Mae dau flwch amddiffyn (pillbox) yn perthyn i’r Ail Ryfel Byd ar draeth Dinas Dinlle ger Caernarfon. Mae un ohonnynt, a ddisgrifir fel ‘blwch-gwylan’ (seagull trench) wedi ei restru gan Cadw fel heneb rhestredig. Mae’r llall, y blwch sgwar, sef yr un ar ymyl y traeth a thu cefn i’r siop sglodion, heb ei warchod.
Wrth ymweld a Dinas Dinlle yn ddiweddar cefais gryn
syndod o weld fod llwyfan-picnic pren (decking) wedi ei adeiladu ar ben, neu ar
do, y blwch amddiffyn yma sydd heb ei restru. Fy ymateb cyntaf oedd fod hyn yn
dangos amharch pur i heneb archaeolegol / hanesyddol sydd yn perthyn i’r cyfnod
1940/41. Ond, wrth drafod a archaeolegwyr eraill, y farn gyffredinol oedd,
oleiaf bydd llai o siawns nawr y bydd y blwch amddiffyn penodol yma yn cael ei
chwalu gan berchennog neu ddatblygwr di-feddwl.
Diflanu yn ddiweddar wnaeth y twr-gwylio o’r Ail Ryfel Byd ym Maes Awyr Caernarfon wrth
i’r maes awyr ehangu a datblygu. Heb os mae’r caffi newydd yno yn le braf a’r
cyfleusterau yn gweddu i’r 21ain ganrif, ond roedd rhyw dristwch o weld fod yr
hen adeilad wedi ei ddymchwel. Darn bach arall o hanes wedi diflannu am byth –
yn enw datblygiad.
Roedd amddiffynfeydd milwrol gogledd Cymru yn rhan o
Llinell Amddiffyn 23 a codwyd y blychau amddiffyn a’r blociau gwrth-danciau
rhwng 1940 a 1941 yn dilyn cwymp Norwy i’r Naziaid. Yr ofn oedd, y byddai’r
Almaenwyr yn ymosod drwy’r ‘drws cefn’, gan ddefnyddio’r Iwerddon niwtral a dyna’r
rheswm am yr amddiffynfeydd milwrol a welir yr holl ffordd o Borth y Gest, drwy
Nant Gwynant, dros Ben y Gwryd ac i lawr wedyn drwy Nant Ffrancon.
Gan fod y blwch-gwylan yn Ninas Dinlle mor eithriadol,
gyda’i frics coch a siap ‘w’ – sef y wylan a’i adenydd, does syndod fod hwn yn
safle rhestredig hynafol ond mae’n ddirgelwch pur i mi pam nad yw’r ail flwch
amddiffyn wedi ei restru? Rwyf wedi crybwyll y peth hefo Cadw ond mae angen codi’r
mater ymhellach hefyd gyda Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd hefyd.
Stori wahanol yw hi gyda’r pedwar blwch amddiffyn ym Mhen
y Gwryd a’r ddau flwch yn Nant Ffrancon – mae rhain wedu eu rhestru sydd oleiaf
yn cynnig rhyw fath o warchodaeth yn erbyn fandaliaeth.
Bu’m yn edrych ar y blychau amddiffyn ym Mhen y Gwryd yn
ddiweddar gyda disgyblion ysgol o ardal Bae Colwyn oedd gyda anghenion arbenig
fel rhan o brosiect lle roedd rhaid i’r bobl ifanc wneud ffilm ar yr henebion.
Y wers mewn ffordd oedd cael y disgyblion i edrych ar y dirwedd ac i werthfawrogi
pwysigrwydd y dyffrynnoedd a’r bylchau drwy Eryri.
Roedd mor amlwg wrth edrych i gyfeiriad y dwyrain o Ben y
Gwryd, sef ar hyd Ddyffryn Mymbyr, mai dyma’r ffordd drwy Eryri am Loegr. Wrth
edrych i’r de-orllewin roedd rhywun yn wynebu Nant Gwynant a’r ffordd am
lan-y-mor. Does ryfedd felly fod pedwar blwch amddiffyn yma, un ar gyfer pob ffordd,
ac un ychwanegol yn wynebu’r dwyrain, yn gwylio pob cyfeiriad posib. Does
syndod chwaith fod caeran fechan Rufeinig yma – eto ar y ‘gyffordd’ rhwng y
bylchau – ac yn rheoli’r ffodd am Fwlch y Gwyddel wedyn am Segontium, sef y
gaer Rufeinig yng Nghaernarfon.
Does dim angen i mi ddadlau fod y ‘darlun llawn’ yn
bwysig os am ddehongi a deall y dirwedd rydym mor ffodus i’w ‘fenthyg’ a’i
fwynhau yn ystod ein cyfnod yma ar y ddaear. Drwy werthfawriogi’r Rhufeiniaid a
Llinell Amddiffyn 23 rydym yn dod i werthfawrogi pwysigrwydd Pen y Gwryd heddiw
fel cyffordd holl bwysig drwy Eryri.
Hyd yn oed yng nghyd destyn blwch amddiffyn bach digon
di-nod yn Ninas Dinlle. Rydym angen dangos ychydig fwy o barch!
No comments:
Post a Comment