Rwyf wedi cyfeirio at y cysyniad o “Seico-ddaearyddiaeth”
sawl gwaith yn y golofn hon, sef y syniad hynny o ddilyn eich trwyn, fel arfer
yn y dirwedd drefol, ond rwyf hefyd wedi son sawl gwaith fod yr ymarfer hyn
hefyd yn hollol addas ar gyfer y Gymru wledig. A felly y bu hi ychydig ddyddiau
yn ol, roeddwn yng Nghaerdydd ar gyfer Cyfarfod Blynyddol y Sefydliad
Cerddoriaeth Gymrieg, daeth y cyafrfod i ben tua 5pm a roedd yr hogia wedi rhoi
archeb penodol yn “Toys Are Us” felly cyn dechrau am adre roedd rhaid teithio i
gyfeiriad Penarth o Fae Caerdydd i’r archfarchnad degannau.
Llwyddiant,
fe gefais yr union Skylanders roedd y ddau wedi archebu. Wrth eistedd yn y maes
parcio dyma dechrau meddwl am fy ffordd adre. Roeddwn am osgoi cymaint ac y
gallwn o’r A470. Roeddwn am ddodd allan o’r car ar yr awr pob awr i weld
rhywbeth hynafol. Ffwrdd a ni. Yr hyn sydd yn bwysig am “seico-ddaearyddiaeth”
yw nad oes cynllunio o flaen llaw.
Drwy
gyd-ddigwyddiad roeddwn wedi bod yn sefyllian o gwmpas y Llyfrgell Newydd yn yr
Hayes yng nghanol Caerdydd ychydig ddyddiau ynghynt gyda criw o dywysion. O
flaen y llyfrgell roedd cerflun anferthol, celf modern yn sicr, a oedd yn
ogystal a bod yn waith celf, hefyd yn dangos lefel y mor yn y Bae drwy rhyw
wyrth dechnolegol o fewn y gwaith celf ei hyn. Ond yr hyn oedd hyd yn oed fwy
diddorol i mi oedd fod geiriau / barddoniaeth yr awdur Peter Finch wedi eu
gosod ar y palmant o amgylch y gwaith celf yma. Roedd y geiriau allan o drefn –
fel rhyw groesair afreal – dyma’r situationist / seico-ddaearyddwr wrth ei
waith.
Felly
roedd Finch wedi fy ysbrydoli, a roedd Castell Coch yn galw, felly ffwrdd a mi
heibio Sain Ffagan, at yr M4 a wedyn troi i’r Dwyrain am Tongwynlais a dilyn y
ffordd gul i fyny am Castell Coch. Roedd y Castell wedi hen gau felly dyma
barhau i fyny lon fach gul goedwigog hyfryd, mor agos i’r A470 ond eto mor heddychlon a distaw. Rwyf yn teithio dros
Bwlch y Cwm a’r bryniau gyda’r enw gwych “Brynau” yn uchel uwchben Ffynnon Taf.
Erbyn
hyn rwy’n gwybod yn iawn mae Caerffili fydd y pwynt cyntaf allan o’r car. Rwyf
wrth fy modd hefo Caerffili. Dyma un o’r trefi lle bu i’r Sex Pistols
berfformio yn ystod eu taith “Anarchy” yn ol ym 1976. Dyma’r dref lle roedd
Cristnogion tu allan i’r cyngerdd yn canu carolau mewn gwrthwynebiad i ymweliad
y pync- rocars anwaraidd. Dyma lle dywedodd Steve Jones y gitarydd “rydym tu
mewn yn gynnes, mae nhw tu allan yn oer”.
Ond roedd mwy yn canu carolau tu allan
nac oedd yno yn gwrando ar y Pistols tu mewn. Un o fy uchelgeisiau yw cael yr
actor a’r cerddor Gareth Potter i fy nhwys o amgylch Caerffili ac i ddangos y
man cysygredig yma lle cannodd y Pistols yn ol yn Rhagfyr ’76. Dwi ddim yn
holi’r trigolion am ymweliad y Pistols – fe gaiff hynny aros nes dwi’n cael cerdded
y strydoedd hefo Potter.
Fel
dywedais, dim ond yng Nghaerffili ……………, dyma adael y car gyferbyn a’r castell
a throedio heibio’r cannoedd o gwac-cwacs a chwyaid gwyllt sydd ar y lawnt, baw
ym mhobmab, felly er mor hyfryd yw’r golygfeydd o’r castell mae hefyd angen
troedio yn ofalus. Fy lleoliad cyntaf ar y daith seico-ddaearyddol yw cerflun
Tommy Cooper a aned yma ar y 19fed o Fawrth 1921. Di rhywun ddim yn meddwl am
Cooper fel Cymro nacdi ? Dadorchuddwyd y gofeb gan Gymro llawer mwy amlwg, yr
actor Anthony Hopkins, sydd gyda llaw yn un o noddwyr Cymdeithas Tommy Cooper.
Ceflunwyd y gofeb gan James R Done.
Ond
does dim modd osgoi’r castell yng Ngherffili. Roeddwn yng Nghastell Caernarfon
yn ddiweddar gyda cwpl o Texas oedd yn rhyfeddu at faint y castell ond mae
Caerffili gyda’i dwr gwyredig, sydd yn gorwedd ar ongl o 10 gradd, (fersiwn
Caerffili o Pisa) hyd yn oed yn fwy na Chaernarfon, dyma’r ail gastell mwya o
ran maint ym Mhrydain – hynny ar ol castell Windsor.
Rwyf yn
cael swper yn Nhafarn y Cwrt, tafarn hynafol, yr hynaf yn y dre a mae gardd yno
yn edrych dros y castell, gwych, a mae gennyf awr oleiaf cyn i’r haul fachlud.
“Where are you from Butt ? you have a strong accent”, ond mae’r trigolion yn
hynod gyfeillgar a chroesawgar, diddordeb yw hyn nid cwestiwn ymosodol. Mae’n
dafarn hen, y tai bach mewn cyflwr all fod yn well, dim ffwdan yma, ond rwy’n
falch i fwynhau’r olygfa hon a chael bechdawn gaws wedi toddi, bowlan o sglods
i ychwanegu blas a hanner o Pepsi (diet) gan nad ydynt yn gwneud pot o de. Un
rheol – dwi ddim yn cymeryd myg o de mewn unrhyw gaffi rhag ofn iddynt rhoi rhy chydig o lefrith,
gormod o siwgr …… mae panad yn rhy bwysig !
Unwaith
eto, er mae castell Normanaidd yw hwn, castell Gilbert de Clare neu Gilbert
Goch oherwydd ei wallt fflam goch, mae’n gastell sydd ynghlwm a Hanes Cymru.
Roedd teyrnasiad Harri’r Trydydd yn amhoblogaidd, roedd Simon de Montford wedi
arwain gwrthryfel y barwniaid a Gilbert er yn ddyn ifanc wedi ochri gyda de
Montford yn wreiddiol cyn ochri gyda Edward 1af yn ddiweddarach. Roedd Llywelyn
ap Gruffydd wrthgwrs wedi ei gydnabod fel Tywysog Cymru ers 1267 ac am ymestyn
ei ddylanwad i’r De.
Dyma un
o’r rhesymau i Gilbert de Clare adeiladu’r castell ym mis Ebrill 1268. Roedd
Llywelyn yn sicr yn ceisio ehangu ei ddylanwad yn y De Ddwyrain, roedd wedi ochri
gyda de Montford, wedi cipio Aberhonddu yn y 1260au a threiddio ar hyd Dyffryn
Wysg. Yr hyn sydd yn hynod am Caerffili yw mae nid castell y Brenin oedd hwn
ond castell yn perthyn i un o deuluoedd mwyaf dylanwadol y Normaniaid , y de
Clares a fod bygythiad Llywelyn ap Gruffydd mor bwysig yn y penderfyniad i
godi’r castell ar frys.
No comments:
Post a Comment