Born in America, in Europe bred
In Africa travell’d and in Asia
wed
Where long he liv’d and thriv’d,
in London dead
Much good, some ill, he did
Rwyf wrth fy modd hefo carreg
fedd Elihu Yale ym mynwernt Sant Silyn, Wrecsam. Mae hon bron cystal a chareg fedd
John Ceiriog Hughes yn Llanwnog lle cofir am Ceiriog “Dyma ei lwch – a dim
lol”. Fedrith rhywun ond gobeithio ar ol
i ni fynd fod rhywun yn cofio amdanom gyda geiriau mor addas a di-lol.
Roeddwn
wedi bod yn cynnal gweithdy Dynamo yng Ngholeg Ial, yn trafod ochr busnes y
Diwydiant Cerddoriaeth ac yn wir wedi cael bore bendigedig hefo myfyrwyr yn eu
harddegau hwyr, myfyrwyr oedd yn gwrtais, yn cymeryd sylw a diddordeb, a wedi
bod yn fy holi am wahanol agweddau o’r Byd Pop Cymraeg a Chymreig am dros awr a
hanner. Erbyn amser cinio roeddwn yn barod i fentro i mewn i dref Wrecsam i
astudio rhywbeth hanesyddol. Bellach dwi ddim yn mynd i unrhywle heb drio
gwneud yn siwr fod yna ymweliad hanesyddol yn rhan o raglen y dydd, amser yn
caniatau wrthgwrs.
Rwyf
wedi ymweld ac Eglwys Sant Silyn neu St Giles o’r blaen ond yr hyn sydd yn braf
o ail ymweliad yw fod rhywun yn gallu ychwanegu at eu gwybodaeth a
dealltwriaeth. Y tro cyntaf mater o gael hyd i garreg fedd Elihu Yale oedd hi
ond y tro yma rwyf yn gwybod lle i fynd a rwyf yn cael canolbwyntio ar ddarllen
y gofeb.
Bu i
deulu Elihu ymfudo i America yn ystod
teyrnasiad Siarl 1af oherwydd y diffyg goddefgarwch i’r Piwritaniaid, hyn 17
mlynedd ar ol i’r Mayflower hwylio allan hefo’r criw cyntaf a ganwyd Elihu ym
mlwyddyn dienyddu Siarl, 1649. Dychwelodd y teulu i Brydain yng nghyfnod
Cromwell a mae’n debyg fod yr Elihu ifanc wedi bod yn Llundain yn ystod cyfnod y Pla Mawr a Tan
Llundain wedyn ym 1666.
Gwnaeth
ei gyfoeth yn India, gan ddechrau gweithio hefo’r East India Company a threulio
amser fel arweinydd Fort St George . Un arall wnaeth gyfoeth ar yr un pryd oedd
Robert Clive, hwnnw a chysylltiad a’r Amwythig a Chastell Powis. Treuliodd Yale
yr ugain mlynedd olaf o’i fywyd rhwng
Plas Grono, ger Wrecsam a Sgwar y Frenhines yn Llundain, ond y rheswm pennaf
rydym yn adnabod enw Yale wrthgwrs yw am ei gysylltiad a Choleg Connecticut.
Ar yr
11 Fehefin 1718 roedd Yael wedi gyrru dwy gist o ddeunyddiau a thecstiliau i’r
Coleg i gael eu gwerthu am elw. Roedd hefyd wedi rhoi 417 llyfr iddynt a llun olew o’r Brenin Sior
Iaf. Amcangyfrifir ar y pryd fod hyn i gyd werth £1,162. Yn ddiweddarach ym
1721 gyrrodd mwy o bethau i’w gwerthu, y tro yma werth £562. Oherwydd ei
garedigrwydd fe fabwysiadwyd yr enw Yale ar Goleg Connecticut.
Rhoddodd
arian hefyd i Eglwys y Plwyf yn Wrecsam. Dyma chi eglwys hyfryd i ymweld a hi.
Wrth gyrraedd y fynwent o gyfeiriad Stryd yr Eglwys rydym yn wynebu giatiau
haearn trawiadol Robert Davies, Croesfoel a adeiladwyd ym 1720. Adferwyd y
gitatiau ym 1900 a mae llyfr agored ar ben y giat yn darllen “Go in peace and
sin no more” – hynny wrth i rhywun gerdded allan o’r fynwent. Treulias awr yn y
caffi ger y giataiau yn darllen y llyfrau tywys, yn mwynhau wy ar dost a pot o
de gyda golygfa o’r twr a’i gerfuliau o’m mlaen.
Yr hyn
sydd yn amlwg wrth ymweld a hen eglwysi yw fod cymaint i’w weld, o bosib gormod
mewn un ymweliad. Unwaith eto dyma’r fantais o gael ymweld dro ar ol tro, a’r tro yma yr hyn sydd yn dwyn fy sylw yw’r
hen luniau paent ar y wal o dan y nenfwd ar ochr ddwyreiniol corff yr Eglwys,
hon yw’r wal yn rhannu corff yr eglwys o’r gangell.
Darlun
o Ddydd y Farn yn dyddio ‘r Unfed Ganrif ar Bymtheg sydd i’w weld yma gan
gynnwys llun o frenin a dau esgob yn codi o’u
heirch i wynebu Crist, Mair a Sant Ioan. Yn anffodus mae wyneb Crist
wedi hen ddiflannu ond mae modd gweld
Sant Pedr yn croesawu rhai i’r
Nefoedd ar ochr chwith y llun er fod y rhan yma mewn cyflwr gwael a wedi colli
dipyn o’i liw. Ar ochr dde y llun gwelir erall, llai ffodus yn cael eu llosgi
yn Uffern ! Ail-ddarganfuwyd y llun ym 1867.
Un o’r
nodweddion mwyaf hynafol yn yr Eglwys yw’r cerflun o ‘Keneverike ap Hovel’ yn y
Lladin a tybiaf mae Cyneurig ap Hywel fydda hyn yn y Gymraeg. Daethpwyd o hyd
i’r cerflun o dan y ddaear yn y fynwent yn nechrau’r Bedwaredd Ganrif ar
Bymtheg wrth dyllu seiliau ar gyfer ail osod giatiau Robert Davies.
Nodwedd
arall hyniod ddiddorol yw’r ‘sedilia’, sef
y seddau ar gyfer yr offeiriad ar
wal dde-ddwyreiniol y gangell. Mae sedilia tebyg i’w gweld yn Eglwys Clynnog
Fawr. A wedyn tu gefn i’r allor mae’r reredos gyda cerfluniau, y reredos yw’r
sgrin tu cefn i’r allor.
Mae’n
debyg mae’r ddadl yma yw fod yn werth caniatau ychydig o amser i ymweld ag
Eglwys Sant Silyn, hynny yw y tro nesa mae rhywun yma yn siopa ar y Sadwrn neu
yn ymweld a gem Peldreod yn Wrecsam. Mae modd ymgolli yma, ymgolli yng nghanol
yr holl hanes, yr holl nodweddion bach diddorol hanesyddol, y ffenestri lliw, y
pensaerniaieth.
O’r tu
allan, mae’r twr wrthgwrs yn hynod drawiadol. Wedi eu adeiladu yn yr Unfed
Ganrif ar Bymtheg yn y dull perpendiciwlar ac yn codi i uchder o 45 medr. Yn
anffodus mae ol y tywydd i’w weld bellach gyda nifer o’r cerfluniau yn dechrau
colli eu ffurff. Gellir gweld cerfluniau o Sant Iago Fawr, Sant Silyn (Giles)
gyda Harri VIII ar un ochr iddo a Sant Ioan Fedyddwr ar yr ochr arall.
Ar
waelod wal orllewinol y twr mae carreg a
roddwyd yn y wal gan Goleg Ial ym 1918 i gymeryd lle carreg a gludwyd drosodd
i’r America. Yn ddiddorol iawn, Giles neu Silyn oedd nawdd sant pobl ac
anableddau symud.
No comments:
Post a Comment