Wednesday, 13 April 2016

Cyn-Raffaeliad v Cafe Tabac Herald Gymraeg 13 Ebrill 2016





Yn Oriel Gelf Walker, Lerpwl tan y 5ed o Fehefin mae’r arddangosfa ‘Pre-Raphaelites, Beauty and Rebellion’,  a hynny mae’n debyg oedd yr ‘esgus’ angenrheidiol i dreulio ychydig o ddyddiau yn Lerpwl dros y Pasg. Fel byddai rhywun yn disgwyl gyda unrhyw arddangosfa Cyn-Raffaelaidd, roedd yr oriel yn brysur.
Byddai gweithiau fel ‘The Blessed Damozel’  gan Rossetti neu ‘The Beguiling of Merlin’  gan Burne-Jones yn gyfarwydd iawn i fynychwyr selog oriel gelf Lady Lever ond mwynheais yn fawr iawn y cyfle i gael gwerthfawrogi ‘The Eve of St Agnes’ gan John Everett Millias o gasgliad Brenhinol Elizabeth II. Go brin bydd yr hen Liz yn sylweddoli fod y llun ar fenthyg ond dyma chi bortread bendigedig o wraig Millias yn chwarae rhan Santes Agnes.


John Everett Millais The Eve of St Agnes, (1863)



Cymerodd Millias dair noson i beintio’r llun yng ngolau’r lleuad er mwyn ‘dal ysbryd’ stori Agnes yn breuddwydio am ei darpar ŵr a does dim modd osgoi’r naws arall-fydol a’r goleuo trawiadol a greir gan olau’r lleuad. Mae’n werth mynd draw i’r Walker i weld hwn yn unig!
Agwedd arall ddiddorol i’r arddangosfa oedd y pwyslais ar ddylanwad y Cyn-Raffaeliaid ar ddinas Lerpwl a felly roedd lluniau gan yr arlunydd Arthur Hughes yn cael eu dyledus barch fel arlunydd o’r ddinas ddaeth dan ddylanwad arddull y Frawdolaeth. Rwyf yn dal i chwilio am unrhyw arlunydd Cymreig oedd wedi ei ddylanwadu gan y Cyn-Raffaeliaid?

A gan fy mod yn Lerpwl, dim ond hanner esgus oedd ei angen i biciad draw i Café Tabac ar ben ddeheuol Stryd Bold ger cragen hen eglwys Sant Luc. Bu eglwys Sant Luc yn ddi-do ers 1941 ond erys yr adfail ar gornel Stryd Berry fel un o dir-nodweddion amlycaf Lerpwl.
Ar ddechrau’r 1990au roeddwn yn ymwelydd cyson a Chafé Tabac. Dyma lle byddwn yn cyfarfod yr actores Margi Clarke (Letter to Breshnev / Coronation Street) a’r phartnar ar y pryd Jamie Reid (Sex Pistols) wrth i ni gynllwynio sut i gryfhau’r cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a Lerpwl. Y drefn oedd, cyfarfod yn Café Tabac tua’r 11 o’r gloch ac aros yno tan ganol pnawn hefo un pot o de ar ôl y llall.

Rhyfedd, ond yn ddiweddar cefais ebost gan cyn-ddisgybl o Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, sydd bellach yn entrepreneur lwyddianus iawn yng Nghaerdydd, yn son sut bu gweithdy  yn yr ysgol hefo Margi Clarke yn ysbrydoliaeth mawr iddo! A nid y tri ohonnom oedd yr unig rai oedd yn cynllwynio. Yn aml iawn ar y bwrdd drws nesa byddai aelodau o grwp The Farm yn cyfarfod a’u rheolwr. Suggs (canwr y grwp Madness).

Roeddwn (a rwyf) wrth fy modd yn eistedd mewn caffi yn cynllwynio. Roedd y traddodiad llawer cryfach rhywsut yn ninas Lerpwl nac yr oedd adre yng ngogledd Cymru. Wrth hel atgofion dros bot o de a chacan foron yn Café Tabac, cofiais fy mod angen darllen nofel ddiweddaraf Llwyd Owen ‘Taffia’ ar gyfer BBC Radio Cymru a dyma ymgolli’n llwyr am yr awr nesa ym myd cythryblus Danny, arwr diweddaraf Llwyd Owen.

Mor effeithiol yw sgwennu Llwyd nes fod awr wedi gwibio heibio heb i mi sylweddoli, roedd y te wedi oeri a’r gacan wedi dechrau magu crachen oherwydd y pelydryn haul oedd wedi ei ffocysu ar fy mhlat drwy ffenestr. Dim ond clywed ‘Killing Moon’ gan Echo and the Bunnymen a ‘Love Will tear Us Apart’ ar y jukebox a’m deffrodd o’m dwys-ddarllen.

A dyma ni yn cynllwynio eto (o fath). 

Pam o pam nad ydym yn clywed Y Cyrff, Gwefrau, Gwenno, Tynal Tywyll, Y Ffug neu Colorama yn y caffis yng Nghymru? Mae modd (ac angen) i’n hunaniaeth ni fod yn un sydd ddim yn ganol y ffordd!


Edward Burne-Jones The Beguiling of Merlin, (1833-88)



Dante Gabriel Rossetti The Blessed Damozel,  (1875-9)

No comments:

Post a Comment