Un o uchafbwyntiau fy wythnos ar hyn o bryd yw cael ymweld
a’r Lasynys Fawr ger Harlech bob bore Mawrth. Rwyf yno gyda criw sydd yn dilyn
cwrs Coleg Harlech ar adnabod prif nodweddion, adeiladau, digwyddiadau a
chymeriadau hanesyddol y ‘Pentref Cymreig’ a gan ein bod yn ardal Ardudwy rydym
wedi penderfynu canolbwyntio ar hanes yr ardal yn hytrach na chanolbwyntio ar
bentref penodol. Rydym oll yn gwerthfawrogi’r ffaith fod dosbarth o’r fath yn
cael ei gynnal mewn adeilad hynafol, Y Lasynys Fawr yw hen gartref Ellis Wynne,
awdur ‘Gweledigaethau y Bardd Cwsg’. Fe all rhywun ddadlau mae does bosib cael
gwell lleoliad i drafod hen adeiladau !
Fel yn
achos Cae’r Gors, a mae hyn siwr o godi gyda’r Ysgwrn yn y dyfodol, un o’r
cwestiynau mawr yw sut mae cael pobl i ail-ymweld a safleoedd fel hyn ?
Wrthreswm mae Cymdeithasau Capel a Merched y Wawr yn fwy na pharod i ymweld a’r
llefydd yma, mae yma groeso a phanad bob amser (drwy drefniant wrth reswm rhag
ofn fod y lle ar gau dros y Gaeaf) a does dim rhai dweud fod pawb yn
gwerthfawrogi arwyddocad Kate Roberts neu Ellis Wynne o ran ein llenyddiaeth ac
o ran hanes y Genedl, ond pam dod yn ol yr eilwaith ?
Yr ateb
efallai yw “dewch yn ol hefo rhywun arall, neu gyda ffrindiau o’r De neu deulu
o Awstralia”. Neu, mae yna ddadl arall fod rhywun yn dysgu cymaint mwy yn ystod
yr ail-ymweliad, ond o ran cynnal dosbarthiadau, efallai fod hyn hefyd yn un
ffordd bach o gadw pethau i fynd, i roi yr hen adeiladau yn ol yng nghanol
bywyd a bwrlwm cymunedol. Gobeithio wir.
Cawsom
ein tywys o amgylch y Lasynys Fawr gan y Swyddog Datblygu, Catrin Glyn, roedd hynny yn angenrheidiol cyn i ni eistedd
a dechrau trafod adeiladau eraill hynafol yn Ardudwy, ac er fod nifer sydd yn
mynychu’r dosbarth hefyd yn aelodau o Gyfeillion Ellis Wynne, sylwais pam mor
hapus oedd pawb i ail edrych ar ddrws neu gwpwrdd. Yn sicr ni fyddaf byth yn
diflasu, mae rhywun yn gweld rhywbeth newydd bob tro, efallai oherwydd golau’r
haul, neu drwy aros am eiliad ar y grisiau.
Rydym yn
cerdded drwy hen ystafell wely Ellis bob bore Mawrth ar ein ffordd i’r ‘Ystafell
Werdd’ (sydd wedi ei beintio yn wyrdd fel yr oedd yn wreiddiol) lle byddaf yn cynnal y dosbarth gan fynd
heibio ei wely cudd a hen le tan (caeedig bellach) y lloft (ger y grisiau newydd). Wrth i ni drafod
cymeriadau hanesyddol Ardudwy, yr enw ddaeth i amlygrwydd oedd John Jones Maesygarnedd
y gwr hynod hwnnw oedd ymhlith y rhai arwyddodd y warant marwolaeth y Brenin
Siarl 1af ym 1649.
Un peth
sydd, efallai, yn amlwg o ddechrau pori dros hanes Maesygarnedd yw sylweddoli
pam mor “blwyfol” rydym yn gallu bod o ran rhai agweddau o Hanes Cymru. Mae
pawb yn gyfarwydd a’r prif gymeriadau, y Llywelyn’s, y Hywel’s Dda a Harris a
phwy all osgoi Owain Glyndwr (O.G) mwy na alla’ni osgoi Lloyd George (LL.G), a
dwi ddim am eilaid yn awgrymu na ddylid fod yn hollol gyfarwydd a rhain, ond o
feddwl fod Cymro o Sir Feirionnydd wedi chwarae rhan mor allweddol yng nghyfnod
Cromwell a Siarl 1af rhyw deimlo oeddwn fod cymaint mwy o gymeriadau hanesyddol
Cymreig yn haeddu cael mwy o sylw.
Rhaid
teithio i ben pella Cwm Nantcol i ddod o hyd i Maesygarnedd. Os yw rhywun yn
cerdded yn eu blaen mae rhwyun yn cerdded am Fwlch Drws Ardudwy rhwng y
Rhiniogau, Fawr a Bach. Credaf hefyd, a rwyf mor euog a phawb arall, fod hanes Sir
Feirionnydd rhywsut yn cael ei anwybyddu ar adegau, nid o reidrwydd yn fwriadol
ond o drafod gyda’r criw yn y Lasynys buan iawn cefais fy atgoffa o gyfoeth
hanesyddol yr ardal.
Cefais
fy hyn yn awchu i gael mynd i grwydro’r ardal wrth wrando ar y criw yn trafod
enwau fel Gerddi Bluog, Uwchlaw’r Coed, Hendre Waelod a Thyddyn y Felin. Oll yn
ddiethr i mi, bydd rhaid mynd i grwydro yn eu cwmni tymor nesa meddylias. Y
peth arall amlwg o wenud gweithdai hanes fel hyn yw fy mod i fel tiwtor yn
dysgu cymaint hefyd. Os oes gennyf fwy o gefndir archaeoleg, a rwyf wrth reswm
yn gyfarwydd a chromlechi Cors y Gedol, Bron y Foel a Gwern Einion yn y rhan
yma o’r Byd does dim dwy waith nawr fod ymweliad a Maesygarnedd yn uchel ar fy
rhestr.
Fel
hogyn ysgol gynradd roedd gennyf ddiddordeb mawr yn Oliver Cromwell, peidiwch a
gofyn pam, a fel oedolyn rwyf o hyd wedi bod a chryn embaras am hyn, doedd
polisiau Cromwell yn Iwerddon ddim yn rhai y byddwn yn amlwg yn cytuno a hwy
ond fel yn achos Lloyd George a rhannu Iwerddon yn ddiweddarach dydi ein barn
wleidyddol heddiw ddim yn reswm dros beidio ymddiddori yn yr hanes nagdi ? Gyda
llaw fe briododd John Jones chwaer Cromwell, sef Katherine, ym 1656 a mae stori
arall fod Cromwell wedi aros noson ym Maes y Neuadd lle mae ystafell wedi enwi
ar ei ol yn y gwesty heddiw.
Mesur o
gyfeillgawrch a pherthynas dda o fewn y dosbarth yw rhannu llyfrau a dyma gael
benthyg copi o ‘Ardudwy a’i Gwron’ (1914) sef llyfr gan David Davies ar hanes
Cyrnol John Jones a dyma ddarllen difir dros y dyddiau nesa. Braf iawn yw cael
dysgu, darganfod pethau newydd a chael ychwanegu llefydd rwyf angen ymwled a
nhw i fy rhestr. Braf iawn yw gwybod hefyd na ddaw rhywun byth i ben !
No comments:
Post a Comment