Rwyf wedi
dechrau cynnal dosbarth ‘Cymraeg i Oedolion’ yn yr Wyddgrug hefo criw o
ddysgwyr sydd i bob pwrpas yn rhugl, a gan mae archaeoleg yw fy maes yn hytrach
na ‘dysgu Cymraeg’, beth fyddaf yn ei wneud hefo dosbarthiadau o’r fath yw
defnyddio archaeoleg i ymarfer ac ymestyn dipyn ar eu Cymraeg.
Y ‘wers’ bwysig ar hyn o bryd yw
cael dosbarthiadau o’r fath i edrych a sylwi ar y dirwedd o’u hamgylch. Mae
angen dysgu i “ddarllen y dirwedd”, i edrych o dan eich traed ar adegau, a mae
rhan helaeth o hyn yn deillio o ddadl O.G.S Crawford a’i lyfr ‘Bloody Old
Britain’ fod y cyfan yma o’n blaen ond i ni sylwi arno.
Mae’r dosbarth yn cael ei gynnal yng
nghanolfan Ty Pendre a braf oedd cael dechrau’r wers drwy edrych allan o’r
ffenestr. Dyma gael cyflwyno fy nadl heb orfod gadael yr adeilad, gan fod Capel
Pendref yn sefyll gyferbyn a’r ystafell ddosbarth. Dyma gapel a adeiladwyd ym
1827 am gost o £1600 a sydd yn yr arddull ‘gothig Sioraidd’. Ymhlith y
nodweddion Gothig mae ffenestr addurniadol gaedig ar ffurf blodyn, (rhosyn
efallai ?) a ffasad o gerrig nadd.
Ond, y pwynt pwysig, pwynt un fel
petae, yw fod ein hen gapeli yn rhan o’r tirlun archaeolegol, yr un mor deilwng
o sylw a’r castell mwnt a beili sydd yn sefyll tu cefn i’r capel. Yr ail bwynt
yw fod y capeli yma angen dipyn bach mwy o sylw. Soniais o’r blaen, mae’r
eglwysi ar agor i’r cyhoedd, y capeli yn tueddi i fod ar gau a dipyn o waith
cael hyd i allwedd. Doedd dim rhaid cerdded mwy na deg llath o’r ystafell
ddysgu nes ein bod yn edrych ar ‘archaeoleg’, adeilad hynafol, olion materol
dyn.
Y trydydd pwynt, mae’n debyg, yw fod
y pethau yma i’w gweld, yn aml yn agos iawn, ond i ni sylwi. Yn fwy amlwg ‘archaeolegol’
ac yn fwy amlwg hanesyddol ac hynafol mae’r castell mwnt a beili neu ‘Bryn y
Beili’. Bellach mae gweddillion y castell yma a adeiladwyd oddeutu 1100 oed
Crist wedi ei dirweddu yn sylweddol. Ceir maes bolwlio o fewn y buarth (beili),
cawn lwybrau yn ein harwain at gopa’r mwnt a chawn gylch yr orsedd Eisteddfod
Genedlaethol yr Wyddgrug 1923 ar y safle.
Castell yn
perthyn i’r Normaniaid a’i hymgyrcheodd cynnar i fewn i ogledd Cymru a Dyffryn
Alun yw hwn ond rhaid chwerthin mewn un ystyr o ddychmygu plant Cynan yn
meddiannu’r castell, yn ei ail berchnogi ym 1923 ac yn dawnsio’r blodau lle bu
unwaith y gormeswr. Ceir cylch yr Orsedd diweddar (1914 -16) hefyd yng
Nghastell Aberystwyth, un o gestyll Edward 1af - er mwyn gwneud yr hanes yn fwy
diddorol a chaniatau i ni wedyn drafod y cyd destyn ehangach a dod a’r Iaith
Gymraeg yn ol i ffocws y wers.
Wrth droed y
buarth (beili) ceir ty o’r enw ‘Tan y Coed’, ddim mor hynafol a hynny,dechrau’r
20fed ganrif dybiwn i, ond dyma un o’r nodweddion archaeolegol mwyaf diddorol
yn yr Wyddgrug ac un sydd yn ysgogi cryn drafodaeth ymhlith y dosbarth. Ar ben
wal yr ardd mae hyd at 10 o gerrig cerfiedig, nifer fawr yn gerfluniau o
wynebau, a’r son yw fod rhain yn dyddio yn ol i’r Canol Oesoedd.
Y tebygrwydd yw fod y cerrig yma yn
dod yn wreiddiol o eglwys, efallai wir o eglwys Santes Fair yn y dre, Y son yw
fod rhain wedi cael eu hachub gan Tan y Coed yn ystod cyfnod atgyweirio Santes
Fair gan George Gilbert Scott rhwng 1853 ac 1856. Yr hyn sydd yn amlwg o edrych
yn fwy manwl ar y cerrig yw fod y math o garreg yn amrywio ac efallai fod hyn
yn awgrymu fod y cerrig yma yo wahanol eglwysi ? Anodd gwneud pen na chynffon o’r
holl beth ond doedd dim cysondeb amlwg ymhlith y cerrig fyddai yn awgrymu un
cyfnod neu un eglwys. Yn wir roedd y casgliad yn debycach i rhywbeth fydda
rhywun wedi eu gasglu dros y blynyddoedd ar gyfer yr ardd ? Beth bynnag yw’r
hanes, cafwyd drafodaeth ddiddorol yma a chytunwyd fel dosbarth fod angen cael
mwy o wyboaeth a hanes am yr hen gerrig yma.
Unwaith eto, cyn troi an Eglwys
Santes Fair, rhaid oedd gwneud pwynt arall. Dyma droi y dosbarth, ond heb orfod
gadael y safle, gan edrych wedyn ar adeilad hynafol arall tu cefn i ni, Ysbyty
Cymuned yr Wyddgrug. Adeiladwyd yr ysbyty yn wreiddiol yn ystod cyfnod Rhyfel y
Crimea, 1877. Cyfranwyd nawdd gan Stad Grosvenor ar gyfer yr adeiladu a dyma
sylwi felly ar y brics mewn patrwm diemwnt ar wyneb yr adeilad. Unwaith eto
nodswedd bach diddorol, ond amlwg ond i ni sylwi.
Er mwyn gnweud pwynt arall, fod
diwylliant yn gorfod cael ei ystyried yn y dirwedd archaeolegol dyma orffen ein
taith fer o amgylch ardal Pendref yr Wyddgrug ger beddfaen Richard Wilson.
Oherwydd Ruskin dwi ddim yn amau, disgrifiwyd Wilson yn aml fel ‘the father of
English landscape painting’, sydd ychydig yn eironig o ystyried iddo gael ei
eni ym Mhenegoes, Sir Drefaldwyn ym 1713.
Dyma ni felly, ger ei fedd, yma yn
Santes Fair yr Wyddgrug, yr arlunydd a ysbrydolodd ac a gafodd ddylanwad ar JMW
Turner a Constable. Atgoffwyd mi o dirlun hyfryd Wilson o Gastell Penfro, lle
mae Wilson wedi codi uchder y clogwyni a wedi dangos llun y castell ar len y
dwr fel adlais o’r llynau gwyrddion llonydd gan Gwilym Cowlyd. Cawn weld y llun
hyfryd hwn, oddeutu 1765 yn Amgueddfa
Genedlaethol Cymru.
Trodd y sgwrs at wr enwocaf yr Wyddgrug,
Daniel Owen. Fel byddaf yn ei ddweud bob tro – “dydi hyn ddim yn gystadleuaeth
!”. Dydi un cymeriad hanesyddol ddim yn bwysicach neu mwy arwyddocaol na’r
llall, does dim modd cymharu Daniel Owen a Richard Wilson yn hynny o beth –
cyfrannodd y ddau mewn ffyrdd gwahanol – er i’r Celfyddydau heb os.
Ond
wrth edrych ar fedd unig Wilson, ger y maes parcio bychan i’r gogledd o Santes
Fair, mae rhywun yn cael y teimlad fod Wilson wedi marw yma (1782) yn dlawd a
heb gydnabyddiaeth. Treuliodd ei ddydiau olaf yn Colmendy, a fel sydd rhy
arferol gyda pobl greadigol, heb gydnabyddiaeth deilwng yn ystod ei fywyd. Drwy
farwolaeth mae anfarwoli’r artist gweledol. Richard Wilson yr arlunydd tirwedd
o Faldwyn. Parch.
No comments:
Post a Comment