David Hurst
Thomas awgrymodd mae gwir werth archaeoleg yw’r wybodaeth rydym yn ei
ddarganfod yn hytrach na’r gwrthrychau unigol. Modd i ddeall y gorffennol yw’r
gwrthrychau yn hytrach na pethau “gwerthfawr” ar ben eu hunnan - allan o
gyd-destyn, ac yn achos gwaith diweddar yn cadw golwg am olion archaeolegol ar
hyd llinell y bibell nwy o Bwllheli i Flaenau Ffestiniog mae dyfyniad Hurst
Thomas yn berthnasol iawn.
O ran darganfod gwrthrychau ac olion
‘syfrdanol’ mae’n debyg y gall rhywun awgrymu fod y gwaith wedi bod braidd yn
siomedig, ond os yw rhywun am ddadlau mae’r pethau bach weithiau sydd yn
datgelu’r pethau mawr, cafwyd cyfle gwych yma i astudio’r tirwedd ar hyd
afordir ddeheuol Llyn ac Eifionydd, ar draws Traeth Mawr ac ymlaen wedyn heibio
Maentwrog am Flaenau Ffestiniog.
Un o’r cwestiynau rwyf yn ei gael
bob amser wrth ymweld a safleoedd archaeolegol hefo grwpiau a dosbarthiadau
yw’r cwestiwn o faint o goed fydda wedi bod o gwmpas y safle yn y cyfnod
perthnasol. Cofiwch i amaethyddiaeth gael ei gyflwyno i Ynysoedd Prydain yn y
cyfnod Neolithig, oddeutu 6 mil o flynyddoedd yn ol, a byth ers hynny mae dyn
wedi bod yn clirio’r tir ar gyfer tyfu cnydau a chadw anifeiliaid.
Wrth reswm, nid hawdd yw ateb y
cwestiwn uchod gyda sicrwydd heb fod yr archaeolegwyr wedi cael cyfle i wneud
archwiliad gronynnau paill hynafol ac i hyn fod yn effeithiol mae’n rhaid cael
hyd i’r gronynnau paill wedi goroesi. Y cyfle gorau i sicrhau goroesiad yw
archwilio mawndir ac yn ystod y gwaith ar y bibell nwy dyma’r union gyfle yn
dod i’r fei ger Pentrefelin.
Felly y broses yw cymeryd darn sampl
drwy’r mawndir ar gyfer ei archwylio a wedyn drwy astudio’r paill yn y gwahanol
haenau o fawn mae modd creu darlun o sut mae’r tyfiant wedi newid dros amser.
Yn syml, mae rhywun yn cyfri’r gronynnau paill ac yn creu tabl o’r calyniadau.
Un o’r darganfyddiadau pwysicaf yn
ardal Pentrefelin oedd yr hyn a elwir yn domeni llosg, mae rhain ddigon
cyffredin yn y tirwedd a’r ddamcanaiaeth yw fod rhain yn weddillion llefydd
goginio yn dyddio yn ol i’r Neolithig a drwy’r Oes Efydd. O’r dyddiad
radio-carbon ym Mhentrefelin gellir awgrymu fod rhain mewn defnydd yn y cyfnod
rhwng 2500 cyn Crist hyd at oddeutu1500 cyn Crist.
Er hyn, cafwyd dyddiad yn y 7fed ganrif
oed Crist ar gyfer un o’r tomeni llosg ym Mhentrefelin, sydd yn anisgwyl ac yn
sicr yn anghyffredin. Os felly, efallai fod y dull yma o goginio drwy grasu
cerrig mewn tanllwyth a wedyn eu rhoi mewn i gafn o ddwr er mwyn berwi’r dwr wedi cael ei ‘ail-ddarganfod’ yn y Canol
Oesoedd cynnar – os felly mae hwn yn ddarganfyddiad pwysig iawn.
Ond beth mae’r tomeni llosg cyn-hanesyddol
yn ei ddweud wrthom ? Efallai mae llefydd a ddefnyddir yn achlysurol, a hynny
wedyn efallai dros gyfnod hir o amser, ar gyfer gwledda a digwyddiadau pwysig
neu ddefodau pwysig fydda’r mannau goginio yma ond mae’n rhaid felly, fod dyn
wedi byw yn weddol agos. Dyna’r peth pwysicaf, mae’r tomenni llosg yn awgrymu
fod dyn yn byw (a ffermio) yn yr ardal. Yr hyn sydd ddim mor hawdd i’w
ddarganfod yw olion eu tai – yn sicr yn y cyfnodau Neolithig / Oes Efydd.
Felly gan fod nifer o domeni llosg
yn ardal Pentrefelin gallwn fod yn hyderus fod dyn yn byw ac yn amaethu yn yr
ardal yma yn y cyfnod rhwng y Neolithic Hwyr a’r Oes Efydd ond mae’r dystiolaeth
o’r archwiliad gronynnau paill yn cadarnhau fod coed yn cael eu clirio a
chnydau yn cael eu tyfu.
Yn ol y dystiolaeth, yn y cyfnod
Neolithig hwyr, odduetu 2500 oed Crist, roedd ardal Pentrefelin yn goediog gyda
gwernen a derwen yn ddigon cyffredin, y wernen yn amlwg yn tyfu yn agosach at
yr afon a’r dderwen yn fwy cyffredin dros ardal ehangach. Awgrymir fod coed yn
cael eu clirio dros y mileniwm nesa, mae’n debyg ar gyfer caeau – rhai ar gyfer
anifeiliaid a rhai ar gyfer cnydau ond nad oedd clirio coed ar raddfa fawr.
Felly o’r Neolithig ymlaen, mae
amaethyddiaeth yn bodoli ond mae’n debyg mae’r patrwm fyddai ffermydd bychain
mewn ardaloedd wedi eu clirio o goed. Awgrymir hefyd o’r arolwg fod y coed yn
tyfu yn ol ar ol cyfnodau o glirio ac amaethu. Erbyn yr Oes Haearn fe welir fod
clirio coed dros ardal ehangach a fod hyn yn batrwm parhaol wedyn yn y mileniwm
cyn Crist.
Dyma’r patrwm felly, erbyn y cyfnod
Celtaidd yn y canrifoedd olaf cyn Crist, rydym yn gweld clirio sylweddol o goed
a fod cnydau yn cael eu tyfu ar raddfa enang. Yr awgrym yw fod y tirwedd yn un
o wair a chaeau parhaol ond fod paill grug yn awgrymu fod mawndir yn ymestyn
hefyd yn y dirwedd. Mae’n debyg fod y datblygiad mewn tir amaethyddyddol yn
cadarnhau fod y boblogaeth ar dwf a fod mwy o alw ac angen am fwyd.
Dangosir yr arolwg fod y mawndir a
glaswellt yn parhau i ehangu yn y dirwedd ac erbyn ddiwedd y mileniwm cyn Crist
mai ond darnau o goedwigoedd sydd ar ol a fod y tirwedd yn ymdebygu i’r hyn a
welir heddiw (petae rhywun yn cael gwared ar drefn caeau fodern). Y tebygrwydd
yw fod y paill pin yn adlewyrchu cyflwyno coed newydd i’r ardal o’r
ddeunawddfed ganrif ymlaen.
Y fantais fawr o edrych am olion
archaeolegol ar hyd y linell bibell nwy o Bwllheli i Flaenau Ffestioniog yw fod
ardal eang wedi cael ei archwilio. Er na chafwyd fawr o olion tai o unrhyw
gyfnod cyn-hanesyddol mae’r cyfle i gael arolwg gronynnau paill wedi rhoi
darlun o’r tirwedd dros dair mileniwm i ni. Felly tro nesa bydd rhywun yn gofyn
am faint o goed oedd ar y tirwedd mae’n bosib awgrymu fod y clirio yn cyflymu
ac yn ymestyn yn yr Oes Haearn wrth i’r boblogaeth dyfu.
Fel rhan o’r prosiect yma bu i Jane
Kenney, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd gynnal nifer o ddarlithoedd
cymunedol ar hyd llinell y bibell nwy. Mae hyn yn elfen bwysig o’r gwaith
archaeolegol, does fawr o werth dysgu am y gorffennol os yw’r wybodaeth yna
ddim yn cael ei rannu hefo’r gymuned leol.
No comments:
Post a Comment