Erbyn i’r golofn hon ymddangos byddaf wedi dychwelyd unwaith
eto i bentref Rhiwddolion rhwng Betws y Coed a Dolwyddelan. Pwrpas yr ymweliad
dros y penwythnos fydd (i mi yn sgwennu
pnawn Iau) ac oedd (i chi yn darllen ar y Dydd Mercher) mynd a criw Cymuned a
Chynefin am dro. Criw o Blaenau Ffestiniog yw Cynefin a Chymuned, criw sydd yn
gweithio yn galed i ddatblygu prosiectau twristaidd llawer mwy Cymreig o ran y
profad, mae’n syniad gwych a rwyf yn mawr obeithio bydd nifer o’r criw yn
datblygu’r syniadau yma ymhellach.
Ond
rwan dyma chi gwestiwn diddorol. Sut yn union mae rhywun i fod i ddisgrifio
Rhiwddolion ? Roedd hanes Nant Gwrtheyrn er engraifft yn llawer mwy syml, roedd
y gweithwyr ithfaen wedi gadael y pentref – roedd hwn yn bentref gwag o
adfeilion – ond nid dyma’r sefyllfa yn union yn Rhiwddolion. Mae Ty Mawr,
Rhiwddolion, sydd yn dyddio o’r 1850au, er engraifft, yn parhau i fod yn
gartref, chafodd y ty yma rioed ei adael yn wag.
Mae Bryn
Derw wedi ei adfer yn gymharol ddiweddar, a mae’n debyg y bydda rhywun yn galw
hwn yn ail gartref neu yn dy gwylia preifat i deulu o bell. Ar y llaw arall mae
Ty Coch, Ty Uchaf a’r hen Gapel / Ysgoldy (Ty Capel) wedi eu hadfer gan y
Landmark Trust sydd yn eu cynnig fel tai gwyliau tra wahanol efallai – mewn lle
gweddol anghysbell. Yn ol safle we y Landmark Trust yr unig swn yma yw swn yr
afon a brefu’r defaid. Does dim modd gyrru at Ty Capel er engraifft – rhaid
cerdded rhyw chwarter milltir o’r ffordd i’r drws.
Felly i
droi yn ol at y cwestiwn cyntaf, yn sicr o ystyried Ty Mawr, dydi Rhiwddolion
ddim yn bentref gafodd ei adael yn wag yn llwyr ond eto gyda Bryn Derw a’r tai
dan ofal y Landmark Trust fe all rhywun
ddadlau fod hwn wedi bod yn bentref gwag, yn sicr am gyfnod, ac erbyn
heddiw mae gennym bentref “hanner gwag” yn un rhan adfeilion ac ymhlith yr
adfeilion yma y tai bach twt, y tai gwyliau. Mae’n sefyllfa anarferol a dweud y
lleiaf.
Nid fod
rhywun yn dadlau am eiliad na ddylia na fod fywyd yn yr hen bentref ond mae’n
od cerdded heibio hen gartref Gutyn Arfon ac adfeilion y rhes teras a wedyn
wynebu Bryn Derw – y ty bach twt. A dyma
chi gwestiwn arall, beth yn union yw ein barn am y tai Landmark Trust, cwmni
sydd bron yn sicr wedi gallu talu gwell pris na fyddai pobl leol am y tir a’r
adefeilion a wedyn gallu fforddio i’w hatgyweirio.
Nid
cymuned fyw sydd yn Rhiwddolion bellach, na phentref gwylia chwaith ond
cyfuniad od o bob math o bethau gyda elfennau o Nant Gwrtheyrn cyn yr ail
adeiladu a hyd yn oed elfen o Sain Ffagan heb y miloedd o ymwelwyr. Erbyn
heddiw mae modd teithio yno gyda car drwy’r goedwig o gyfeiriad Maes Newyddion
a mae’r hen ffordd, sef Sarn Helen a ddefnyddiwyd tan y 60au bellach fawr mwy
na llwybr troed.
Pentref oedd yn gysylltiedig a Chwarel Bwlch
Gwyn oedd Rhiwddolion, chwarel a gynhyrchai lechfeini neu slabiau a rheini
wedyn yn cael eu cludo i lawr i Betws y Coed. Bellach mae’r unig adfeilion o
dan y goedwig, yn anodd i’w gweld ac yn anoddach byth i’w cyrraedd. Mae
adfeilion ffermdy Bwlch Gwyn a ddefnyddiwyd gan y chwarel yno yn ol y son ond
wrth drafod yn ddiweddar gyda perchnogion Ty Mawr mae’n safle peryglus iawn i’w
ymweld ag e a’r goedwigaeth yn drwchus.
Llyfr yr wyf wedi cael blas mawr
arno yn ddiweddar, fel llaw-lyfr neu lyfr-tywys yw “A Gazeteer of the Welsh
Slate Industry” (Gwasg Carreg Gwalch
1991) gan Alun John Richards,. Dyma chi lyfr sydd yn rhoi ychydig o hanes,
cofnod o’r adfeilion sydd i’w gweld heddiw a chyfeirnod map (sydd yn hanfodol
wrthgwrs) i bob chwarel lechi mwy neu lai yng Nghymru. Wrth gerdded i fyny am Rhiwddolion yn
ddiweddar gyda llyfr Alun yn fy sach cerdded sylweddolais pam mor werthfawr
oedd y llyfr wrth iddo gyfeirio at y llwybr llechi sydd yn arwain o’r rhes
teras draw tuag at yr hen gapel.
Onibai am lyfr Richards, digon o
waith byddwn wedi chwilota am yr hen lwybr yma. Bellach mae’r rhan fwyaf o’r
llwybr wedi ei guddio gan y glaswellt, ac yn amlwg felly, does dim defnydd dydd
i ddydd o’r hen lwybr. Go brin fod y trigolion ar eu gwyliau hyd yn oed yn dod
ar draws yr hen lwybr, go brin fyddai cerddwyr Sarn Helen yn sylweddoli arno
chwaith ac eto dyma un o’r trysorau sydd yma i’w ddarganfod – y slabiau llechan
sydd yn creu’r llwybr ar draws y cae. Yn ol yn y dydd mae’n rhaid fod hyn wedi
cadw traed plant y pentref yn sych wrth iddynt ymlwybro draw am eu gwers ysgol
gyda Gutyn Arfon.
Yn aml y pethau llai amlwg, y
pethau cuddedig, yw’r pethau mwyaf diddorol – y pethau sydd yn dangos oel traed
dyn ac oel trigolion yr oes a fu. Unwaith eto dyma le werth ei ymweld ag e,
gallwch gerdded i fyny o gyfeiriad Betws neu Dolwyddelan, gallwch fynd o un lle
i’r llall neu troi yn ol a dychwelyd yr un ffordd. Mae’n ddipyn o waith cerdded
i fyny allt o Betws ond o gyrraedd Rhiwddolion credaf byddai pawb yn cytuno fod
hyn werth yr ymdrech.
No comments:
Post a Comment