Yn ei lyfr
‘Yn Ei Elfen’ mae’r athro Bedwyr Lewis Jones yn rhoi tudalen a hanner gyfan i
drafod tarddiad, neu ystyr, Chwitffordd, sef y pentref rhwng Prestatyn a
Threffynnon (dyma’r pentref lle’r oedd
cartref yr enwog Thomas Pennant wrthgwrs). Mae’n debyg mai Chwitffordd sydd yn
gywir wedi’r cyfan yn y Gymraeg er i hyn ar un adeg arwain at gryn anghytuno.
Dadl Bedwyr oedd, fod unrhyw ymdrechion i Gymreigio yr enw ymhellach, sef
Rhydwen, yn anghywir gan fod y gair Normanaidd eisoes wedi ei Gymreigio i
Chwitffordd.
Fel rwyf wedi son wythnos yn ȏl yn
yr Herald, mae’r busnas enwau llefydd yma yn faes cymhleth iawn, ac yn un lle
mae hi mor hawdd gwneud cangymeriad, felly rwyf am aros yn y maes archaeolegol
am weddill y golofn. A throi felly at y faen hynod iawn honno sydd ger
Chwitffordd ac yn dwyn yr un enw ‘Maen Achwyfan’. Wrth ail ymweld ar faen yn
ddiweddar dyma ryfeddu eto at ei maint, pam mor drawiadol yw’r heneb yma.
Croes
Gristnogol yn dyddio o’r 10 – 11fed ganrif sydd yma, croes wedi ei gwneud o un
faen ac yn sefyll hyd at 3.4medr o uchder. Fel dywedais – trawiadol. Os yw ei
maint yn drawiadol, dydi hynny ddim yn ein paratoi am y cerfiadau clymog sydd
yn ymestyn dros ddwy ochr y goes. Er fod rhai o’r cerfiadau yma, ddigon
naturiol, wedi gwisgo ychydig drwy fod allan yn y tywydd dros y canrifoedd
mae’r patrymau clymog yn parhau yn amlwg.
Os
cewch yr haul yn y lle cywir, mae’r patrymau yn amlwg iawn a fedrith rhywun ond
ryfeddu at gelfyddyd yr holl beth. Ar ben y goes mae croes mewn cylch ac wrth
feddwl am faen 3.4medr o uchder, mae rhywun yn son am faen sydd bron ddwywaith
maint plentyn – yn sicr mae maint y groes yn gwneud ni deimlo ddigon bach
rhywsut wrth ei ymyl. Yng nghanol y groes mae chwydd gron a disgrifir breichiau’r
groes fel rhai yn lledu am allan.
Rhaid
cyfaddel nad hawdd yw gweld y ffigyrau o anifeiliad ar ochr y faen a’r dyn bach
ar yr ochr ddwyreiniol ond hyd yn oed os yw’r manylder yn anoddach i’w
ddehongli mae rhywun yn dal i gael argraff dda o gelfyddyd yr holl beth yn
ystod ymweliad. Efallai fod y faen yma yn coffau unigolyn neu hyd yn oed
digwyddiad arbennig ac awgrymir fod arddull y cerfiadau yn awgrym o ddylanwad
Llychlynaidd.
Credir
hefyd fod y faen yn sefyll yn ei fan gwreiddiol er fod hyn gryn belter o’r
eglwys gyda’r posibilrwydd fod Maen Achwyfan ger hen lwybr sydd bellach wedi
diflanu. Heddiw y llyfr hanfodol ar gerrig cerfiedig yw un Nancy Edwards A Corpus of Early Medieval
Inscribed Stones and Stone Sculpture in Wales Volume, III, North Wales.
’Chydig
iawn o dystiolaeth pendant sydd yna fod y Llychlynwyr wedi ymgartrefu yma yng
Nghymru. Gall fod Castell, Porth Trefadog ar Fȏn yn safle Llychlynaidd neu yn
un sydd yn dangos cysylltiad rhwng Tywysogion Gwynedd a’r Llychlynwyr yn Nulyn
neu Manaw. Safle arall sydd o’r un cyfnod yw’r safle gaerog ar dir fferm y Glyn
ger Llanbedrgoch ond eto mae ansicrwydd os bu i’r Llychlynwyr ymgartrefu yma o
gwbl neu fod y dystiolaeth archaeolegol yn dangos cysylltiad masnachol ar hyd
yr arfordir rhwng y brodorion a’r Llychlynwyr.
Sgwn’i
felly os yw’r dylanwad Llychlynaidd ar Maen Achwyfan yn awgrymu fod Llychlynwyr
wedi byw yma ar un adeg? Er yn amlwg,
doedd dim rhaid iddynt fod wedi ymgartrefu yma yn Chwitffordd i wneud argraff
neu gadel eu hoel o ran dylanwad celfyddydol. Awgrymir efallai fod Llychlynwyr wedi ymgartrefu,
neu dreulio amser, ar lannau’r Dyfrdwy sydd yn ddigon agos i Chwitffordd ond yn
sicr mae agosatrwydd Chwitffordd at yr arfordir yn esbonio sut bu modd
trosgwlyddo a rhannu syniadau neu ddylanwadau. Gwelir maen tebyg ym Mhenmon,
Ynys Mon sydd unwaith eto yn dangos dylanwadau Llychlynaidd.
Fel
welwch’chi mor aml gyda archaeoleg, cawn fwy o gwestiynau na atebion ond dydi
hynny ddim am eiliad yn ymharu ar y pleser o ymweld a Maen Achwyfan. Rhaid
craffu yn fanwl os am gael hyd i’r ffigyrau wrth droed y golofn, yn enwedig y
dyn bach noeth gyda ei waywffon. Awgrymaf hefyd fod werth ymweld a Maen
Achwyfan mwy nac unwaith gan fod lleoliad yr haul mor bwysig os am geisio tynnu
llunniau effeithiol a boddhaol o’r cerfiadau.
Digon anodd hefyd yw cael lle i barcio’r car
gan fod yma gyffordd a ffordd ddigon cyflym. Rhaid gadael y car ar y tro
gyferbyn a’r giat mochyn sydd yn arwain at yr heneb a rhaid cyfaddef teimlais
fod gyrrwyr ceir ddigon diamynedd wrth i mi geisio croesi’r ffordd. Rhaid
croesi rhan o’r cae wedyn at y groes, does dim llwybr pwrpasol ac awgrymaf fod
yn werth ystyried sgidiau addas neu sgidia cerdded os am ymweld amser yma’r
flwyddyn.
Ar
ddiwrnod ein hymwelaid ni, y penderfyniad oedd mynd am dro wedyn ar hyd draeth
Talacre er mwyn cael lluniau o’r hen oleudu felly yn wahanol i’r arfer ches i
ddim cyfle i ymweld ar caffi agosa am banad. Bydd rhaid gwneud hynny tro nes –
efallai mynd draw am Dreffynnon neu hyd yn oed drosodd i Gaerwys – dwi’n siwr
bod yna gaffi bach da yn yr aradl werth ei ddarganfod.
No comments:
Post a Comment