Rhywbeth sydd
siwr Dduw o wylltio unrhyw archaeolegydd yw cysylltu Cor y Cewri a’r Derwyddon,
ac o ddarllen ‘Stonehenge Celebration and Subversion’ gan Andy Worthington
(gwasg Alternative Albion) yn ddiweddar mae digon yn y llyfr i wylltio rhywun,
mae hynny yn sicr. Ond hefyd yn llyfr Worthington, mae yna stori, stori sydd yn
mynd yn ol ganrifoedd a stori sydd yn cysylltu Iolo Morganwg, achos arno fo
mae’r bai am rhan helaeth o hyn, hipis y 70au a ‘ravers’ (Free Party Movement)
ddiwedd yr Ugeinfed Ganrif.
Iolo sydd yn gyfrifol, fwy na neb,
(heblaw Cynan yn y cyd-destyn Cymraeg) am atgyfodi’r syniad a’r ddelwedd o
dderwyddon, yn eu cylchoedd cerrig ac yn eu dillad gwyn. Er hyn, rhaid cydnabod
fod ein hen arwr a chyfaill o Fon, Henry Rowlands, awdur ‘Mona Antiqua
Restaurata’ 1723, hefyd yn cael ei gydnabod gan Worthington a mae llun y
derwydd gan Rowlands yn un o’r lluniau eiconiadd o dderwydd wrthgwrs.
Ond y stori mewn ffordd yw’r ymgais
drwy’r canrifoedd diweddar i esbonio beth oedd pwrpas y meini a phwy
adeiladiodd yr hyn a elwir yn aml yn ‘deml’, a chyn archaeoleg modern wrthgwrs,
roedd rhywun yn tueddu i awgrymu unai’r Celtiaid neu’r Rhufeiniad gan mae
dyma’r unig ‘hanes’ ysgrifenedig oedd ar gael. Ond yn ol at y Derwyddon ‘ma …..
Erbyn
diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg mae derwyddon ‘The Ancient Order of
Druids’ yn cynnal defodau yma ar hirddidd-Haf, ond gyda arweinydd newydd mae pethau
yn mynd yn fwy trefnus o 1909 ymlaen. Dyma’r flwyddyn mae George MacGregor Reid
yn cael ei urddo’n Arch-dderwydd. A dweud y gwir, o edrych ar hen luniau, petae
Cor y Cewri ddim yn y cefndir, digon hawdd fydda cam ddehongli’r lluniau a
meddwl fod y digwyddiad ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol a fod Cynan yna yn
rhywle. Bydd unrhywun sydd yn dilyn hanes y Sex Pistols yn gyfarwydd ac enw eu
cynllunydd cloriau / cyfarwyddwr celf, Jamie Reid - mae Jamie yn un o’r
MacGregor Reids, George oedd ei hen ewythr.
Parahau hyd heddiw mae defodau gan
Dderwyddon ar hirddydd-Haf, er fod Drewyddon (fel cenedlaetholwyr) yn yn tueddu
i ffraeo, gwahanu, sefydlu celloedd newydd ….. eitha Celtaidd / Cymreig mewn
ffordd. Dros y blynyddoedd mae enw Arthur Pendragon yn un arall amlwg yn hanes
yr ymgyrchoedd i gael mynediad a defnydd o Gor y Cewri.
Mor ddiweddar a llynedd bu Pendragon
yn galw am ail-gladdu yr esgyrn dynol sydd yn ganlyniad i’r gwaith cloddio yng
Nghor y Cewri dros y blynyddoedd. Yma, byddai’r archaeolegydd yn anghytuno a
Pendragon achos mae’r wybodaeth rydym yn ei gael o esgyrn / gwrthrychau mor
bwysig (hynny yw drwy gloddio) – dyma
sut mae modd dysgu a deall mwy – a dyma lle mae rhywun yn awgrymu mae deall mwy
a dysgu yw’r gwir gwerth yn yr holl beth.
Pwy ydi Pendragon i hawlio
cyfrifoldeb am unrhyw esgyrn ? A pwy ydi’r gwr yma i wisgo ‘mantell’ “Brenin
Arthur” mewn cowlach hanesyddol a niwl ffug rhamantaidd ? Yn ystod dyddiau Punk
un o slogannau Jamie Reid oedd ‘Never Trust a Hippie’ ac er fod Reid yn anelu
hyn at Richard Branson (pennaeth Virgin) yn anffodus, neu’n ffodus, mae’n
rhywbeth sydd wedi aros yng nghof fy nghenedlaeth i yn sicr. I ni, oedd yn ein
harddegau ddiwedd y 70au, roedd slogan Reid yn broffwydiol iawn (am hipis) a
heddiw mae can Catatonia yn dod i’m meddwl “You’ve got a lot to answer for”
(sef cenhedlaeth yr hipis) er nad dyna oedd testyn geiriau Catatonia wrth
reswm.
Efallai
mae Glyn Daniel yr archaeolegydd a golygydd y cyhoeddiad ‘Antiquity’ oedd un
o’r lleisiau mwyaf amlwg yn erbyn beth ddisgrifiodd ym 1978 fel “horrid bogus
druids” a “hooligans” a oedd bellach yn mynychu ar gyfer dau reswm gwahanol,
defod hirddydd-Haf a’r ‘Stonehenge Free Festival’. A bu gwrthdaro wrthgwrs dros
y blynyddoedd rhwng y derwyddon (go iawn / ffug) a’r hipis, pawb yn hawlio eu
lle a’u mynediad i’r meini.
Mae
un arall o gyfoedion Daniel, yr Athro Richard Atkinson drwy gyd-ddigwyddiad,
mae’n debyg, yn lygad dyst i ddefod gan The Ancient Order of Druids ym 1956. Y
cyd-ddigwyddiad yw fod Atkinson yn cloddio yno ar y pryd. Enw Atkinson sydd yn
cael ei gysylltu a’r gwaith cloddio a ffilmwyd ar gyfer y BBC yn Silbury Hill.
A rhyfedd o fyd, Atkinson oedd fy Athro yn ystod fy nyddiau Coleg yng
Nghaerdydd, er i mi ond ei weld ddwywaith erioed – yn edrych fel Robin Day o
fath.
Er fy mod yn llawdrwm iawn ar
feddylfryd niwlog yr hipis a’r derwyddon (ffug) mae un neu ddau o bwyntiau yn
llyfr Worthington sydd yn ennyn cyd-ymdeilmlad yr anarchydd ynddof, Un ydi
hanes Wally Hope, un o gyfoedion y grwp CRASS a’r llall yw’r modd yr ymysododd
yr heddlu (cyfnod Thatcher) ar y ‘Peace Convoy’ Mehefin 1985. Dyma ddau
ddigwyddiad sydd yn taflu cysgod trwm iawn dros weithredoedd y Sefydliad
Prydeinig.
Dyma lyfr felly sydd yn herio, yn
addysgu, yn mwydro, yn troedio sawl llinell rhwng hwn a llall ond sydd bob
amser yn gafael – unwaith eto, mae rhywun yn derbyn nad peth cyfforddus yw Hanes
i fod, ond yn hytrach rhywbeth sydd yn gorfodi rhywun i feddwl, i ail-feddwl, i
gymeryd ochrau. Diddorol iawn rhaid cyfaddef i archaeolegydd sydd hefyd yn
gerddor – ar pa ochr o’r wifren o amgylch Cor y Cewri fydda i yn sefyll felly ?
No comments:
Post a Comment