Dwi ddim yn
clywed pobl yn sȏn gymaint am hyn y dyddiau yma, sef ‘Saith Rhyfeddod Cymru’. Fe
gofiwch y gerdd efallai,
Pistyll Rhaeadr and Wrexham
steeple,
Snowdon's mountain without its
people,
Overton yew trees, St
Winefride's well,
Llangollen bridge and Gresford
bells.
Roeddwn ar
fy ffordd i Wrecsam i roi sgwrs i’r clwb cinio lleol, Meibion Maelor a dyma
benderfynu cychwyn ychydig cynt er mwyn cael gweld pethau ar hyd y ffordd. Rwyf
yn gyrru cyn belled a’r A550 a wedyn yn troi am Penarlâg. Wythnos ynghynt, drwy
wahoddiad gan Cerys Matthews, roeddwn wedi mynychu digwyddiad hyfryd o’r enw ‘The
Good Life Experience’ ar dir stad fferm Penarlâg.
Gwŷl newydd i ddathlu y bywyd awyr
agored oedd hwn, gyda Cerys yn curadu’r adloniant. Fel y disgwyl gyda Cerys,
cafwyd gwledd o adlonaint gwerin a cherddoriaeth byd a’r uchafbwynt i mi heb
os, oedd Cerys yn arwain sesiwn canu gan gyflwyno ‘Arglwydd Dyma Fi’, ‘Calon Lân’
a ‘Myfanwy’ i’r mwyafrif, ddywedwn i, oedd yn ddiethr i’r traddodiad gwerin
Cymreig. Fe gollias Georgia Ruth yn canu yn gynharach yn y prynhawn.
Ta waeth, wythnos yn ddiweddarach
dyma yrru drwy Penarlâg eto, heibio’r blwch ffȏn K6 (cynllun Giles Gilbert
Scott) a throi am bentref Ewloe gan yrru o dan bont goncrit brwnt yr A494. Wyddoch chi fod dilynwyr
pensaerniaeth allan yna sydd yn ymddiddori yn y gweithiau concrit ‘brutalist’
yma. I’r gogledd o’r A494 dyma ddilyn y B5125 i gyfeiriad Northop Hall.
Roedd arwyddion Castell Ewloe ddigon clir hyd yma a dyma
rybydd fod man parcio ger llaw. Ond dim golwg o arwydd i’r castell ger y maes
parcio. Dim ond arwydd llwybr troed i Barc Gwepra. Dyna od, dwi’n cymeryd fy
mod yn y lle cywir, dyma ail edrych ar y map O.S. Yn amlwg, a rhag fy
nghywilydd, dyma fy ymweliad cyntaf a Chastell Ewloe.
Doedd dim amdani ond mentro ar hyd y llwybr troed, ar
draws y cae, ac wrth gyrraedd y giat ar y pen arall dyma sylwi ar y graffiti,
arwyddbais tywysogion Gwynedd, ar y postyn giat, felly dyma gadarnhad fy mod ar
y llwybr cywir. Ond pam y diffyg amlwg o ran arwyddbost clir i’n cyfeirio at y
castell?
Y tebygrwydd yw, mai dyma un o gestyll Llywelyn ap
Gruffydd a adeiladwyd ym 1257 yng nghornel coedwig Ewloe. Felly dyma gastell Cymreig
gyda’r twr siap D nodweddiadol, fel sydd yn Carndochan, Criccieth, Dinas Bran a
Chastell y Bere. Er bod rhyw gyfeiriad hanesyddol fod hwn yn gastell a
adeiladwyd yn wreiddiol gan ei daid, Llywelyn ab Iorwerth, rydym yn weddol gytun
mae castell Llywelyn ap Gruffydd ywr hyn a welir heddiw.
A’i dyna pam mae’r arwyddion mor sâl, am fod hwn y
gastell Cymreig, a felly yn llai pwysig, o lai o ddiddordeb na chestyll Edward 1af?
Fel arfer rwyf yn wfftio’r fath syniadau, ond yma yn Ewloe, fedra’i ddim ond
teimlo’n flîn fod hwn yn gastell mor bwysig – sydd yn ddigon anodd i gael hyd iddo
– a finnau yn ddyn mapiau a wedi hen arfer croesi caeau.
Dyma fy ymweliad cyntaf a Chastell Ewloe. Mae’n hyfryd
yma yn y coed, a mae rhyw dawelwch cynnes yn croesawu rhywun. Dyma le i’r enaid
cael llondd, ond clywaf leisiau ar ben y tŵr. Dyma ddau hogyn ifanc, yn drwyn
dlysau a chlust dlysau i gyd, yn datŵs drostynt ac mewn gwisg ddu o gopawalltog
at draed. ‘Goths’, o fath, mae’n debyg, os oes rhaid rhoi disgrifiad o’r
ffasiwn. Ond oleiaf mae nhw yma, yn ymddiddori – wel, sgwrsio yn yr haul braf.
Efallai mae’r euogrwydd am fod yma am y tro cyntaf sydd
wedi fy nghynddeiriogi cymaint, ond diawch, mae angen gwell arwyddbyst ar gyfer
un o gestyll Llywelyn ap Gruffydd !
Ar fy ffordd yn ȏl am Benarlâg, rwyf yn troi i mewn i Lyfrgell
Gladstone. Mae ar gau felly bodlonaf ar dynnu llun cyn cychwyn yn fy mlaen ar
hyd y B5125 i bentref Brychtyn. Yma wrthgwrs mae cartref ‘Airbus’ y ffatri
awyrennau mawr. Does dim modd mynd dim pellach felly rwyf yn troi o amgylch yn
y maes parcio a dilyn fy nhrwyn draws gwlad am bentref Gresford sydd yn dyddio
yn ȏl fel pentref i gyfnod y Normaniaid.
Rwyf yn syllu ar dwr eglwys ‘All Saints’ ond does dim
clychau i’w gweld. Eto rwyf yn bodlnoi ar dynnu llun a sylweddoli fod rhaid
dechrau meddwl am ei throi hi am Wrecsam os rwyf am gyrraedd mewn da bryd ar
gyfer fy narlith. Yn adeg y llyfr ‘Domesday Book’ enw’r pentref oedd Gretford a
rhaid chwerthin fod y cyfieithiad Cymraeg o’r pymthegfed ganrif, sef Gresffordd
(o’r gair y groes ffordd) bellach yn cael ei ddiystyru cef cyfieithiad cywir.
Maer tŵr yr eglwys yn Wrecsam, sef Eglwys Sant Silyn, yn
un arall o’r saith rhyfeddod. Eto, cafwyd cyfle ychydig wythnosau yn ȏl i gael
dringo i ben y tŵr yng nghwmni tywysion Bathodyn Glas Cymru. Roedd dipyn o
waith dringo, heibio’r clychau, a heibio arwyddion y seiri maen a adeiladdodd yr
eglwys cyn dod allan ar y tȏ. A dyma gael gwerthfawrogi tirlun dinesig Wrecsam.
Rhyw fath o daith seico-ddaearyddol oedd hon, o amgylch y
gogledd-ddwyrain. Doedd hi ddim hyd yn oed yn daith mewn un diwrnod gan fod tri
achlysur gwahanol yn cael eu disgrifio yma ond fel cyfanwaith o archwilio a
dilyn fy nhtwyn dyma werthfawrogi’r rhan yma o’r byd.
Ar y Gororau, ar y ffîn ond yn rhan o Gymru.
No comments:
Post a Comment