Yn ei
gyflwyniad ardderchog i’r llyfr ‘Phoenix
at Coventry, The Building of a Cathedral by its Architect – Basil Spence’, mae
Esgob Coventry yn disgrifio’r pensaer Basil Spence fel y ganlyn: “Some may think that Basil Spence is a
revolutionary. In certain respects he is, but it is even more true to say that
he is an evolutionary – one who builds solidly upon past foundations’.
Mae campwaith
Spence, atomfa Trawsfynydd yn dal i sefyll ar hyn o bryd. Mae cynlluniau ar y
gweill i dirweddu’r safle gan golli’r ‘castell concrit’ unwaith ac am byth.
Stori arall yw honno, ac un lle yr hoffwn ysgrifennu pwt i’r papur hwn cyn bo
hir, ond yr wythnos hon rwyf am roi sylw i gymeriad unplyg a di-flewyn ar dafod
oedd yn deall fod rhaid wrth ddealltwriaeth o hanes Cymru a llen gwerin os am
symud pethau yn eu blaen.
Cymeriad o
blwyf Dolwyddelan, un o gyfoedion Gwilym Cowlyd a chyfranwr am bron i 50
mlynedd i gylchgrawn Y Faner (Baner ac Amserau Cymru) oedd Ellis Pierce, neu
Elis o’r Nant. A newydd ei gyhoeddi gan wasg Carreg Gwalch mae’r llyfr ‘Elis
o’r Nant, Cynrychiolydd y Werin’. Yr awdur yw Vivian Parry Williams, gwr sydd
wedi cymwynasu’r genedl yn barod drwy gyhoeddi hanes Penmachno ‘Plwyf
Penmachno’ (Carreg Gwalch 1996) a hanes yr adeiladydd a’r bardd Owen Gethin
Jones, ‘Owen Gethin Jones, Ei fywyd a’i feiau’, (Carreg Gwalch 2000).
Fel gyda
campwaith Angharad Price ‘Ffarwel i Frieburg’, mae’r llyfrau yma yn holl
bwysig, achos dyma gofnod, yn aml yr unig gofnod neu yr unig driniaeth neu
astudiaeth drylwyr, o rhai o fawrion y genedl – rhai yn fwy amlwg na’r lleill
ond pob un yr un mor bwysig ac yr un mor berthnasol i heddiw. Rwy’n defnyddio’r
gair “mawrion” i olygu pwysig yn hytrach nac enwog.
Gadewch i mi
ddyfynu Elis o’r Nant, “Y mae y Toryaid
bob amser yn ymddwyn tuag at gylchoedd isaf cymdeithas yn llawn mor amharchus
ac yr ymdygent tuag at eu cŵn’. Dyna chi felly, dim byd wedi newid, fe all
hwn fod yn rhywbeth o golofn Angharad Tomos yn trafod y bleidlais yn yr Alban
wythnos yn ȏl. Mae na rhyw gysur yndoes fod un o fy arwyr, un o selogion Arwest
Glan Geirionydd, yn troedio’r llwybr chwith. Arglwydd Penrhyn oedd un o’i
elynion mawr, (fe ddylia Lisa Jen a 9Bach sgwennu cân am Elis o’r Nant) ac
hawliau’r werin bobl oedd ei frwydr fawr.
Bu farw Elis
ym 1912 cyn y Rhyfel Mawr a chyn i’r Eglwys yng Nghymru ddadgysylltu o Eglwys
Lloegr ond yr anghyfiawnder mawr arall yma oedd hefyd yn boen i Elis, fod rhaid
i’r anghydffurfwyr dalu’r degwm. Yn ddiddorol iawn un o’r arweinwyr dros
ddadgysylltu yn yr 1860au oedd Thomas Gee (perchennog Y Faner).
Ond i
ddychweld at gymwynas fawr Vivian Parry Williams, drwy sgwennu am gymeriad
“llai amlwg” fel Elis o’r Nant, mae Vivian yn sicrhau fod darn arall pwysig o’r
jigsaw yn cael ei osod yn ei le – mae darn bach o hanes yn cael ei ychwanegu at
y cwilt Cymreig. Nid hanes Uchelwyr a Theulu Brenhinol yw Hanes Cymru “go iawn”,
mae gennym y werin bobl i gadw’n diddordeb, yn wahanol iawn i’r Saeson hefo’u
Harri VIII a William Goncwerwr, (ond i ni dderbyn fod tywysogion Gwynedd a
Glyndwr ȏll yn Uchelwyr).
Bywyd a brywdrau
un dyn bach o gefndir tlawd, sydd yn cael ei addysg bellach yn y chwarel, yw
stori Elis o’r Nant. Dyma gymeriad gallwn uniaethu ag ef, dyma gymeriad y
dylian ni uniaethu ag ef hyd yn oed heddiw, achos mae’r hanes yma yn dal yn
berthnasol, a hynny i Gymru gyfan - fel ysbrydoliaeth.
No comments:
Post a Comment