Pythefnos yn ol roedd Canolfan Nefyn yn orlawn, roeddwn yn
amcangyfrif fod oleiaf 200 yn bresennol yn y gynulleidfa, roedd rhai hyd yn oed
yn son fod mwy yma ar y noson hon nac oedd wedi troi fyny i agoriad y Ganolfan
yn ddiweddar a hynny ym mhresenoldeb Rhys Ifans a’i gariad Anna Friel, er nad
oedd Anna yno mewn rol swyddogol wrth
reswm. “Dan ei sang” yw’r disgrifiad sydd yn dod i’r meddwl.
A’r
achlysur ? Noson i lansio neu sefydlu Cyfeillion Amgueddfa Forwrol a Chanolfan
Treftadaeth Llyn. Roedd y trefnwyr yn gobeithio am rhwng 60 a 100 o bobl ond
wrth i’r noson fynd yn ei flaen roedd mwy a mwy yn cyrraedd ac angen wedyn am
fwy a mwy o gadeiriau. Nid dyma’r tro cyntaf i mi weld rhywbeth fel hyn yn Mhen
Llyn, mae yma gymuned sydd yn fyw ac sydd yn fodlon mentro allan ! Dydi pobl
Llyn ddim yn gaeth i’r hyn gyferiais ato ar y noson fel “melltith Simon Cowell
a’r sioeau teledu holl ddylanwadol”. Da iawn nhw, dyma’r ymneilltuwyr newydd –
y rhai sydd am droi y sioeau talent (talent cwn bellach) i ffwrdd a mynd allan i gyfarfod pobl ac i
ddangos diddordeb yn eu bro, eu hanes a’u treftadaeth.
A nid
am y tro cyntaf rwyf yn cydnabod y fraint o gael bod yn eu plith. Roeddwn wedi
cael gwahoddiad gan yr Amgueddfa i fod yn ‘Lywydd y Noson’ a fe gyfeirwyd at y
niferoedd cyn i mi agor fy ngheg ond roeddwn wedi paratoi joc o flaen llaw - ei
bod yn fraint i mi gael bod yr “ail Rhys” ar eu rhestr o bobl gwadd a’r ail joc
wael iawn gennyf oedd fy mod wedi methu cael gafael ar Anna Friel i ddod hefo
mi……..
A nid
am y tro olaf, dyma fynegi sylw bach ar faint o ddiddordeb sydd yna allan yn
ein cymunedau, ein neuaddau pentref, y festri capel ac ein Cymdeithasau Hanes a
LLen. Efallai fod S4C wedi rhoi rhyw hanner tro bedol yn cael Gerallt Pennat yn
ei ol ond hanner tro yw hi, dydi Wedi 7, fel rhaglen dda, ddim wedi ei hachub,
dim ond rhoi plastar ar Heno mae nhw wedi gyfaddawdu a dio’m ots faint mae Iolo
a Sian Cothi yn crwydro’r wlad mae rhywun yn teimlo fod yna gyfoeth o hanes
allan yna sydd ddim yn cyrraedd y sgrin na radio.
Mae hyn
oll yn fy atgoffa o’r dyddiau cynnar yn y Byd Pop, neuaddau yn llenwi hefo
cynulleidfa ond dim rhaglenni (call) ar y Cyfryngau. Dydi’r uchel swyddogion
yng Nghaerdydd ddim ar lawr gwlad, faint bynnag mae nhw’n honni eu bod yn
gwrando, a’r hyn sydd yn fwy fwy amlwg yw’r awydd am nosweithiau byw, cofiwch,efallai
fod modd gwylio rhaglenni ar CLIC neu BBC iPlayer felly mae’n haws mynd allan ?
Ond y pwynt o ddifri yw’r angen am fwy o sylwedd ar y Cyfryngau gan gydnabod fod
technoleg hefyd yn caniatau pob i ail-wylio neu i wylio pan yn gyfleus – fe
ddylia hyn fod yn dda i bawb !
Ychawnegaf
y gair “tabloid” felly at y gair “seleb” fel y geiriau hynny sydd yn wrthyn i
unrhywun sydd ac unrhyw enaid ar ol, unrhywun sydd dal am wrthryfela yn erbyn y
cysyniad afiach fod rhaid i bobeth fod yn “dumb down” beth bynnag fathiad
afiach fydda hunna yn y Gymraeg.
A dyma
chi engraifft i brofi pwynt, mae ffilm am Gapteiniaid y Mor yn cael ei dangos,
ffilm gan y BBC wedi ei chyflwyno gan y diweddar Aled Eames, yr hanesydd a’r
darlithydd ac awdur llyfrau fel ‘Porthmadog Ships’, ‘Gwraig y Capten’ a
‘Llongau a llongwyr Gwynedd’. Fedrai ddim credu na fyddai y math yma o ffilm o
ddiddordeb i holl wylwyr S4C, mae yma hanes, cynnwrf a chyffro, cymeriadau
ffraeth, doniol – pobl fu’n byw ar y mor. Mae un cwestwin diddorol yn cael ei
ofyn gan un o’r hen gapteniaid – “faint o bobl ifanc fydd yn mynd i’r mor yn y
dyfodol ?”. Roedd dros 200 wedi mwynhau’r rhaglen ffeithiol yma yn fawr iawn, a
safon y BBC arni roedd hynny yn amlwg.
Yr ateb
syml i hynny yw dim llawer ma’n siwr. O
ymweld a Nefyn heddiw, prin fydda rhywun yn ymwybodol o’r ffaith fod cychod ar
un adeg wedi cael eu hadeiladu yma. Bellach traeth ar gyfer ymwelwyr sydd yma,
mae’r hen olion wedi diflannu i raddau helaeth a dyma chi felly y ddadl dros
arwyddocad a phwysigrwydd ail gynna’r tan ar yr hen aelwyd drwy atgyweirio’r
hen Eglws Santes Fair ym Mhen isa’r dre. Mae yna Amgueddfa wedi bodoli yma ers y 70au ond mae
gwaith yn mynd yn ei flaen bellach i ail-agor yr Amgueddfa ar ei newydd wedd.
Roedd
sawl pwynt arall yn cael ei godi ar y noson, effaith ymwelwyr ar Ben LLyn, yn
sicr cwestiynau ynglyn a’r effaith ar yr Iaith ond hefyd mae’n rhaid dadlau fod
ail agor yr Amgueddfa yn mynd i fod yn hwb i’r economi lleol, yn ffordd o ddenu
ymwelwyr o fath arall i Lyn yn hytrach na’r rhai sydd am ymdrochi yn unig. Rwy’n
sicr fod hanes a threftadaeth “gwyrdd a Chymreig” , fel sydd yn cael ei awgrymu
gan griw Cynefin a Chymuned ym Mlaenau Ffestiniog, ym mynd i arwain at greu
swyddi a chadw pobl ifanc Cymraeg yn yr ardaloedd yma.
Mae’r
niferoedd yn Nefyn yn dangos fod mwy i fywyd na gwylio’r sioeau talent – efallai fod yn bryd i S4C ac
eraill ymateb i’r her a chael gwared a’r ffwlbri “Dumb down”, mae yna gyfoedd o
hanes a storiau hyd a lled Cymru a…………. – credwch neu beidio mae yna bobl
ddeallus allan yna !
No comments:
Post a Comment