Cefais wahoddiad i fynd draw i weld Eglwys Sant Pedr, Niwbwrch gan y ceidwad Norman Evans, gan ddisgwyl mae uchafbwynt fy ymweliad fyddai gweld y ffenestr Cyn-Raffaelaidd, ond rhaid cyfaddef na ddisgwylias weld y fath gyfoeth hanesyddol yn yr eglwys hynod yma. Dyma un o’r ymweliadau mwyaf diddorol i mi gael yn ddiweddar a byddwn yn argymell fod pawb sydd a diddordeb yn y maes yn gwneud yr ymdrech i ymweld ag Eglwys Sant Pedr.
Mae’n bnawn Sul, mae fy nhad wedi
dod am dro hefo mi, a rydym yn astudio rhai o’r cerrig bedd yn y fynwent wrth i
Norman gyrraedd. Yn y fynwent hon mae bedd a cholofn Pritchard Jones, y
cymwynaswr sydd yn rhoi ei enw i ddwy neuadd, y neuadd honno ym Mhrifysgol
Bangor ac wrthgwrs y neuadd gymunedol a’r llyfrgell anhygoel ym mhentref
Niwbwrch ei hyn.
Yn amlwg mae digon o gerrig bedd diddorol
i’w gweld cyn i ni fynd i fewn i’r eglwys, a mae Norman yn fwy na hapus i ddangos
rhai o’r nodweddion a chymeriadau diddorol sydd yn y fynwent. Cawn garreg fedd
Griffith Rowlands, 1760, curad Llangaffo, a foddwyd mewn damwain /
llongddrylliad ar y Fenai.
Cawn ddelwedd o’r penglog a’r esgyrn
croes ar garreg fedd Thomas Meredith, hwnnw briododd gwraig a’r enw hyfryd
Magdelen a fu farw ym 1738. Rhaid bod Thomas druan wedi ei golli i rhyw bla neu
haint difrifol felly. Nid annisgwyl efallai yw cysylltiad Niwbwrch a’r Mor a
mae sawl carreg fedd ar ochr ddeheuol i’r Eglwys hefo graffiti arnynt yn dangos
lluniau o longau hwylio.
Yr hyn sydd yn amlwg o’r tu allan yw
fod hon yn eglwys hir iawn, tystiolaeth fod yr eglwys wedi ei hymestyn yn
hanesyddol, ond mae’n anarferol o hir, a mae Norman yn cadarnhau mae hon yw’r
eglwys hiraf ym Mon. Dyna chi ffaith ddiddorol yn ei hyn, ac wrth i ni drafod
hanes yr Eglwys mae’n werth atgoffa pawb fod yr eglwys wedi ei adeiladu rhyw 50
medr i’r gogledd ddwyrain o Llys Rhosyr (llys Tywysogion Gwynedd).
Efallai fod modd cyfuno ymweliad a
Llys Rhosyr a Sant Pedr, yn sicr byddai hynny yn wledd ar gyfer pnawn Sul – a wedyn
gorffen eich diwrnod yn cael panad yn Hooton’s Brynsiencyn (y ganolfan arddio)
fel yn wir y gwnaethom ni. Gyda llaw, bydd Llys Rhosyr yn cael ei ‘ail-godi’,
neu ei ‘ail-greu’ i fod yn fanwl gywir, yn Sain Ffagan cyn bo hir, felly bydd
modd gweld sut byddai Llywelyn ab Iorwerth a Siwan, a Llywelyn ap Gruffydd ac
Eleanor wedi treulio eu hamser yma ar Ynys Mon !
Yr
hen enw ar Niwbwrch oedd Llanbedr Rhosfair. Doedd y ‘Newborough’ ddim yn bodoli
tan i Edward 1af symud poblogaeth Llanfaes drosodd i orllewin yr Ynys er mwyn
iddo adeiladu ei dref newydd Seisnig ym Miwmares ym 1295. Dyma’r ‘ethnic cleansing’
yn Hanes Cymru fel rydym yn atgoffa ymwelwyr wrth eu tywys o amgylch Castell Biwmares.
Er fod awgrym fod yr eglwys hir yn ganlyniad o ymuno dwy eglwys, yr un i Fair
ac yr un i Pedr, ond mae Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Gwynedd yn awgrymu nad yma oedd eglwys Santes Fair. Felly efallai
mae datblygiad naturiol o ymestyn sydd i’r eglwys hon wedi’r cyfan.
Wrth i ni fynd i mewn i’r eglwys
dyma gytuno y byddwn yn cychwyn gyda’r ffenestr ddwyreiniol Cyn-Raffaelaidd. Cynllunwyd
y gwydr lliw gan Henry Ellis Wooldridge, un o ddisgyblion a chymhorthydd i Burne-Jones
(mae Burne-Jones wedi ei ddisgrifio fel y Cyn-Raffaelydd olaf). Y nodwedd
anarferol am y ffenestr yw fod y lluniau o’r Hen Destament. Cawn hanesion
Samiwel, Jona a’r morfil, Moses a’r anialwch, 6 stori i gyd, ond yr amlwg yw
fod hon yn ffenestr wirioneddol drawiadol. A bod yn onest mae rhywun yn sefyll
yno, yn edrych, a’i geg a’r agor fel mae nhw’n dweud. Un gair – bendigedig !
Ond mae mwy ! I’r gogledd a’r de yn
y gangell, mae ffenestri ‘mwslemaidd’ sydd yn perthyn i Arglwydd Stanley, Penrhos
a’i gyfnod o adnewyddu eglwysi oddeutu 1886. Roedd Stanley wedi priodi gwraig o
Sbaen a wedi ei ddylanwadu cymaint nes iddo arfer crefydd y Mwslemiaid. (gweler
hefyd y teils Mwslemaidd yn Eglws Llanbadrig ger Cemaes).
Eto does ond un gair i dsisgrifio’r
ffenestri yma - ‘trawiadol’. Mae’r gwaith gwydr, y delweddau blodeuog, y
patrymau yn wirioneddol fendigedig. Felly dyma chi wledd o ffenestri gwydr –
digon i fodloni unrhyw ymwelydd. Er mor
drawiadol y ffenestri felly, dim ond megis cychwyn ydym ar ein taith dywys o’r
eglwys gan Norman.
Dyma ddychwelyd at y fedyddfaen, a
sylwi fod cerfluniau ar dair ochr gan adael un ochr yn wag. Rydym yn damcaniaethu
mae’r ochr wag oedd cefn y fedyddfaen, efallai ar un adeg wedi ei osod yn erbyn
wal – ger y drws gwreiddiol ar ochr
ddeheuol yr eglwys. Mae’r drws yma bellach yn arwain i’r festri bach lle gwelir
dwy garreg fedd hynafol wedi eu gosod yn y wal. Ar y fedyddfaen mae symbol y
groes ‘Maltese’ yn ogystal a clymwaith Celtaidd.
Ger y fedyddfaen, a mae hyn yn sicr
o ddiddordeb i hynafiaethwyr Mon, mae cofeb i Henry Rowlands, Llanidan. Ond nid
i “Y Henry Rowlands”, sef awdur ‘Mona Antiqua Restaurata’ (1723) ond yn hytrach
i’w wyr, o’r un enw a’r un alwedigaeth. Mae bedd yr wyr yma gyda llaw ym
mynwent Llanedwen.
Gan droi yn ol at y gangell, ceir
dau fedd hynafol yn gorwedd i’r naill ochr, un i David Barker a fu farw oddeutu
1348 neu 1350 yn ystod cyfnod y Pla Du. Perthyn i Matthew, Archddeacon Mon mae’r
llall. A mae mwy o nodweddion, mae ‘corbel’ bach diddorol ar y wal ogleddol ger
hen ddrws caeedig sydd i’w weld yn y wal a sydd wedi ei gladdu hanner ffordd ar
y tu allan oherwydd y storm dywod fawr yng nghanol yr 14dd ganrif – yr un storm
a orchuddiodd Llys Rhosyr.
Ond i gloi, er mor wirioneddol
hyfryd oedd y ffenestri, yn wir bythgofiadawy, rhaid datgan fod Norman wedi
ychwanegu cymaint at ein hymweliad gan ein tywys yn drylwyr o un peth i’r
llall. I ddilynwyr y cyfnod Cyn-Raffaelaidd hwyr, mae ffensetr Wooldridge werth
ei weld ond mae ffenestri Stanley hefyd yn waith celf o’r radd uchaf.
No comments:
Post a Comment