Dyma ddod ar
draws eitem newyddion ar wefan y BBC yn dyddio yn ȏl i fis Mai 2008. Dwi ddim
yn cofio i mi sylwi ar y pryd, ond yr hyn oedd dan sylw oedd pwysigrwydd
pensaerniol adeilad Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug a fod y Cynghorydd
Armstrong-Braun o Saltney Ferry wedi galw ar i Cadw ystyried rhestru’r adeilad.
Beth ddigwyddodd sgwn’i?
Byddaf yn mynd heibio’r adeilad
hynod yma bob pnawn Dydd Mercher ar fy ffordd i Tŷ Pendre i gynnal gwersi
Cymraeg i Oedolion. Wrth gyrraedd cyrion yr Wyddgrug a mynd heibio’r arwyddion
am y Ganolfan Ddinesig, mae fframiau’r ffenestr concrit llwyd a’r adeilad anferth concrît llwyd a du i’w weld drwy’r
coed. Mae’n atgoffa rhywun o’r hen adeiladau Stalinaidd o Ddwyrain Ewrop.
Y pensaer oedd Robert Harvey, ef
oedd pensaer y Sir, a mae’r rhan gyntaf o’r adeilad yn perthyn i’r cyfnod hwnnw
rhwng 1966-68. Fe agorwyd y neuadd gan y Dywysoges Margaret ym mis Mai 1968. Yr
hyn sydd efallai fwyaf diddorol am y concrît yw fod hwn yn goncrît a oedd wedi
ei baratoi yn barod felly roedd modd cludo darnau i’r safle yn barod i’w codi.
O ran delwedd, mae’r adeiladwaith yn
cynnig cysondeb a mae hynny yn amlwg iawn wrth gerdded o amgylch yr adeilad.
Mae’r ffenestri yr un siap a’r un maint. Yr unig amrywiaeth mewn ffodd yw
uchder y gwahanol adeiladau, rhai yn saith llawr a’r estyniad diweddarach yn
dri llawr.
Robert Harvey sydd hefyd yn gyfrifol
am gynllunio Theatr Clwyd (1973-76) ar Llŷs Barn (1967-69). Mae brics coch
Theatr Clwyd yn llai ‘brwnt’ o ran yr arddull ‘brutalist’ ond yr un mor drawiadol ar y
dirwedd. Os am fynd am dro, cymerwch gyfle i gael panad neu ginio yng nghaffi
hyfryd Theatr Clwyd.
Fel soniais yn ddiweddar, rwyf yn
dechrau cysylltu a dilynwyr pensaerniaeth brwnt (Brutalist) ar y we ar safle mwyaf
amlwg i weld lluniau o bob math o adeiladau concrît yw @BrutalHouse ar Trydar.
Ceir nifer o luniau gan @BrutalHouse yn ddyddiol, y rhan fwyaf yn ne ddwyrain
Lloegr a threfi amlwg fel Croydon a rhai o’r stadau tai cyngor mawr yn ne
Llundain.
Eto wrth chwilio ar y we dyma ddod
ar draws dogfen yn dyddio o 1971 gan CLAW (Consortium-Local Authorities –Wales)
o cyfarfod a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir, (Sir Fflint) yn yr Wyddgrug. Mae’n
gwneud darllen diddorol a hefyd mae lluniau o adeiladau eraill a gynlluniwyd
gan Robert Harvey, yn eu plith. Llyfrgelloedd Prestatyn a Llanelwy ac ysgolion
Bodfari, Bryn Gwalia ac Ysgol Gyfyn Fflint. Un o’r pethau mae rhywun yn sylwi
arno yn syth yw cyn llied o geir sydd o flaen Neuadd y Sir ym 1971 o gymharu a
heddiw lle mae’r maes parcio yn orlawn.
Ers dechrau rhoi lluniau o waith
Robert Harvey i fyny ar trydar mae rhywun arall wedi cysylltu gyda lluniau o
waith Eero
Saarinen, sef adeilad Llys Genhadaeth yr Unol Daliethau yn Sgwar Grosvenor,
Llundain. Mae’r tebygrwydd rhwng y ddau adeilad yn syfrdanol. Disgrifir gwaith Saarinen
fel ‘neofuturistic’, ac yn ogystal ac
adeiladau roedd Saarinen hefyd yn gyfrifol am gynllunio cadeiriau. Un o’i
ddyfyniadau enwog oedd “The purpose of
architecture is to shelter and enhance man’s life on earth and to fulfill his
belief in the nobility of his existence,”.
Wrth deithio adre o’r Wyddgrug, cyd
ddigwyddiad od oedd clywed sgwrs gyda’r awdur a’r seico-ddaearyddwr Iain
Sinclair ar BBC Radio 4 ac yntau yn son am y gwaharddiadau sydd mewn grym bellach
o ran tynnu lluniau mewn mannau cyhoeddus (fel yr archfarchnadoedd) oedd yn
eitha brawychus o ystyried sut treulias yr awr ddwetha.
No comments:
Post a Comment