A dyna chi flwyddyn arall wedi mynd heibio, hynny yw ers
Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Bob Owen yng Ngwesty’r Eryrod, Llanuwchllyn y
llynedd. Dyma ni yn ol eleni, ur un dafarn. Nifer o wynebau cyfarwydd a’r tro
yma rwyf ymhlith y tri siaradwr gwadd. Rhaid dweud unwaith eto eleni mae hwn yn
ddiwrnod da, byddwn yn argymell fod llawer mwy yn mynychu’r diwrnod yma, yn
tanysgtrifio i’r Casglwr ac yn dod i wrando ar y sgyrsiau difir. (Mae’r bwyd
wedyn yn yr Eryrod yn rhagorol ond nid colofn blasu’r bwyd yw’r golofn hon).
Y
darlithidd cyntaf oedd yr Athro Sioned Davies yn trafod “Perfformio’r Pulpud”
sef hanes yr hoelion wyth fel John Jones Talysarn, John Elias a Christmas Evans (Ty Cildwrn).
Heblaw am fod yn hynod ddiddorol, bywiog, hwyliog a gwrandadwy roedd yn amlwg
yma fod Sioned Davies yn rhan o broses wirioneddol wych o waith ymchwil ac o osod mynegai ar gyfer yr
holl gofiannau sydd wedi eu cyhoeddi am yr hen bregethwyr. Bydd gwaith ymchwil
llawer haws yn y dyfodol oherwydd y gwaith yma.
Yr ail
siaradydd oedd y Parch Emlyn Richards. Dwi ddim yn credu i Emlyn gadw at y
testun “Mae Ddoe Wedi Mynd (gwaith llenyddol yr hunangofiannau)” ond doedd fawr
o neb i weld yn poeni. I bob pwrpas cafwyd llith gan Richards, bron fel
comediwr yn gwneud sioe llwyfan. Do fe chwerthodd pawb nes bod ein bolia a’n
hochra yn brifo. Yn ystod y llith fe lwyddodd i ymosod ar hunangofiannau
diweddar yn y Gymraeg (nes i ddim dallt os oedd fy un i yn cael ei gnocio yn
fan hyn - dwi’n credu i Lywydd y dydd awgrymu
hynny yn ddiweddarach).
Fe
ymosododd Richards hefyd ar “bobl botymau” sef pobl a gor-ddibyniaeth ar
gyfrifiaduron a thechnoleg wrth iddo gyfeirio at y ffaith mae ond gwasgu’r
botwm anghywir fydd ei angen a bydd yr holl wybodaeth yn diflanu. Mae ganddo
bwynt wrthgwrs. Fel dywedais, dyma’r math o ddeunydd fydda’i fel ar fysedd
comediwr – ymosod ar rhywbeth rydym oll yn gaeth iddo, yn ein heuogrwydd a’n
dibyniaeth mae ddeng gwaith mwy doniol !
Fe
lwyddodd Davies a Richards i ddefnyddio’r gair “selebs” er dwi ddim yn credu
fod yr un o’r ddau yn arddel hyn fel arfer da ond wrth i mi gyrraedd y llwyfan
roedd yn rhaid i mi ategu yr hyn ysgrifennais ychydig yn ol yn y golofn hon –
dyma’r gair gwaethaf i’w ddefnyddio yn y Gymraeg a roedd rhaid ymosod ar y Cyfryngau
yn hyn o beth am wthio’r feddylfryd o enwogrwydd am eich enwogrwydd yn hytrach
nac am unrhyw dalent.
Ond ar
y llaw arall, mae’n bur debyg mae fi oedd y fenga yn yr ystafell. Pam nad oes
pobl ifanc (hyd yn oed yn eu tridegau) yn casglu hen lyfrau Cymraeg, yn
ymddiddori yn y maes yma ? Nid am y tro cyntaf (dwi’n dweud hyn yn aml yn y Byd
Archaeoleg) – rhaid i chi ddechrau trydar bois bach, cael tudalen Facebook i’r
Casglwr – rhaid ymuno a’r Byd Modern neu cael eich gadael ar ol. Ac yma
efallai, er mor ddoniol oedd Richards, ac er cymaint roedd rhwyun hefyd yn
cydymdeimlo ac yn wir, cytuno a rhan helaeth o beth roedd yn ei ddweud, mae’n
rhaid i’r Gymraeg o bopeth synmud hefo’r amser.
Mae’n frwydr allan yna i gadw’r
Iath yn berthnasol, byddai’n gangymeriad o’r radd flaenaf i ymwrthod a
thechnoleg newydd – rhaid derbyn fod yna gyfryngau newydd a ffyrdd newydd o
gyfathrebu a mae’n rhaid i’r Gymraeg fod yn rhan o hynny.
Darlith ar waith arloesol y
rheithor Henry Rowlands, Llanidan oedd gennyf i, trafod ei lyfr “Mona Antiqua
Restaurata” 1723, yr arolwg cyntaf o henebion Sir Fon. Dyn o flaen ei amser ac
athrylith a wnaeth un cangymeriad bach, priodoli’r cromlechi a’r meini hirion i
gyfnod y Derwyddon ond doedd dim modd gwybod yn wahanol ym 1723. Wrth gloi fy narlith
cyflwynais y ffaith fod Rowlands wedi adnabod fod meini hirion Bryn Gwyn yn
rhan o gylch cerrig.
Ym mis Rhagfyr 2010 bu gwaith
cloddio gan Ymddiriedoaleth Archaeolegol Gwynedd dan oruwchwyliath George Smith
yn fodd i gadarnhau damcaniaeth Rowlands a fod cylch o wyth neu naw carreg yn
wir wedi sefyll uma yn y cyfnod Neolithig Hwyr / Oes Efydd Cynnar a fod
cysylltiad a’r clostir cyfagos Castell Bryn Gwyn fel rhan o dirwedd defodol.
Ychydig iawn o son fu am y ffaith
fod darganfyddiad mor bwysig wedi ei wneud ym 2010, dyma’r unig gylch cerrig ar
Ynys Mon. Ar y llaw arall, dim ond cadarnhau yr hyn roedd Rowlands wedi ei
awgrymu ar ddechrau’r Ddeunawddfed Ganrif wnaeth gwaith George Smith – fel
dywedais – Rowlands, dyn o flaen ei amser – athrylith. Efallai fod angen mwy o
Archaeoleg ar y Cyfryngau medda fi – mi fydda mwy yn gwybod am y
darganfyddiadau diweddar wedyn !
Ar ddiwedd fy sgwrs fe gywirodd
un gwr bonheddig mi am ddefnyddio’r benywaidd i son am “ddwy faenhir”. Roedd y gwr yn hollol gywir, mae “maen” yn
air gwrywaidd – felly “dau faenhir” sydd
i’w gweld mewn cae ger y ffordd am Niwbwrch hyd at heddiw. Pwy all ddadlau, ond wrth deithio adre o
Lanuwchllyn dyma feddwl mwy am fy nghamgymeriad anfwriadol – pam fod maen yn
wrywaidd felly ? I mi mae’r meini hirion yn llawer mwy benywaidd – mae nhw’n
arwydd o agosatrwydd at y Fam Ddaear, llawer mwy benywaidd o ran eu hysbryd ond
wrthgrws y gwr bonheddig sydd yn fanwl gywir.
No comments:
Post a Comment