfa Bychan ac
ymlaen hyd at Graig Ddu, rhyw bedwardeg munud o waith cerdded os hynny.
Dyna chi beth ydi llwybr hyfryd, a
dyma gyfarfod nifer o Gymry Cymraeg yn cerdded y llwybr. Dyma sgwrsio hefo pawb
yn eu tro a chanfod fod “bob un wan jac” yn darllen yr Herald Gymraeg. Dyna chi
gyd-ddigwyddiad a dyna chi godi calon. Braf iawn yw cael clywed gan ddarllenwyr
yr Herald eu bod yn gwerthfawrogi ein hymdrechion caled wythnosol fel hyn yn
“gorfod” cerdded llwybrau i ddod o hyd i safleoedd hanesyddol (gwaith caled go
iawn).
Cefais sgwrs ddiddorol hefo un cwpl
am garreg i gofio am Sant Cyngar yn glanio ar Graig Ddu, carreg sydd bellach ar
goll ? ond doedd fawr o neb yn gyfarwydd a’r blwch-amddiffyn arall yma ar y
traeth. Roedd Gerallt wedi son ei fod wedi disgyn a bellach fod y rhan fwyaf
dan y tywod felly doeddwn ddim y gant y
cant sicr y byddwn yn ei ddarganfod.
Wrth gyrraedd Traeth Graig Ddu dyma
glywed rhywun yn galw “I know you don’t I ?”, a phwy oedd yma oedd gofalwr
Eglwys Clynnog wedi dod draw am dro. Eglurias pwrpas fy ymweliad a chefais
gyfarwyddiadau ddigon da ganddo i osgoi treulio awr yn chilota a dyma cyrraedd
y blwch-amddiffyn o fewn tua deg munud o gerdded ar hyd y traeth. Dim ond y to
a’r fynedfa gefn sydd i’w gweld bellach (SH5436). Dyma roi tic arall ar fy
rhestr.
No comments:
Post a Comment