Mae yna dueddiad yndoes, a dwi’n siwr fy mod i yn euog o
hyn, o son o hyd am Dywysogion Gwynedd fel Tywysogion Cymru a chanolbwyntio ar
yr amlwg Llywelyn ap Iorwerth a Llywelyn ap Gruffydd. Hyd yn oed os am fentro
at y tywysogion llai cyfarwydd efallai bod rhywun yn aros yn ei gynefin a son
am Gruffydd ap Cynan neu Owain Gwynedd felly pleser mawr dros y Sul oedd cael
ymweld a chartref yr Arglwydd Rhys a thywysogion Deheubarth yn Ne-orllewin
Cymru.
Saif
Castell Dinefwr ar graig yn edrych dros Ddyffryn Tywi, rhyw filltir efallai tu
allan i dref Llandeilo. Yn ol yr hanes roedd gan yr Arglwydd Rhys gastell yma
erbyn 1163 a fod hynny yn ystod cyfnod o sefydlogrwydd gwleidyddol. Bydd nifer
ohonnom yn cysylltu’r Arglwydd Rhyd a chyfnod o adfywiad yn y celfyddydau a
diwylliant Cymraeg a Chymreig yn ogystal a chyfraith a threfn. Daeth y
sefydlogrwydd yma i ben yn Neheubarth gyda marwolaeth Rhys a mae hanes wedyn am
ei feibion yn cweryla a hyd yn oed Llywelyn Fawr yn rhoi gorchymyn i Rhys Grug
(mab i’r Arglwydd Rhys) i ddymchwel y castell wrth i Llywelyn gryfhau ei
ddylanwad a’i rym yn y rhan yma o Gymru ar ddechrau’r G13eg.
Wrth
gerdded at fynedfa ddwyreiniol Castell Dinefwr gyda’r ffos anferth ar ochr y
bryn, mae rhywun yn dychmygu castell mwnt a beili yma yn wreiddiol, sef tomen o
bridd gyda twr pren ar y copa, yn y dull Normanaidd. Pwy a wyr faint o olion
adeiladwaith yr Arglwydd Rhys sydd wedi goroesi o dan y ddaear ond mae’r waliau
cerrig rydym yn eu gweld heddiw yn perthyn i’r G13eg a’r twr crwn, y gorthwr, yn sicr yn nodweddiadaol o’r hanner cyntaf y
G13eg.
Twr
crwn William Marshall yng Nghastell Penfro sydd yn gosod y safon a’r “ffasiwn”
a mae awgrym fod twr Castell Dolbadarn er engraifft yn dangos faint oedd
dylanwad William Marshall ar Llywelyn
Fawr. Yr hyn sydd yn gwneud y gorthwr crwn yng nghastell Dinefwr yn unigriw ac
yn anarferol yw fod ystafell-haf wedi ei ychwanegu ar y to gan deulu Dinefwr yn
ystod y ddeunawddfed Ganrif. Ar yr olwg gyntaf mae’r adeiladwaith ddigon tebyg
i’r adeiladwaith Canol Oesol ond o edrych i fewn i’r “ystafell” mae rhywun yn
gweld y llefydd tan “modern”. Yn y Saesneg rydym yn galw adeiladwaith o’r fath
yn “folly”, hynny yw, ffug Ganol Oesol yn yr achos yma.
Mae yna
ffenestri mawr a drws i’r ystafell-haf, dyma le braf iawn gyda golygfa i bob
cyfeiriad i deulu Dinefwr fwynhau te a theisen ar bnawn hyfryd o Haf. Rhaid
dweud, mae’r golygfeydd yn ol dros Dy Newton a’r goedwig a’r parc a’r ochr arall i gyfeiriad Dyffryn Tywi a
Chastell Dryslwyn yn fendigedig. Mae Afon Tywi fel neidr dew yn gorwedd yn
llonydd yn y dyffryn. Mae’r llawr wedi hen ddiflanu i’r ystafell-haf felly dim
ond edrych i mewn fedra ni wneud heddiw.
Edward
1, fel yng Ngwynedd, sydd yn dod a pethau i ben o ran perchnogaeth Cymreig a’r
Tywysogion er fod hanes Castell Dinefwr yn parhau hyd at gyfnod Owain Glyndwr
cyn i’r safle droi yn adfail-rhamantus erbyn y ddeunawddfed Ganrif. Syndod arall oedd pam mor fach oedd buarth
mewnol y Castell er fod rhywun yn dychmygu castell anferth o edrych draw am
Dinefwr yn uchel ar ben y graig o Ddyfryn Tywi.
Wrth gerdded am y Castell cadwais
olwg am y gwartheg gwynion, roedd un neu ddau i’w gweld yn y pellter ac yn ol y
son mae’r gwartheg gwynion yma ers dros fil o flynyddoedd. Mae’r gair “sirloin”
yn cael ei gysylltu a’r gwartheg ond roedd y gwartheg rhy bell i ffwrd i mi
gael llun a roedd hi’n amser am banad ganol pnawn.
Bellach wrthgwrs mae Parc Dinefwr dan ofal yr
Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roedd pobl yn cerdded o gwmpas hefo’u cwn, eraill
yn jogio, doedd fawr yno i astudio’r Castell yn sicr ond roedd y parc yn amlwg
yn atyniad lleol, yn le i fynd am dro ar y Sul ac yn amlwg yn adnodd pwysig i
bobl Llandeilo.
Felly dyma gyrraedd yr “Ystafell De” a chael bechdan caws a phinafal
wedi ei dostio a pot o de. Roedd y staff yn groesawgar tu hwnt ond braidd yn
denau oedd y Gymraeg yma am ryw reswm er doedd dim angen i mi droi at y
Saesneg, roedd pawb i weld yn dallt. Y dyddiau yma rwyf yn tueddu i ddefnyddio
llawer llai o’r Saesneg yn gyhoeddus, mae modd archebu, talu a diolch yn
Gymraeg hyd yn oed gyda’r di-Gymraeg – synnwyr cyffredin yw hanner y peth.
Roeddwn bellach oddifewn i Dy
Newton, ty a adeiladwyd oddeutu 1660 gan Edward Rice er fod son am dy Tuduraidd
blaenorol yma yn dyddio o gyfnod Syr
Rhys ap Thomas, digon o waith fod adeiladwaith Rhys ap Thomas wedi goroesi.
Diddorol oedd clywed hanes ymweliad Capability Brown a Dinefwr. Talwyd swm o
£900 iddo fel “ymgynghorydd” ar y tirwedd a’r gerddi ac un canlyniad oedd fod y
ffordd o’r ffarm ar gyfer nwyddau wedi ei guddio o olwg Arglwydd Dinefwr yn y
ty drwy ei suddo yn y tirwedd.
Ar fy ffordd adre o Lanelli
oeddwn i ar y diwrnod yma a rhaid canmol Dinefwr i’r cymylau, roedd popeth am y
lle yn braf, hamddenol, diddorol, hawdd parcio, y bwyd yn dda ac yn sydun a’r
hanes, y cysylltiad ag Argwydd Rhys a’r castell hynod drawiadol cystal ac
unrhyw gastell arall yng Nghymru. Ewch am dro neu yn sicr galwch heibio os yn
teithio heibio Llandeilo.
No comments:
Post a Comment