Pori drwy rhaglen ‘Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol
Cymru, Caernarfon 1935’, oedd wedi dod i’r fei yng nghanol nifer o hen lyfrau
oedd yn arfer perthyn i fy hen fodryb, ddaeth ar hysbysebion i’m sylw. A dweud
y gwir, rwyf bron a dweud mai dyma’r elefen fwyaf ddiddorol ynglyn a rhaglen
Eisteddfod Caernarvon (with a V) 1935 – y tudalennau hysbysebion.
Fy nhywys i oes o’r blaen wnaeth yr hysbesebion a bendigedig
o bethau oeddynt. Dyma chi hysbyseb G.O. Griffith & Son, teiliwr o Gaernarfon,
eto hefo ‘V’, a hynny yn hysbyseb uniaith Saesneg yn rhaglen yr Eisteddfod. Ond
yr hyn oedd yn wirioneddol wych am yr hysbys oedd y penwad “wherever appearance matters”. Dychmygwch
y math yna o hysbys heddiw (neu ddim) ar
siopau’r stryd fawr neu’r archfarchnadoedd.
Os oes unrhyw bwyslais ffasiwn heddiw, y pwyslais yw ar i
bawb edrych yr un fath, o Top Shop i Tesco’s fe gewch edrych fel eich
ffrindiau, fel pawb arall, fel un, ond go brin gewch fod yn ‘unigolyn’. Tyfais
i fyny dan ddylanwad cynllunwyr dillad fel Vivienne Westwood, lle roedd y
pwyslais bob amser a’r unigrywiaeth a mynegi safbwynt gwleidyddol drwy eich
gwisg.
Un o ddyfyniadau Westwood yw “Credaf fod gwisg, steil gwallt a cholur yn ffactorau hanfodol wrth
gyfleu eich gweddau allanol”, sydd bron yn ategu hysbyseb G.O Griffiths yn
uniongyrchol. Mae’r pethau yma yn bwysig. Ond mae is-bennawd i hysbyseb G.O
Griffith sydd yn datblygu’r stori ymhellach.
Wrth ymhelaethu awgrymir fod angen i’ch gwisg gyfleu y
gwir (yn erbyn y Byd), fod angen i’r stori fod yn gywir ac yn gyflawn. Fedra’i
ddim dychmygu hysbysebion fel hyn heddiw rhywsut? Efallai fy mod yn anghywir,
ond wrth ryfeddu a chraffu ar yr hysbys, cefais fy hudo yn llwyr a hiraethais
bron na fyddwn wedi cael mynychu siop o’r fath ym 1935.
Y gobaith gorau – heddiw, yw’r siopau dillad ail-law, neu
yn fwy manwl, dillad o dras (vintage), a does dim rhaid crwydro’n rhy
bell yma yng ngogledd Cymru. Cefais hyd i siaced frethyn Harris Tweed hyfryd yn ddiweddar yn Harley’s Vintage, Llangollen, siop
sydd yn cael ei redeg gan fam a merch, y ddwy yn gallu siarad Cymraeg a’r ddwy
yn cymeryd gofal o’u cwsmeriad.
Cofiwch, fe awgrymodd un ohonnynt fy mod yn edrych fel
Richard Gere yn y siaced frethyn (sydd ddim yn swnio fel Mr Mwyn o gwbl!!!) ond
oleiaf roedd gwen ar fy ngwyneb wrth brynu. Dyna sut mae gwerthu !!
Hysbyseb arall oedd yn perthyn i oes o’r blaen oedd un ‘Brown’s Cycle Stores’, a oedd wedi eu
lleoli ar Stryd Llyn, Caernarvon (eto with a V), ac unwaith eto dyma ein hudo
gan ddelweddau o ffyrdd bach y wlad, tyfiant a gwyrddni ym mhob man a llai o
lawer o geir ar ein ffyrdd. Son am godi awydd i fynd ar gefn beic.
Does fawr o bleser reidio beic ar y priffyrdd bellach.
Mae’r ceir yn gor-yrru ac yn gwybio heibio yn llawer rhy agos. Os byddaf yn mentro
ar fy meic y dyddiau yma rwyf yn aros (yn hollol gaeth ac yn fwriadol felly) ar
Lôn Eifion i ffwrdd o unrhyw gerbyd a ‘boy-racer’.
Ond, roedd siop Brown’s yn cynnig pebyll, offer
gwersylla, manion ar gyfer ceir a hefyd beiciau-modur ail law – dyna sydd ei
angen meddyliais. Antur yn crwydro cefn gwlad Cymru – beic neu feic modur a
mynd ar grwydr i ddarganfod henebion Llyn ac Eifionydd, i ffwrdd o swn y byd, i
ffwrdd o’r traffig.
Rhaid oedd gipolwg sydun ar y geiriadur (neu Google) i fy
atgoffa beth yn union oedd ‘Milliner’,
dydi’r gair yna ddim yn un or-gyfarwydd bellach. Rhywun sydd yn gwneud hetiau,
neu ‘hetiwr’, fydda milliner felly.
Er fod ambell ddyn sydd yn moeli yn gwisgo het neu gap, a digonedd o bobl ifanc
hefo cap pel fas / hip-hop dwi’n amau yn fawr iawn os oes fawr o ofal wedi
mynd mewn i’r dewis go iawn.
Os di’r cap yn ffitio a ddim yn edrych yn rhy wirion fe
wneith y tro. Does fawr o ddynion yn y Gymru Cymraeg yn gwisgo het go iawn y
dyddiau yma. Wedi diflannu i raddau helaeth mae’r arferiad o wisgo het gan
ferched hefyd. Cofiaf fy nain a fy hen fodryb gyda hetiau ar gyfer y capel neu ar
gyfer pan fyddai pawb yn mynd allan am dro yn y car, ond dydi’r arferiad yma
ddim wedi parhau gyda’r genhedlaeth ifanc.
Eto, fe welir ambell i het mewn siopa dillad o dras
fyddai’n ddim llai na ‘trendi’ heddiw petae’r unigolyn iawn yn eu gwisgo –
rhaid wrth agwedd a chyfuniad addas o weddill eich gwisg – ond fe all hen het
nain fod yn uber-cwl.
Cwmni ‘Marie Et Cie’ o Landudno sydd yn hysbysebu eu
hetiau, a hynny fel gwneuthurwyr hetiau neilltuol. Rydych yn talu am rhywbeth
unigryw. Wrth reswm mae’r llun mewn du a gwyn, 1935 yw’r flwyddyn wedi’r cwbl,
ond petawn yn lansio rhywbeth tebyg heddiw byddwn yn cadw at y naws du a gwyn.
Mae’r hudoliaeth a’r glamor yn neidio i fyny ar y Raddfa Richter yn sylweddol drwy fod
mewn du a gwyn. Dyma hudoliaeth Hollywood gynt, mae’r lluniau o hyd yn well
mewn du a gwyn – gallwch chi hefyd edrych fel Garbo, Crawford a Deitrich.
Pwy fydda’n dychmygu fod Rhaglen Eisteddfod 1935 wedi
darllen fel tudalennau Vogue? Pwy fydda’n dychmygu fod hen raglen Eisteddfod yn
gwneud darllen mor hudolus? Dyna’r wers
mae’n debyg – gwisgwch a mwynhewch – ond gwnewch ddatganiad yr un pryd !!!!
No comments:
Post a Comment