Mae’n anorfod ar ôl yr holl flynyddoedd o sgwennu colofn
ar gyfer yr Herald Gymraeg fod rhwyun yn mynd i ail-adrodd yr un neges o bryd
i’w gilydd ond tydi hyn ddim o reidrwydd yn beth drwg. Felly os bu i mi ganmol
myfyrwyr celf Coleg Menai yn y golofn hon yn y gorffennol, maddeuwch os y gwnaf
yr un peth yr wythnos hon. Cofiwch mi fydd y myfyrwyr celf yn rhai gwahanol!
Yn oriel gelf Galeri, Caernarfon, ar hyn o bryd mae
gwaith gan fyfyrwyr ail flwyddyn Coleg Menai. Y myfyrwyr yw, Hanna Greenhalgh,
Elen Morris, Julie Lewis-Williams, Heather Hudson, Daniel Pritchard, Derri
Sinclair, Rhona Bowey Brito a Michael Roberts. Yr arddangosfa yw ‘Rhwng’. Y
neges – ewch draw i weld y gwaith.
Fel y disgwyl, mae yna waith celf heriol, lliwgar, gref, cysyniadol
ar ddangos ar furiau Galeri. Mewn un ystyr (ystradebol), dyma’r dyfodol, ond
dyna’r ffaith, talent ifanc, dyfodol disglair, dyfodol celf Cymreig. Mae sawl
darn cryf iawn yma ond roedd un yn arbenig yn hawlio fy sylw, yn bennaf
oherwydd fod y darn yn cynnwys blwch ffôn K6 o gynllun Giles Gilbert Scott
(pensaer pwerdy Battersea a Chadeirlan Anglicanaidd Lerpwl).
‘Obsesiwn’ yw’r gair sydd mwyaf addas i ddisgrifio fy
niddordeb mewn blychau ffôn K6, ond mae nhw’n hyfryd bethau ac amhosib yw gyrru
heibio blychau o’r fath yng nghefn gwlad Cymru heb fachu ar y cyfle am lun bach
sydun ar gyfer Facebook. Ta waeth, yr artist
Julie Lewis-Williams sydd wedi edrych ar hanes yr hen Gaernarfon gan
gyfeirio yn ôl at buteiniaid Stryd 4 a 6 a gweu hyn i mewn i ffotograffau
newydd wedi eu tynnu o fewn muriau’r dre.
Cyfres o luniau o ‘buteiniaid’ (ddim rhai go iawn) sydd
gan Julie, ond petae rhywun ddim yn gwybod yn well – mae golwg ‘real’ iawn ar
yr holl beth. Chwareus yn sicr. Ffordd arall o gyflwyno hanes yn sicr.
Hefo Helen Jones, Coleg Menai.
Beth am adael Caernarfon a throi hi tuag at Gaerdydd.
Artist arall rwyf yn ‘ffan’ mawr ohonni yw Ani Saunders. Eto, maddeuwch am yr
ail adrodd, ond mae lluniau Ani ar safle we Cardiff To The See, gweler:
cardifftothesee.com yn fendigedig ac yn
hyfryd. Yn ei chasgliad diweddaraf (Mawrth 2016) mae llun gan Ani o Kevs Ford,
aelod o’r grwp Llwybr Llaethog, ond yr oll yw’r llun yw wyneb Kevs tu cefn i
ffram wag.
Gyda’i wallt yn wyn ac yn sticio fyny fel petae trydan
newydd ei chwistrellu drwy ei gorff, mae portread Kevs yn awgrymu beth fydda
wedi gallu digwydd petae R.S Thomas wedi chwarae rhan Dr Who ar y sgrin fach.
Fe all Kevs fod yn unrhywun mae Ani wedi ei ddarganfod ar strydoedd Grangetown
ond, rydym yn gwybod pwy ydi’o. Dyma chi aelod o un o’r grwpiau pop mwyaf
arloesol welodd y byd Cymraeg erioed. Dyma chi rhywun fydda wedi gallu rhoi y
ffidl yn y tô flynyddoedd yn ôl ond sydd yn dal i greu a chynyrchu cerddoriaeth
wych er gwaethaf pob ffad a ffasiwn.
https://cardifftothesee.com/
https://cardifftothesee.com/
Nid canmol Ani yw fy mwriad go iawn ond cydnabod yr hyn
mae hi wedi bod yn ei ddweud yn ddiweddar ac os bu chi ei chlywed ar Taro’r
Post, BBC Radio Cymru, fe wyddoch fod Ani wedi gofyn pam nad oes Amgueddfa Gelf
Gyfoes yng Nghymru? Ei dadl yw fod angen ychwanegu at yr holl blatfformau ar gyfer celf gyfoes – fod angen
ychwanegu un llwyfan arall – yr un Cenedlaethol all uno pawb
Cyn gorffen hefo Ani, dyma dynu eich sylw at y ffaith mae
hi sydd yn gyfrifol am gynllun clawr CD diweddaraf yn grwp Brigyn, sef y CD
‘Dulog’.
Ac i gloi y ddadl am yr wythnos hon, rwyf yn dychwelyd at
dirwedd cyfarwydd. Rwyf yn ôl yn awgrymu fod rhaid i ni fuddsoddi yn y talentau
ifanc sydd yma yng Nghymru. Efallai fod artistiaid mor amryddawn ac Ani yn
dechrau creu argraff heb unrhyw fuddsoddiad allanol a does ond un cyfeiriad all
Ani fynd – a mae hwnnw yn arwain tuag at lwyddiant. Felly hefyd gyda’r artist
ifanc Meirion Ginsberg, mae rhywun yn ymwybodol fod Meirion yn creu argraff.
Gyda myfyrwyr celf ail flwyddyn Coleg Menai, mae’n
ddyletswydd mewn ffordd fod unrhywun sydd yn ymwneud a’r diwydiannau creadigol
yng Nghymru yn mynychu’r sioe. Fe ddylia cynhyrchwyr teledu / ymchwilwyr ar
gyfer rhaglenni S4C fod yn galw heibio –
efallai fod yma rhywun all greu graffeg ar gyfer rhaglenni. Fe ddylia’r gweisg
Cymraeg / Cymreig fod yno – efallai fod yma syniadau am gloriau ar gyfer
llyfrau neu artist addas.
Yn ogystal a’r angen i’r diwydiannau creadigol yng
Nghymru diwnio mewn a buddsoddi mewn talent ifanc mae angen pobl hefo ‘chydig
bach gormod o bres’ i brynu’r gwaith. Dychmygwch yr hwb fydda artist ifanc yn
ei gael o wybod fod rhywun wedi prynu gwaith ganddynt. Efallai bydd yr ‘ychydig
bres’ yma yn help mawr iddynt gadw dau ben llinyn ynghyd yn y dyddiau cynnar
yma o fyw ar ffa pob ar dôst.
Dydi artistiaid celf, mwy na di grwpiau pop, ddim o
reidrwydd y rhai gorau am hyrwyddo. Y creu sydd yn bwysig iddynt. Mae’r
cyfathrebu bron yn eilradd. Os am ehangu’r dirwedd ddiwylliannol Gymraeg a
Chymreig mae angen dau beth. Mae angen mwy o weiddi – creu mwy o gynnwrf a sylw
a rhoi mwy o barch i bethau. Ac yn ail, mae angen buddsoddi – a mae hynny yn
golygu cefnogaeth, cyfleoedd ac yn ddelfrydol rhoi arian i mewn i economi’r
artistiaid ifanc Cymreig.
No comments:
Post a Comment