Gan fod pawb adre heddiw ar Ddydd San Steffan efallai fod
cael “Cwis” bach drwy gyfrwng y golofn yn addas fel gweithgaredd ddiwedd pnawn.
Felly beth yw’r cerrig yma ? Ym mle mae nhw a beth yw’r cysylltiad ? Ond dyna
ddigon ar y cwis, yn anffodus, ac er fod rhan ohonnof yn meddwl byddai llunio
20 cwestiwn ar Hanes Cymru wedi bod yn ddipyn o hwyl mae gennyf ambell bwynt
rwyf am eu crybwyll cyn i’r flwyddyn yma ddiflannu unwaith ac am byth. Efallai
fod “Cwis Herald Gymraeg” yn syniad
cofiwch ar gyfer colofn Dolig 2013 os bydd y Golygydd yn cytuno !!!
Cefais
fy hyn yn ddiweddar o flaen un o fy nosbarthiadau Archaeoleg yn cyhoeddi /
dadlau / mynegi barn fod y ddwy garreg uchod yn rhai y dylid fod pawb yn
gyfarwydd a nhw. Nid dweud hyn mewn ffordd elitaidd, “dwi’n gwybod mwy na chi”
oedd fy mwriad on yn hytrach trio gwneud pwynt fod rhain o bwys i ni o ran
Hanes Cymru ac efallai mae dyma’r man cychwyn. Onibai fod rhain yn gyfarwydd i
ni oll yma yng Nghymru mae rhywbeth mawr o’i le.
Rydym
ddigon cyfarwydd a Bedd y Milwr Di-enw yn Abaty Westminster a mae’r rhan fwyaf
ohonnom yn ymwybodol o ‘Gornel y Beirdd’
ac yn gallu enwi Charles Dickens fel un a gladdwyd yno, a dwi’n credu gyda llaw
fod hyn yn rhywbeth ddylia ni gyd wybod. Ond, mae’n ymddangos ar adegau fod yna
ddiffyg gwybodaeth am Hanes Cymru a’r hyn sydd o dan ein traed neu o dan ein
trwynau yn amlach na pheidio yn ein Broydd ac yn lleol.
Yn
rhyfedd iawn wrth son am y Milwr Di-enw mae cofeb llechan ger adeilad Cyngor
Gwynedd yng Ngahernarfon yn nodi fod
rhan o’r gwaith haearn ar yr arch wedi ei wneud gan gwmni Brunswick o
Gaernarfon. Hefyd, braidd yn anffodus yw’r ffaith fod neb yn gofalu am y gofeb
a fod iorwg yn tyfu drosdi gan guddio rhan o’r ysgrif. Dwi bron a mynd yno hefo ysgol
a glanhau y peth fy hyn !
Ond i
ddychwelyd at y pwynt, sef pwysigrwydd Hanes Cymru a’r holl bethau cysylltiedig
fel ymwybyddiaeth o le, balchder o le, parch at le, cysylltiad a pherthyn a lle
– yn wir, dyma y man cychwyn efallai o ran creu dinasyddion sydd yn perthyn ac
yn rhan o gymuned a’r gymdeithas. Ac i
ddychwelyd at y Dosbarthiadau Archaeoleg sydd gennyf, mae’r rhan fwyf aohonnynt
yn cynnwys canran sylweddol o ddysgwyr. Mae pob Dosbarth gennyf drwy gyfrwng y
Gymraeg. Nid athro Cymraeg mohonof ond
mae cael chwarae rhan fechan iawn yn y broses o gael cynnwys pobl yn allweddol
i’r hyn rwyf yn ei wneud.
Profiad
arall gefais yn ddiweddar oedd cael ymweld ac Ysgol Gynradd Rhiwlas i drafod y
Celtiaid ac o gyrraedd y dosbarth roedd yn weddol amlwg o wrando ar yr
acenion fod nifer o’r plant o gefndir
di-Gymraeg. Wrth gadarnhau gyda’r Prifathro fod pawb yn deall Cymraeg dyma
fwrw’ mlaen a rhaid i mi ddweud dyma un o’r dosbarthiadau mwyaf “am eu pethau”
i mi gael ers talwm.
Chafwyd
ddim trafferth o gwbl o ran cynnal yr holl weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg
ond hefyd chafwyd ddim trafferth o gwbl cael y plant i ymateb a hefyd i resymu
ynglyn a chysyniadau archaeolegol. Roeddwn wrth fy modd yn clywed geirfa fel
”cofnodi” ar flaen eu tafodau wrth i ni son am y broses o ddehongli’r
gwrthrychau rydym yn eu darganfod wrth gloddio. Yn amlwg yma hefyd mae rhywun
yn gweld effaith prifathro ac athrawon sydd “am eu pethau”.
Os
codwyd fy nghalon gan fy ymweliad ac Ysgol Rhiwlas fe’m siomwyd i’r entrychion
gyda datganiadau y “Trydarati Cymraeg” wrth iddynt ymateb i galyniadau
Cyfrifiad 2011. Y gair mawr, yng Nghymru ac yn wir drwy Brydain gyfan, hyd yn
oed ar Newsnight, oedd “mewnfudwyr”. Wrthgwrs i’r “Prydeinwyr” beth bynnag mae
hynny i fod i feddwl, a beth bynnag mae “Prydeinwyr” yn meddwl mae hynny yn ei
feddwl, mae “mewnfudo” yn golygu rhywbeth tra wahanol i’r hyn sydd o dan sylw
yn y cyd-destun Cymreig. Oes wir, mae yna eironi yndoes, sydd yn ymylu ar y
doniol gan fod y rhai sydd yn gweiddi uchaf am Fwslemiaid a Phwyliaid yn ddall,
hollol ddall i bethau dibwys fel yr Iaith Gymraeg.
Rhywbeth
hyd yn oed fwy eironig yw fod rhai o’r union bobl yma yn “ffoi” i Gymru rhag yr
holl anwariaid sydd yn eu “boddi” yn Lloegr (sef Prydain yn eu meddyliau bach
nhw) gan wneud yr un peth i ni Gymry wedyn, ein boddi ni mewn mor o
Seisnigrwydd. Hyd yma (diolch byth) dwi ddim wedi clywed neb o’r Trydarati
Cymraeg yn datgan unrhyw farn am yr holl Bwyliaid sydd yng Nghymru a faint o
rheini sydd yn dysgu Cymraeg ? Ateb,
siwans fod eu plant yn dysgu yn yr ysgolion.
Fel
archaeolegydd, meiddias awgrymu ar Trydar ein bod oll yn fewnfudwyr. Daeth y mewnfudwyr
diweddar yma yn dilyn Oes yr Ia tua 10,000 o flynyddoedd yn ol yn y cyfnod
Mesolithig. Boed pobl wedi symud neu ddim does dim dadl fod amaethyddiaeth fel
traddodiad wedi dechrau yn y Dwyrain Canol a wedi “cyrraedd” yma tua 4,000 cyn
Crist. Pwy di’r Saeson ond cyfuniad od o Sacsoniaid a Normaniaid a symudodd i
mewn i Ynysoedd Prydain a’r holl Geltiaid nath ddim symud o gwbl. Cofiwch mae
Brenhines Essex (yr “Essex Girl” cyntaf) oedd Buddug.
Ond o
feiddio awgrymu fod angen pwyll os am ddefnyddio geiriau fel “mewnfudwyr” dyma
for o ffelltith gan yr “Ymgyrchwyr Iaith” (honedig), doeddwn yn poeni dim am yr
Iaith, rioed di bod i Geredigion ac wedi byw ar gefn y Gymraeg. Argian dan,
dyna ddweud. Wrthgwrs fe dorais i y rheol hefyd drwy ddechrau ateb yn ol cyn
cofio – os am sgwennu neu mynegi barn – gadewch lonydd wedyn i’r Trydarati fynd amdani a ’sdeddwch yn ol a chwerthwch !
Os dysgais
un peth o’r holl flynyddoedd o deithio dramor gyda’r grwp (Cymraeg) Anhrefn fe
ddysgais fod ffyrdd eraill o edrych ar y Byd, ffyrdd o edrych allan yn hytrach
nac i mewn, ffyrdd o fod yn siradawyr Cymraeg mewn cyd-destyn Rhyngwladol. Ond
y peth mwyaf o deithio dramor a chyfeillio a phobl o wahanol ddiwylliannau ac
ieithoedd oedd dysgu fod ffiniau yn beth drwg a di-angen, fod geiriau fel
“mewnfudo” yn perthyn bellach i’r UKIP a
fod yn llawer rhy hawdd rhoi’r bai ar bobl wahanol yn lle gofyn sut mae modd cynnwys
pobl sydd yn symud i le bynnag mae nhw’n symud.
No comments:
Post a Comment