Bore Dydd Gwener 11 Ionawr, mae colofnwyr yr Herald yn
cerdded i weld Dinas Emrys, un o’r safleoedd archaeolegol pwysicaf sydd ganndom
yng nghyd-destyn Hanes Cymru. Safle sydd angen ei barchu ac angen gofal mawr i
beidio dringo dros unrhyw furiau. Mae’r olion yma yn dyddio o’r Oes Haearn, y
Cyfnod Rhufeinig a’r cyfnod ol-Rufeinig, sef yr union gyfnod sydd yn cael ei
gysylltu a Gwrtheyrn ac yn wir mae olion cyfnod y Tywysogion yma hefyd. Byddaf
yn hoff iawn o ddefnyddio’r disgrifiad, “safle aml-gyfnod”, a heb os mae’r
disgrifiad yma yn addas ar gyfer Dinas Emrys.
Mae
llwybr troed yn arwain o faes parcio Neuadd Craflwyn i gyfeiriad Llwybr Watkin
ac i fyny wedyn y grib ddwyreiniol sydd yn arwain at gopa Dinas Emrys. O ddilyn
y llwybr yma does dim angen dringo unrhywle rhy serth a does dim siawns bydd rhywun yn ddiarwybod
yn dringo dros furiau bregys y bryngaer. Oherwydd cyflwr bregys y muriau does
dim modd gorbwysleisio yr angen am barch i’r safle yma. Cadwch i’r llwybrau a dim
dringo walia !
Yn
ddiddorol iawn roedd Julian Richards, yr archaeolegydd a’r darlledwr, wedi
trydar yn ddiweddar fod y ffyliaid fu’n dringo meini hirion Cor y Cewri ar y
Diwrnod Byraf yn amharchu’r cofadail. Y ffyliad yma sydd yn honni rhyw
gysylltiad “derwyddol” a’r safle, ond cytunaf a Julian, byddai’r un Derwydd go
iawn yn amharchu’r cerrig drwy ddringo drostynt ! Da ni Gymry Cymraeg yn gwybod
yn well, mae parch yn un o’r geiriau pwysig rydym oll yn ddysgu o blentyndod a
rydym yn dallt hyn, parch at le, parch at ein Gwlad, parch at ein Hanes, parch
at ein Diwylliant – bron byddwn yn dweud fod hyn yn naturiol i ni.
Digon
anodd i’w gyrraedd yw Dinas Emrys, mae’r llwybrau yn gul, yn wlyb ac er fod
ambell i arwydd, hawdd iawn fyddai methu cael hyd i’r llwybr cywir. Rwyf wedi
bod yma droeon yn arwain gwahanol grwpiau. Bu’m yma yn ddiweddar yng nghwmni
criw ‘Open Country’ BBC Radio 4 hefo’r ddwy Helen, y cyflwynydd a’r
cynhyrchydd. Fy job i ar y diwrnod hwnnw oedd rhoi y cefndir “archaeolegol”
iddynt. Mewn geiriau arall, beth oedd Radio 4 eisiau gennyf oedd “y gwir” nid y
chwedloniaeth am Myrddin a’r Dreigiau.
Digon
hawdd oedd trafod y darganfyddiadau archaeolegol, y llestri pridd sydd yn rhoi
dyddiadau i ni o’r Ganrif 1af ar ol Crist a hefyd o gyfnodau hwyrach yn y Cyfnod
Rhufeinig sydd yn awgrymu fod pobl wedi bod yma neu oleiaf yn ol a blaen yn
ystod y cyfnod Rhufeinig. Rydym hefyd yn gallu gweld o’r dystiolaeth
archaeolegol fod y muriau gorllewinol yn hwyrach na hyn sydd yn dod a ni at y
5ed Ganrif ac efallai cyfnod Gwrtheyrn.
Ond
rhywbeth roedd yn rhaid i mi bwysleisio i Radio 4 oedd fod yna werth i’r
hanesion a’r chwedlau hefyd. Rhaid enyn diddordeb pobl ifanc yn eu bro a’u
treftadaeth ac os mae stori yw’r modd o gyflawni hynny, wel stori amdani ynde,
yn enwedig stori am ddreigiau. Un o’r pethau mwyaf rhyfeddol am Ddinas Emrys yw
fod y pwll dwr lle roedd y dreigiau yn ymladd i’w weld hyd heddiw.
Darganfyddwyd gwrthrychau o’r 5ed / 6ed Ganrif gan Savory a fu’n cloddio ar ran
Gymdeithas Hanes Sir Gaernarfon yma yn y 50au o amgylch y pwll dwr.
Ymhlith
y gwrthrychau mwyaf diddorol roedd darnau o amphorae
sef y potiau hir pridd i ddal gwin, rhain wrthgwrs yn cael eu mewnforio o’r
Mor Canoldir, felly pwy bynnag oedd yn Dinas Emrys pryd hynny roedd ganddynt ddigon
o bres i fewnforio eu gwin ! Hefyd cafwyd hyd i ddarn o botyn hefo’r symbol Chi-Rho, sydd wedi ei ffurfio o’r ddwy
lythyren gyntaf Groegaidd o enw Crist. Eto
tystiolaeth fod pwy bynnag oedd yma yn ceisio’n galed i barhau hefo’r drefn neu
arferion Rhufeinig a Christnolgol peth amser ar ol i’r Rhufeiniaid adael Cymru.
Roedd
fy nghyd-golofnwyr i weld yn mwynhau’r cysylltiad rhwng yr archaeoleg a’r
stori. Fel esbonias mae angen ferswin gyfredol o’r stori ar gyfer plant, ac yn
wir, mae’r fersiwn plant fel arfer llawer gwell wedyn fel rhyw rhagflas neu
gyflwyniad i oedolion – dechrau – canol
a diwedd da………….. cadw’r peth yn syml.
Y bore
yma, mae hyd a lledrith i’w deimlo yn yr awyr ac ar y tir. Mae’n wlyb dan draed
a digon oer os yn sefyllian, y niwl / tawch yn drwchys dros Nant Gwynant.
Fyddai hi ddim wedi bod yn fawr o sioc petae draig wedi dod allan o’r niwl,
roedd pawb yn barod, yn barod i goelio yn y tylwyth teg, dyna Dinas Emrys i chi
!
Rydym
oll yn talu teyrnged i Llywelyn Fawr (neu pwy bynnag adeiladodd y twr sgwar ar
y copa). Chydig iawn o hanes ysgrifenedig sydd yna am Llywelyn ap Iorwerth yn
adeiladu ei gestyll. Os ddim Llywelyn, pwy arall fydda gyda’r modd i adeiladu
twr yma ? Ar hyn o bryd mae CADW a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn brysur yn
ceisio rhoi ychydig o gadwraeth i du mewn y twr. Chydig sydd i’w weld mewn
gwirionedd ond i’r rhai craff mae modd sylwi ar y batter, sef gaelod y twr sydd
wedi ei gryfhau am allan yn fwriadol, yn union fel tyrrau Castell Biwmares a
gorthwr Dolbadarn.
Rwyf am
orffen gyda’r un nodyn a fy nghyflwyniad. Heb os dyma un o’r safleoedd pwysicaf
i ni fel Cymry o ran Hanes Cymru.
No comments:
Post a Comment