Mi fydd
unrhywun sydd yn gwylio neu yn gwrando ar y newyddion yn ddiweddar wedi clywed
am agor Pwmp Gwres Mor – ers 21/05/14 ym Mhlas Newydd, Mon. Gadawaf fanylion a
manylder sut mae hyn yn gweithio yn nwylo galluog Bethan Wyn Jones a fe
ganolbwyntiaf ar yr archaeoleg a welwyd yn ystod ein hymweliad a Phlas Newydd
wythnos yn ol fel colofnwyr yr Herald Gymraeg.
Rhaid cyfaddef i ni gael ein trin yn
wych gan staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cawsom ein croesawu gan 6 ohonnynt, pawb gyda ei arbenigedd, a
heb iddynt osod carped coch, a heb fod un ohonnon hefo’r enw ‘Tywysog Siarl’,
anodd dychmygu sut gallwn fod wedi cael gwell croeso. Ein prif dywysydd oedd
Keith Jones sydd yn gyfrifol am waith amgylcheddol yr Ymddiriedolaeth ac ef yn
bennaf sydd yn gyfrifol am ddatblygu’r cynllun Pwmp Gwres Mor ar gyfer
cynhesur’r ty hynafol.
Ond fel colofnwyr yr Herald fe gafwyd
wledd archaeolegol yn ogystal ac un amgylcheddol / technoleg werdd. Yn dilyn
taith dywys o’r Plas ei hyn, gan ymweld a lloftydd fo a hi, gan astudio mulrlun
canfas Rex Whistler a gweld coes bren yr Ardalydd cafwyd cyfle prin i ymweld
a’r seleri tanddaearol. I mi, ac archaeolegydd yr Ymddiriedolaeth, Kathy Laws,
roedd hyn yn antur hynod gyffrous ac yn codi awydd am astudiaeth pellach o
hanes y seleri.
Gwelwyd y selar win a seleri lle
cadwai’r teulu eu archifau ond wedyn yr hyn oedd yn wirioneddol ddiddorol os
nad ychydig yn annisgwyl oedd fod lefel is wedyn i’r seleri. Felly dyma ddringo
un llawr i lawr ac yma gwelwyd muriau hynafol, peidiwch a gofyn pa gyfnod yn
union, ond roedd yn amlwg fod y gwaith brics yn y seleri wedi eu gosod yn erbyn
wal o gerrig mawr oedd yno yn flaenorol.
Dyma lle roedd Kathy yn awgrymu fod
angen i rhywun wneud arolwg manwl o’r adeiladwaith yma i geisio creu llinell
amser a llinell datblygiad ar ei gyfer. Y tebygrwydd yw fod rhain yn perthyn i adeilad
cynharach na’r ‘Plas Newydd’. Yn wir, yr enw blaenorol ar y lle yma oedd
‘Llwyn y Moel’ a’r cwestiwn amlwg yw a oedd rhai o’r hen walia yma yn y selar
ac ambell fwa drws yn perthyn i’r ty gwreiddiol o gyfnod y Tuduriaid ?
Awgrymwyd fod darn o’r ‘Ystafell
Gerdd’ yn perthyn i’r hen neuadd ond fe drawsffurfiwyd y ty yng nghanol y
ddeunawddfed ganrif gan Nicholas Bayly yn yr arddull ‘Gothig’ cyn i’r plas
ddatblygu ymhellach dan ofal James Wyatt a Joseph Potter. Yn y 1930 cafwyd
wared a rhan helaeth o’r elfennau Gothig gan y pensaer Harry Goodhart-Rendel a
dyma sydd i’w weld heddiw.
Felly pethau cymhleth yw adeiladau,
anodd i’w dyddio yn gywir ac i wahaniaeuthu rhwng y gwahanol gyfnodau o
adeiladu, addasu a newidiadau. Ar ol hanner awr hynod gyffrous o dan y ddaear
daeth yr amser i ni weld golau dydd a dyma Keith yn ein harwain at lan y Fenai
i ni gael gweld lle mae dwr y mor yn dod i mewn i’r orsaf bwer newydd. Ond, eto
i’r archaeolegwyr, dyma le arall o ddiddordeb mawr gan fod yma olion yr hen
‘Rhodfa’r Mor’ a ddefnyddiwyd gan “Ladis” y Plas er mwyn cael dipyn o awyr iach dybiwn I.
O ochr y Fenai, roedd gweddillion
wal y rhodfa i’w gweld yn glir ac yn defnyddio’r arddull esgyrn-penwaig (‘herringbone’)
o adeiladu, sef y cerrig yn sefyll yn syth yn hytrach nac yn wastad. Mae
adeiladwaith tebyg i’w weld ym Mhorthladd Amlwch, ym muriau y gaer Rufeinig yng
Nghaergybi ac yn wir yng nghronbil muriau ‘Hen Walia’ yng Nghaernarfon.
Dangosodd Kathy adroddiad
archaeolegol oedd yn cynnwys hen luniau o’r “ladis” yn cerdded y rhodfa yn eu
sgertiau llaes gyda ymbarel rhag cael gormod o haul. Dyna braf arnynt ynde, ond
ar hyn o bryd does dim mynediad cyhoeddus i’r rhan yma o’r Plas / gerddi a
mae’n debyg byddai cost sylweddol i unrhyw gynllun o ail godi’r rhodfa. Cafwyd
hyd i olion ogofau yma hefyd yn ystod y gwaith adeiladu diweddar, a rhain oll
wedi eu cau gan y Pagets, ond eto dyma gwestiwn pam mor hynafol yw’r ogofau ?
Beth petae rhain wedi eu defnyddio gan ddyn cyn i’r Fenai wahannu’r ynys o’r
tir mawr yn ol yn y cyfnod Mesolithig efallai ?
Diwnod bendigedig felly yn cael
archwilio Plas Newydd. Diddorol fod cymaint o ‘archaeoleg’ yma heb gychwyn son
am y gromlech ar y lawnt a Bryn yr Hen Bobl wrthgwrs ! Cofiwch edrych ar Blog
Keith Jones ar hen beiriannau hydro dan yr enw
‘Hela Hydros’
No comments:
Post a Comment