Rwyf yn cael pleser wythnosol o sgwennu’r golofn hon, rwyf
yn cael pleser o gyfarfod chi y darllenwyr a chael adborth a sgwrs. Rwyf yn
mwynhau cael awgrymu lleoliadau hynafol a diddorol i ymweld a nhw a rwyf wrth
fy modd yn dysgu rhywbeth newydd wrth wneud gwaith ymchwil ac ymweld a safloedd
ar gyfer y golofn.
Mae’n
debyg y gallwn wneud hyn am weddill fy oes heb unrhyw drafferth cael hyd i rhyw
heneb neu safle newydd i ni ymweld ac e; does dim prinder safloedd a does dim
prinder storiau a hanes a chorneli o Gymru sydd yn ddiethr i mi. Ar y llaw
arall, rwyf wedi treulio rhan helaeth o fy mywyd (dros tri deg mlynedd) yn “brwydro” i ddatblygu, cyfoesi, hyrwyddo a
chenhadu y pethe diwylliannol yma sydd ar yr ymylon, y “busnas pop Cymraeg amgen”
’ma, a wyddo’chi beth, weithiau (yn anffodus) mae yna gyfrifoldeb i fynegi barn
am “y pethe” (amgen).
Dwi
ddim yn cael pleser o wneud hyn. Brwydr ddiflas ydi hi. Brwydr lle rwyf yn
teimlo fel hen ddyn syrffedus o ail-adroddus. Dyn blin fengach na Gwilym Owen.
Pync Rocar sydd yn methu derbyn bod 1977 drosodd, mwy ymylol na fuais i erioed,
hen geffyl ras allan yn pori, hen furddyn heb do, y mwsogl yn drwch, ymgyrchydd
heb fatri i’w megaffon a heb gyfrwng (i bob pwrpas)….. lle od i fod. Dwi ddim
yn gyfforddus nac yn anghyfforddus – jest allan o le, allan o amser, allan o
unrhyw gynefin. Cofiwch ella fod hyn yn beth da.
Felly y
ddadl yma fod “streic EOS” rhywsut yn effeithio ar y gerddoriaeth sydd ar Radio
Cymru. Wel ydi, mewn fordd ddiddorol iawn mae’r streic wedi gorfodi BBC Radio
Cymru i chwarae stwff saff, canol y ffordd, hen ffasiwn gwahanol i’r chwech neu
ddwsin o artistiaid canol y ffordd roedd Radio Cymru yn arfer ei chwarae hyd
syrffed yn ystod y dydd. Fe all rhywun ddisgrifio hyn fel “newid”, newid un
math o “ganol y ffordd” am “ganol y ffordd” arall.
Dyma’r
ddadl. Nes i ddim ymuno ac EOS i sicrhau fod 6 artist canol y ffordd yn cael
tua 80% o’r gacan. Beth am yr holl artistiaid Cymraeg arall ? Engraifft amlwg
yw’r diffyg sylw i’r Byd Gwerin (heblaw Sesiwn Fach sydd yn rhaglen ardderchog).
Mae hwnna yn gwestiwn sydd rhaid ei holi. Mae angen ychydig o Robin Hood arnom
a rhannu’r cyfoeth !
Dyma’r
ddadl. Os ydi pawb / pwy bynnag / gwrandawyr yn poeni cymaint am y gerddoriaeth
a rhaglenni cerddorol o safon, byddai Lisa Gwilym wedi cael rhaglen ddyddiol ar
BBC Radio Cymru yn y prynhawn. Dydi rhgalen Lisa ddim yn amgen na chwyldroadol,
ond mae yn perthyn i’r Unfed Ganrif ar Hugain a nid yr 80au.
Dyma’r ddadl. Petae pawb (neu hyd yn oed unrhywun
o gwbl) yn poeni am y pethe amgen, y pethe ifanc, y pethe sydd yn symud y pethe
ymlaen, wel yn syml byddai Huw Evans yn dal ar yr awyr yn hwyr y nos.
Cyflwynydd ifanc doniol a diddorol, cyflwynydd ddylia fod yn cyflwyno Noson
Lawen gyfoes ar S4C ar Nos Sadwrn petae ni ond yn sylweddoli fod yn bryd i
Ddiwylliant Cymraeg fentro mewn i’r Unfed Ganrif ar Hugain.
Dyma’r
ddadl. Beth bynnag yw’r gerddoriaeth (canol y ffordd) rwdlan (fel awgrymodd
Gwilym Owen yn Golwg) mae Dafydd a Caryl a rwdlan mae Geraint Lloyd, dydi’r
rhaglenni ddim gwell na dim gwaeth o gael caneuon canol y ffordd gwahanol, mae
nhw’n dal i swnio fel rhywbeth o’r wythdegau cynnar. Rwdlan mae Tudur Owen a’i
griw hefyd ond mae’r gerddoriaeth yn tueddu fod yn well oherwydd cynhyrchwyr BBC
Bangor. Rwan mae rhai yn hapus hefo rwdlan ond i’r rhai sydd ddim mae rhywun yn
gorfod newid gorsaf.
Dyma’r
ddadl. Mae angen BBC Radio 4 Cymraeg i ni sydd eisiau mwy o sylwedd. Mae angen
6Music i ni sydd yn cymeryd ein cerddoriaeth o ddifri. Popeth yn Gymraeg. Dydi
un orsaf i bawb ddim yn gweithio. Efallai fod yn bryd datganoli darllediadau
Radio Cymru a chynnig mwy o ddewis ar y
We. Mae digon o arain yna go iawn i wneud hyn ! Dwi’n gwrando ar 6Music ar y We
wrth sgwennu hwn heddiw – syml !
Dyma’r ddadl. Y rhai sydd wedi
dioddef mwyaf yn hyn i gyd, yn fwy na’r gynulleidfa yw staff cynyrchwyr,
ymchwilwyr a chyflwynwyr y BBC. Pobl fel BBC Bangor sydd yn creu rhaglenni
gwych fel rhai Lisa Gwilym. Nid EOS a’r streic sydd wedi eu rhoi yn y twll yma
ond amharodrwydd a methiant eu penaethiaid yn Llundain yn sicr, ac yn BBC Cymru
hefyd, i ddygymod a’r ffaith fod Oes y Deinasoriaid drosodd.
Dyma’r ddadl. Heddiw ym 2013 does
dim lle i “fonopoli” fel yr un sydd rhwng y BBC a PRS a’r taliad blanced.
Glywso’chi rioed am ddatganoli ? Cam naturiol ymlaen yn y Diwydiant Cerddoriaeth
Cymraeg yw sefydlu EOS a dim ond mater o rannu’r blanced rhwng Cymru a gweddill
taliad PRS yw hi go iawn. Syml. Y BBC sydd yn amharod i chwalu’r blanced a’r
monopoli. Dwi ddim hyd yn oed yn un sydd yn dadlau am y pres - dwi’n dadlau am
yr egwyddor !
Dyma’r ddadl. Dydi EOS ond yn
datganoli hawliau darlledu ym Mhrydain. Un cam ar y tro. Codwyd calon rhywun o
weld y gefnogaeth yn y Cynulliad gan Aelodau fel Rhodri Thomas, Bethan Jenkis
ac Elin Jones a wedyn darllen yr hen
rocar ei hyn Wigley, yn lambastio agwedd y BBC yn y Daily Post.
Dyma’r ddadl. Mae hyn oll yn
siomedig tu hwnt, siomedig fod hyn rioed di digwydd a wedi gorfod digwydd. Dwi
am roi galwad i Robin Hood fel dwedodd Joe Strummer a gofyn am rannu’r cyfoeth
!
No comments:
Post a Comment