Mae gwaith da
yn y maes archaeoleg yn cael ei wneud gan Bill Jones a Chymdeithas Hanes
Dolwyddelan, dros y blynyddoedd mae’r criw wedi cloddio rhan helaeth o hen
gartref Maredydd ab Ieuan yng Nghwm Penamnen, mae gwaith ymchwil wedi ei wneud
ar safle Bryn y Bedd a mae gwaith pellach ar fin cychwyn i glirio Ffynnon Elen
yn y pentref. Dyma chi archaeoleg cymunedol ar ei orau – gan y gymuned ar gyfer
y gymuned.
Gwaith
‘archaeoleg diwydiannol’ sydd newydd ddod i ben yn hen Chwarel Penrhiw, yn
uchel ar lethrau Moel Siabod (SH 72255405) a diddorol nodi yr amrywiaeth enwau oedd ar y
chwarel dros y blynyddoedd. Dyma nhw : Chwarel Hones, Hone Quarry, The Hone, Moel Siabott Quarry.
Afon y Foel Quarry, Llwyn Graienig Hone Quarry, Penrhiw Quarry.
‘Hone’ yw’r
garreg oedd yn cael ei ddefnyddio i hogi cyllill ac yn y blaen, mae’n garreg
werdd iawn a chaled iawn a mae haenau i’w cael o amgylch Eryri er engraifft yn
ardal Pen-y-Gwryd a Dolwyddelan / Moel Siabod. Disgrifir y garreg fel hornblende gan ddaearegwyr.
Er ein bod yn
cyfeirio at Chwarel Penrhiw, mae’r gwaith cloddio archaeolegol mewn gwirionedd wedi
digwydd yn adeilad y felin (SH 72455425) ar
dir Bwlch Cynnud, ac ers y 50au mae’r Comisiwn Coedwigaeth wedi bod yn tyfu
coed yma sydd wedi cadw’r felin yn fan cudd i bob pwrpas. Adfail yw’r felin
bellach, ond wrth gloddio cafwyd hyd i olion pwysig iawn o dan y llechi to a’r
waliau oedd wedi disgyn.
Yn sicr mae’r
goedwigaeth wedi dinistrio rhan o’r hen lein tram o’r chwarel (sydd yn gorwedd
dipyn pellach i’r gorllewin ar hyd lethrau Moel Siabod) ond gyda llygaid craff
mae modd dilyn rhan o’r lein o’r chwarel i’r felin ac wrth gloddio cafwyd hyd
i’r cledrau yn arwain i mewn i’r felin ei hyn. Yr her arall yn adeilad y felin
oedd gweithio o amgylch y coed oedd bellach wedi tyfu oddi fewn i’r adeilad.
Hanes y Chwarel.
Mae’n debyg
mae gweithio yma yn achlysurol yw hanes y chwarel, i ddiwallu’r angen am gerrig
hogi pan fu galw amdanynt a chawn gofnodion cyfrifon Stad Gwydir yn dangos fod
gwaith yma o 1845 hyd at 1869 a wedyn cyfnod pellach o ddefnydd rhwng 1897 a
1920. Mae’n debyg fod y chwarel wedi cau ym 1920.
Yr hyn sydd yn ddiddorol o’r cofnodion
yw nifer y gweithwyr, mae 5 o weithwyr yma er engraifft ym 1917, cynnydd
efallai ers y 2 oedd yn gyflogedig ym 1902. Manylion arall diddorol o’r
cofnodion yw pethau fel hyn, yng Ngorffennaf 1868, “standing, no water to work the machinery” a
wedyn Mis Tachwedd 1860 “very little
demand on hones”.
Mae’r
cofnodion yma yn rhoi cipolwg i ni o natur y gwaith yn y chwarel anghysbell hon
yn uchel ar lethrau Moel Siabod. Diddorol hefyd oedd cael archwilio chwarel
‘hone’ yn hytrcah na chwarel lechi, gan ychwanegu ychydig mwy at ein
dealltwriaeth o chwareli a diwydiant y bedrwedd ganrif ar bymtheg yn Eryri.
Y Gwaith Cloddio.
Yr hyn oedd
yn ofnadwy o ddiddorol am y gwaith cloddio oddi fewn i adeilad y felin yw ein
bod yn dod ar draws olion perianwaith, pethau oedd unwaith wedi gweithio, a’r
her fawr i ni fel archaeolegwyr oedd ceisio gweld sut roedd y peiriannau yma yn
arfer gweithio ac i drio deall arwyddocad yr hyn roeddem yn ei ddarganfod dan y
pridd.
Prif nodwedd
y felin oedd yr hwrdd neu’r ‘reciprocating saw’ sef y llif oedd yn
torri’r cerrig. Roedd y llif, gyda dros 10 llif unigol wedi ei osod ar ffram o
bren a wedyn yn cael ei siglo yn ol ac ymlaen gan olwyn ddwr. Byddai blociau o
garreg hone yn cael eu gosod ar y llawr torri a wedyn y llif yn yn cael ei godi
uwch y garreg wedyn ar gyfer eu torri yn flociau.
Defnyddiwyd
tywod i gynorthwyo’r gwaith llifio a cludwyd y tywod yn wreiddiol ar longau i
Drefriw cyn ei gario wedyn gyda ceffyl a throl i’r safle drwy Gapel Curig ac i
fyny’r mynydd. Roedd angen tywod oedd yn cynnwys callestr ar gyfer y broses
llifio a defnyddiwyd tunelli o dywod, yr holl dywod yma sydd wedi cadw gymaint
o olion yn gyfan ar y safle a dweud y gwir.
Fel sydd yn
arferol, dydi’r archaeoleg byth yn syml, a’r stori yma yn y felin yw defnydd
dros gyfnod hir o amser ac ar wahanol adegau felly mae pethau wedi cael eu
haddasu a’u newid ac hyd yn oed eu hatgyweirio dros y blynyddoedd. Roedd cyfnodau
segur yma rhwng cyfnodau o waith felly
roedd dadansoddi cymhlethtod yr archaeoleg yn ddipyn o her. Er dweud hyn roedd
yr her hefyd yn ein cyffroi ac yn ysbrydoli trafodaethau brwd.
Y tebygrwydd
yw, fod yma ddwy olwyn ddwr o gyfnodau gwahanol, yr un wreiddiol wedi ei osod
tu fewn i’r felin a wedyn un fwy wedi ei hychwanegu tu allan ar ochr
ddwyreiniol y felin. Yr olwyn ddwr olaf yma oedd yn troi yr hwrdd a dim ond drwy glirio’r tywod a
chanfod fframwaith yr hwrdd cafwyd
hyd i bydew yr olwyn ddwr gyntaf o dan llawr y felin.
O drafod
gyda’n gilydd ac o dreulio amser yn gweithio yma, roedd rhywun yn dechrau dod i
ddeall sut roedd yr hwrdd yn gweithio
ac yn dechrau adnabod gwahanol ddarnau o’r peirianwaith. Roedd y fframiau pren
ar darnau o lif haearn mewn cyflwr amrywiol, ar adegau wedi pydru a rhydu ac ar
adegau arall mewn cyflwr gymharol dda. Roedd digon ar ol i n i allu cofnodi sut
fath o beirianwaith fu yn gweithio yma.
Ychwanegwyd
ystafell fechan ar ochr orllewinol y felin, ac o bosib bu’r gweithwyr yn cysgu
yma (cafwyd hyd i ffram wely yn y pydew olwyn ddwr allanol) a roedd yn weddol
amlwg hefyd o faint y lle tan fod modd iddynt wneud ychydig o waith gofaint yn
yr ystafell yma, efallai i drwsio’r offer.
Y peth pwysig
gyda’r gwaith yma oedd tynnu llun a chofnodi popeth gan y bydd popeth wedyn yn
cael ei ail-gladdu ar ddiwedd y gwaith cloddio. Doedd dim modd er engraifft
cadw’r hwrdd yn y golwg a thrwy ei
ail-gladdu bydd popeth yma yn saff ar gyfer unrhyw waith pellach gan archaeolegwyr
yn y dyfodol.
Yn ddelfrydol
byddai’n ofnadwy o ddefnyddiol petae modd i ni gael golwg ar hwrdd sydd yn dal i weithio, hynny yw os
oes fath beth dal mewn bodolaeth, er mwyn cwblhau yr adroddiad ar y gwaith
cloddio.
No comments:
Post a Comment