Ganed John
Thomas Evans yn Waunfawr ym mis Ebrill 1770, wrth droed Moel Eilio ond doedd
dim arwydd o gwbl yn ystod ei ieuenctd cynnar mae hwn fydd y dyn fydd yn
ddiweddarach yn archwilio’r Unol Daliaethau gan chwilio am y brodorion oedd yn
siarad Cymraeg – llwyth y Mandan.
Efallai mae anturiaethwr neu fforiwr
yw’r disgrifiad gorau o Evans, rhyw fath o Ranulph Fiennes y ddeunawddfed
ganrif ond mae gan Evans well stori na Fiennes, a mae’r stori yn mynd yn ol i
Madog, un o feibion Owain Gwynedd. O ddiddordeb i ni yma yng Ngwynedd wrthgwrs
mae safle Tomen Castell, Dolwyddelan – fe all hwn fod yn fan geni i Madog a’i
nai Llywelyn ab Iorwerth hefyd – cyn i ab Iorwerth adeiladu y castell o gerrig,
Castell Dolwyddelan yn y 1220au.
Chwaraeodd
ein hen gyfaill Iolo Morganwg ran yn y stori hefyd, mae’n debyg mae Iolo sydd
yn perswadio John Evans i fynd drosodd i’r Unol Daliaethau – i ddarganfod y
Mandan Cymraeg. Er ei holl ddamcanaiethu a brwdfrydedd am yr antur dydi Iolo
ddim am deithio, mae’n aros adre a gadel i John Evans deithio ar ben ei hyn.
Dyma ddechrau felly ar anturiaethau
John Evans, mae’n cyrraedd Baltimore ym mis Hydref 1792 ac erbyn y Gwanwyn,
1793, mae wedi cyrraedd St Louis lle
mae’n treulio cyfnod yn y carchar gan i’r Sbaenwyr amau ei fod yn ysbiwr. Rhaid
bod ganddo berswad da, achos erbyn Ebrill 1795 mae Evans yn ymuno a’r Sbaenwyr
i ddilyn cwrs y Missouri ac i chwilio am ffordd dros y tir at y Mȏr Tawel. Hyd
at heddiw mae map Evans o’r Missouri yn cael cydnabyddiaeth fel yr un a
ddefnyddiwyd gan Lewis a Clark ar eu harchwyliad nhw ym 1840.
Bu farw Evans yn New Orleans ym
1799, ddaeth o ddim yn ol i Waunfawr. Dyna chi stori. Yn anffodus i Evans, Iolo
Morgannwg a ni yma yng Nghymru daethpwyd ddim o hyd i unrhyw frodorion yn
siarad Cymraeg. Fel Nessie, a hyd yn oed Teggie (bwystfil Llyn Tegid), UFO’s a
‘ley lines’ Alfred Watkins (The Old Straight Track) rydym isho credu, rydym yn
dal i gredu hyd yn oed yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth. Rydym yn credu achos
ei fod yn fwy o hwyl na peidio credu.
Penwythnos dwetha roedd y cerddor o
Fethesda, Gruff Rhys yn cyflwyno ei sioe ‘American Interior’ yng Nghwyl
Lenyddiaeth Dinefwr, sioe sydd yn cynnwys caneuon, sgwrs a lluniau yn seiliedig
ar daith John Evans i chwilio am y Mandan Cymraeg. Dyma brawf fod modd cyfuno
gwers hanes gyda cerddoriaeth pop – fedra’i ddim canmol digon ar y sioe – ac ar
y ffaith fod Gruff Rhys, fel y seren pop dylanwadol a’r Super Furry, yn rhoi
cyfle, drwy agor cil y drws i bobl ddarganfod mwy am Hanes Cymru. Yn enwedig y
storiau bach diddorol.
Gan fod cysylltiad a Iolo Morganwg,
mae hanes John Evans hefo’r un math o elfennau a storiau Dr William Price,
Llantrisant neu hyd yn oed Howard Marks. Cymeriadau Cymraeg / Cymreig sydd yn
sicr yn perthyn i le, dim ond o Gymru, ac yn llawn hiwmor a syniadau gwallgof
sydd ac apel. Rydym angen y cymeriadau yma, ac oherwydd hynny mae rhywun yn
maddau yn llwyr am y ffuglen hanesyddol, y chwedlau a’r myth – pa ots am
gywirdeb ffeithiol os yw’r stori mor dda a hyn !
Adolygais sioe Gruff Rhys ar gyfer
Blog link2wales a rhaid oedd cydnabod fod yma ‘artist cysyniadol’ yn ogystal a
cherddor. Fe’m hatgoffwyd o waith rhywun fel Bedwyr Williams yn hyn o beth –
mae’r syniadau a’r stori mor dda – awgrymais fod Gruff Rhys yn athrylith, yn
ddyn gyda gweledigaeth – diawch mi fydda gwersi hanes ddeg gwaith mwy diddorol
hefo Gruff Rhys yn ein dysgu !
Yn bwysig iawn roedd mewnbwn
sylweddol o hiwmor yn sioe Gruff Rhys, ac wrth drafod John Evans yn cael gwaith
gyda’r Wladwriaeth Sbaeneg i archwilio’r Missouri dyma Rhys yn cyfeirio at hyn
fel engraifft arall o gael gwaith drwy allu’r Gymraeg. Yn abesenoldeb llwyr
unrhyw ddelweddau o Evans fe ath Rhys ati i greu pwped maint plentyn o John
Evans, a bu’r pwped ar daith yn ddiweddar i’r Unol Daliaethau yn dilyn llwybr
John Evans.
Cafwyd lun o’r pwped yn cael ei ddal
gan yr heddlu er mwyn ategu’r pwynt i Evans gael ei garcharu yn St Louis yn ol
yn 1793. Do fe chwerthais, ond roedd yn amlwg i mi fod Gruff Rhys wedi taro ar
ffordd newydd o gyflwyno Hanes Cymru, neu hanes John Evans Waunfawr yn sicr.
Rydym yn disgwyl i’n ser pop ddweud rhywbeth am gymdeithas, neu hyd yn oed
rhywbeth gwleidyddol bob hyn a hyn, ond rhaid cyfaddef fod rhywbeth braf iawn
mewn cael gwers hanes gan seren bop mewn gwyl lenyddiaeth !
No comments:
Post a Comment