Yr wythnos
hon bydd perfformiad yn digwydd yn Llundain, ddim yng Nghymru, a go brin bydd y
perfformiad yn digwydd yng Nghymru onibai fod rhywun yn rhywle yn cael
gweledigaeth. Ac eto mae’n berfformiad sydd yn ymwneud a Chymreictod mewn un
ystyr, efallai gallwn awgrymu fod y perfformaid yn ymwneud a ‘dianc o bentref
bychan’. Rydym ddigon cyfarwydd a’r stori hon, rhywun ac angerdd, rhywun ac
ysbryd rhydd, rhywun sydd isho gweld y Byd a mae agweddau’r pentref bach neu
Gefn Gwlad yn eu rhwystro, eu rhwystro rhag cael byw.
Efallai mae stori am rwystredigaeth
yr arddegau yw hon felly, a’r unigolyn, yr ysbryd rhydd, yn penderfynu ‘troi
cefn’ ar gefn gwlad a mentro i’r ‘Ddinas fawr ddrwg’. Cyfarwydd ynde. Bellach
wrthgwrs mae pobl ifanc Cymru ac yn sicr pobl ifanc Cymraeg eu hiaith yn dilyn
y llwybr yma heb unrhyw awgrym o rwystredigaeth na gwrthryfela drwy symud i
Gaerdydd. Mae hon wedyn, y stori ddiweddar, yn un dra wahannol.
Nid ‘rebals’ sydd yn heidio o
Wynedd, Llyn a Mon i Gaerdydd ond y dosbarth canol uchelgeisiol, ar eu ffordd i
‘Cyfryngisville’, fel awgrymodd Joe Strummer yn y gan ‘Career Oppportunities,
“Do you wanna make tea at the BBC”. Yr ateb Joe yw, yn amlwg ydynt, ond fod
gwenud te bellach yn gyfystyr a bod yn gynhyrchydd radio. A dyma fi yn swnio
fel Adferwr. Cofiwch fe ddaw nifer yn ol mewn amser i fagu teulu, bydd tynfa y
mynydd, y corsdir a’r llynnoedd yn ormod i rai yn sicr.
O fewn cyd-destyn ehangach
diwylliannol rydym yn troedio llwybr cyfarwydd iawn, fel llwybrau TH
Parry-Williams o amgylch Llyn y Gadair, Rhyd Ddu. Rydym yn gyfarwydd a’r
cynefin yma, rhiad dianc er mwyn byw, rhaid gadael y cyfarwydd a’r culni
llesteiriol. Ond y cyfarwydd hefyd yw’r olygfa un-llygeidiog, cul iawn, sydd i’w
gael o “ddiwylliant” yn y cyd-destyn Cymreig, (Cymraeg a Chymreig).
Dyma
sydd yn poeni rhywun, rydym mewn pentref heb fawr o ffenestri, felly rhan yn
unig o’r olygfa sydd i’w weld. Rydym yn edrych dros y mynyddoedd heb weld na
throed na chopa, dim ond rhwng 500 troedfedd a 2,995 troedfedd sydd yn cael ei
ganiatau ganddyn “Nhw”. Yn y cyd –destyn yma y “Nhw”, anweledig ond holl
bresennol, yw’r consensws, yr hyn rydym yn ei dderbyn y ddi-gwestiwn yn y Gymru
Gymraeg, er mae lle i ddadlau fod yna “Nhw” go iawn hefyd, fel y ‘Maffia’ ac i
ddyfynnu can arall, gan Paul Weller y tro yma, “The people want what the people
get”.
Yr
hyn sydd yn poeni rhywun hefyd yw fod hyn yn ymddangos bron yn gynllwyn drwy
gytundeb, rydym yn fodlon hefo’r ddiffyg ffenestri, ychydig iawn sydd, nid yn
unig am wthio’r ffiniau, ond sydd yn gweld yr angen am wthio’r ffiniau yn y lle
cyntaf. Ac eto, ac eto, o ran dadansoddi’r Gymru Gymraeg ol-Fethodistaidd, onid
yw hyn yn ei hyn yn cynnig maes ymchwil hynod ddiddorol i rhywun. Rydym yn ol
ar lwybr cyfarwydd corsiog ‘Hanes Cymdeithasol’ yn y cyd-destyn Cymreig.
Felly beth am gyrraedd y pwynt, sioe
lwyfan y gantores, actores a’r ymryddawn Lowri Ann Richards. Gynt o Gricieth,
er fod y broliant yn dweud iddi ddod a Llanfairpwll (fersiwn llawn), ond rhaid
wrth ddrama wrth reswm, dyma’r sioe lwyfan ““Whatever Happened to LaLa Shockette?”
Rhaid fod Lowri Ann wedi diolch i’r hollalluog
am gael yr enw Lowri Ann a oedd yn canitau iddi drawsnewid y ferch o Gricieth
i’r ferch ‘Blitz Kids’ / ‘New Romantics’ gan fedyddio ei hyn yn “L.A Richards”,
llawer mwy ‘rhamantaidd’. Y tro cyntaf i mi ddod ar draws L.A Richards oedd ar
dudalennau cylchgrawn The Face ddechrau’r 80au yn goesau i gyd ac yn rhan o’r
grwp ‘Shock’. Sgwennais amdani yn y Faner, yn union fel heddiw, yn falch o weld
rhyw elfen arall o ddiwyliiant a rhyw gysylltiad Cymreig – rhywbeth oedd yn ymestyn ffiniau.
Yn ystod cyfnod Y Faner roedd delweddau L.A
Richards yn eitha ‘rhywiol’ o gymharu ac unrhywbeth oedd yn y Byd Pop Cymraeg
ac efallai fod rhywun yn gweld angen am rhywbeth mwy deniadol, rhywiol, ffasiynol
na’r arferol denim, denim, denim. Yr enwog Gruff Rhys o’r Super Furry Animals’s
fathodd y genhedlaeth yna yn “Deinasoriaid Denim” – does neb wedi gallu rhagori
ar y disgrifiad hynny, nid hyd yn oed David R Edwards hefo “wastad yn mynd i
Lydaw byth yn mynd i Ffrainc”.
Ond pwynt hyn i gyd, wel mae Lowri Ann wedi
mentro ar liwt ei hyn i ddweud stori, y stori, drwy gyfrwng sioe lwyfan. Cofnod
o gyfnod sydd prin wedi cyffwrdd a’r Byd traddodiadol Cymraeg. Stori sydd ddim
at ddant melys a cheidwadol y rheini sydd am wneud y te, ond os mae dyna’r
ddadl dyddiau’r Faner, dyna’r ddadl hefyd heddiw – rhaid ymestyn ffiniau a
sicrhau fod popeth (ar gael) yn Gymraeg
neu oleiaf yn cael ei drafod.
Y ddadl yw, fod hyn i gyd yn Hanes
Cymdeithasol, mae’n bwysig fod yr hanes allan yna yn rhywle, a fel LaLa
Shockette yn gadael y LlanfairPG dychmygol, rhaid i rhywun yn rhywle sicrhau
nad yw culni ac un llygeidiaeth yn ein trechu rhag cael gwell golygfa o’r
mynyddoedd – troed a chopa !
No comments:
Post a Comment