Wednesday, 9 July 2014

Yr Artist a'r Gymraeg, Herald Gymraeg 9 Gorffennaf 2014.


 

Rhywbeth ddydwedodd yr artist Bedwyr Williams. 18 Mai 2014 ‘Sgwrs gyda Bedwyr Williams’ yn y Mostyn, Llandudno. Sgwrs drwy gyfrwng y Saesneg. Ystafell orlawn. Cafwyd bnawn Sul hynod ddiddorol yn gwrando ar Bedwyr Williams yn cael ei holi gan guradur y Mostyn wrth iddo son am y syniadau, syniadaeth a rhesymeg tu cefn i’w waith celf aml-gyfrwng, lliwgar, diddorol, doniol, heriol, cysyniadol a chymaint o bethau arall sydd yn nodweddiadol o waith Bedwyr.

            Rwyf wedi methu sgwennu am hyn tan heddiw. Fe ddywedodd Bedwyr rhywbeth yn ystod y darn olaf un pan roedd y gynulleidfa yn cael cyfle i ofyn cwestiynau. Wrth i rywun ei holi am greu drwy gyfrwng y Gymraeg (lle mae hynny yn bosib hefo gwaith gweledol) dyma oedd yr ateb a gafwyd. Rwyf yn cyfieithu ac yn dyfynu o’r hyn dwi’n gofio.

            “Mae’r Saesneg fel car Ferarri lle mae rhywun yn gallu gyrru, mae’r Gymraeg fel car o dras gyda rhywun yn y sedd ochr yn dweud wrthoch sut i yrru”. Fe’m lloriwyd. Doedd dim dwy waith ein bod wedi gwrando ar athrylith y prynhawn hwnnw, un o artistiaid blaenllaw yr Unfed ganrif ar hugain. Yn geg agored, edrychais o amgylch yr ystafell am Gymry Cymraeg arall – oedd rhain wedi clywed, a wedi deall, yr un peth a mi? Yn ol Peter Telfer o’r Wladfa Newydd oedd yn ffilmio’r sgwrs, roedd Bedwyr wedi dweud hyn o’r blaen.

            Nid dychmygu felly. Wrth droi i sgwrsio hefo’r lleiafrif o Gymry Cymraeg oedd wedi mynychu’r sgwrs y diwrnod hwnnw, roedd yn amlwg fod pawb wedi eu llorio gan y datganiad yma. Y cwestiwn sylfaenol felly, yw sut fath o gymdeithas Gymraeg rydym wedi ei greu lle mae artist fel Bedwyr Williams yn teimlo nad oes modd iddo greu drwy gyfrwng y Gymraeg?

            Dyna pam mae hyn wedi bod mor anodd i’w brosesu, a dyna pam, mis neu ddau yn ddiweddarach rwyf yn rhoi hyn mewn colofn. Os deallais yn iawn, os ydi hyn yn wir, mae’n gofyn cwestiwn sylfaenol iawn i ni y gymdeithas Gymraeg. O bell fordd, dyma oedd y peth mwyaf dadleuol ddywedodd Bedwyr drwy’r pnawn. Oedd, roedd ganddo ddatganiadau digon ‘radical’ am ei gelf, ond dim byd oedd yn ysgwyd ffydd rhywun yn ei ddawn fel artist.

            Ond, gyda’r awgrym olaf yma, nad oedd lle / modd / croeso iddo greu yn y Gymraeg, fel dywedais, os yw’r fath beth yn bosib hefo celf gweledol, neu yn angenrheidiol hyd yn oed, dyma wneud yn glir fod Bedwyr yn artist a gweledigaeth ryfeddol o ran creu celf ond nid chwyldroadwr mohonno. Derbyn y Byd fel y mae ond gwneud y lle yn fwy diddorol drwy greu. Os felly, bydd y genhedlaeth nesa yn gorfod brwydro yr un frwydr – bydd rhywun arall yn gorfod chwalu ffiniau a chwalu’r muriau – ac i beth – er mwyn cael mynegiant yn y Gymraeg?

            Rwyf yn derbyn yn llwyr, cant a cant a hynny yn hollol ddiffuant nad oes unrhyw reidrwydd ar Bedwyr na unrhyw artist gweledol arall i greu yn y Gymraeg. Gonestrwydd yw’r peth pwysig i’r artist a fe ddylid cadw at hynny. Ond, rydym hefyd, hyd yn oed heddiw yn 2014, yn byw mewn Byd lle mae’r gorwelion Cymraeg yn parhau i fod ychydig bach rhy agos atom, rhy gyfyng, rhy gul. Gallwn awgrymu ein bod yn parhau i fyw mewn cyfnod ol-Fethodistaidd, efallai fod y tafarndai ar agor ar y Sul ond mae ‘Sych ar y Sul’ yn parhau i fod yn stamp ar enaid y Cymry Cymraeg.

            A’i canlyniad uniongyrchol o amlygrwydd y plismyn Iaith yw hyn felly, a fel dwi wedi awgrymu sawl gwaith yn y golofn hon, rwyf yn cytuno hefyd cant y cant a gwella a chodi safon yr Iaith Gymraeg ond nid ar draul rhoi croeso i bawb i mewn i’r Byd Cymraeg – dyna pam mae cymaint ohonnom (gweler colofn Bethan Gwanas) yn treulio cymaint o’n hamser yn cynnal dosbarthiadau ar gyfer dysgwyr – dosbarthiadau archaeoleg ar gyfer dysgwyr yn fy achos i.

            Rhywbeth arall amlwg yn y drafodaeth ddiweddar, petae hynny am yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – “British” – fel mae rhai yn cyfeirio ato, neu fel mae eraill wedi beirniadu Cadw am fod yn gorff “Seisnig” (sydd yn eitha amhosib yn dechnegol gan mae Llywodraeth Cymru sydd yn ei arianu) – onid oes peryg yma ei bod yn haws cwyno na newid? Efallai mae sgil effaith y bwrlwm gwrthdystio dros yr Iaith o’r 60au ymlaen yw hyn wedi ei gyfuno a Methodistiaeth, mae’n haws cwyno o’r ochr na bod yn y canol yn newid pethau. Heb y gwrthdystio does dim pwrpas i’n bywydau?

            Does dim ateb gennyf, dim ond mwy o gwestiynau. A Bedwyr yn aelod o Orsedd y Beirdd, dyma oedd y peth mwyaf amlwg yn fy meddwl ar y Sul hwnnw – beth un union yw gwerth hynny os yw’r artist yn methu creu yn y Gymraeg?

 

 

No comments:

Post a Comment